BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
1999 Rhif 3184 (Cy.42) (C.82)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyniad Rhif 1) (Cymru) 1999
|
Wedi'i wneud |
28 Hydref 1999 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 63(1), 66(2) a 67(2) o Ddeddf Iechyd 1999[1]:
Enwi, dehongli a chwmpas
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyniad Rhif 1) (Cymru) 1999.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "Deddf 1977" yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[2] ("the 1977 Act");
ystyr "Deddf 1990" yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[3] ("the 1990 Act").
ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Iechyd 1999 ("the Act");
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Diwrnodau penodedig
2.
- (1) 1 Tachwedd 1999 yw'r diwrnod a bennir i bob darpariaeth y Ddeddf a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau y mae wedi'i nodi yno.
(2) 1 Rhagfyr 1999 yw'r diwrnod a bennir i bob darpariaeth y Ddeddf a nodir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau y mae wedi'i nodi yno.
Darpariaeth arbed
3.
Er gwaethaf y diddymiadau a achosir gan baragraff 83(1) a (4) o Atodlen 4 i'r Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, ymdrinir ag unrhyw gyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau NHS yng Nghymru a roddir o dan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf 1990 ac sydd mewn grym yn union cyn 1 Rhagfyr 1999 fel petaent wedi'u rhoi o dan, ac at ddibenion, adran 17 o Ddeddf 1977.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd
28 Hydref 1999
ATODLEN 1Erthygl 2(1)
DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 TACHWEDD 1999
Adran 13 (Gorchmynion sefydlu Ymddiriedolaethau NHS)
Adran 14 (Ymddiriedolaethau NHS: arfer pwerau)
Adran 15 (Cyfalaf difidend cyhoeddus Ymddiriedolaethau NHS)
Adran 16 (Trosi benthyciadau cychwynnol Ymddiriedolaethau NHS sy'n bodoli eisoes)
Adran 17 (Benthyca gan Ymddiriedolaethau NHS)
Adran 18 (Dyletswydd Ansawdd) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol
Adran 28 (Cynlluniau ar gyfer gwella iechyd etc.) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol
Adran 65(1) (Diwygiadau i ddeddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a nodir isod)
Atodlen 4 -
paragraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 37 isod)
paragraff 37(5) a (6) a pharagraff 37(1) i'r graddau y mae'n ymwneud a hwy
paragraff 79(2)(a) ac (c) a pharagraff 79(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â hwy
ATODLEN 2Erthygl 2(2)
DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 RHAGFYR 1999
Adran 12 (Cyfarwyddiadau) -
is-adran (1) i'r graddau y mae'n ymwneud â mewnosod adrannau newydd 16D a 17 o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol ac adran 28 o'r Ddeddf
is-adran (2)
is-adran (3) a (4), i'r graddau y maent yn ymwneud ag is-adran (1)is-adran (5)
Adran 65(1) (Diwygiadau i ddeddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod)
Atodlen 4 -paragraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw un o'r paragraffau 5 i 39 a bennir isod)
paragraff 5
paragraff 6
paragraff 9 (i'r graddau y mae'n ymwneud â mewnosod adran 16 newydd o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)
paragraff 12(3)(b) a pharagraff 12(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
paragraff 15
paragraff 26
paragraff 30(2) a pharagraff 30(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
paragraff 31(3) a pharagraff 31(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
paragraff 32
paragraff 34(b)
paragraff 37(4) (i'r graddau y mae'n ymwneud â mewnosod adrannau newydd 16D ac 17 o Ddeddf 1977 gan adran 12(1) o'r Ddeddf) a pharagraff 37(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
paragraff 38(3) (i'r graddau y mae'n mewnosod is-adran (1A) o adran 128 o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y mae'r is-adran honno'n ymwneud ag adran 17A o Ddeddf 1977 ac Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol) a pharagraff 38(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
paragraff 39
paragraff 74 (i'r graddau y mae'n ymwneud ag unrhyw un o'r paragraffau 75 i 83 isod)
paragraff 75
paragraff 76(b)
paragraff 83(4) a pharagraff 83(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
paragraff 88(5) a pharagraff 88(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol Deddf Iechyd 1999 yngln â Chymru i rym.
Mae'r Gorchymyn yn darparu i ddarpariaethau gychwyn sy'n -
a. estyn pwerau cyfarwyddo'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag Ymddiriedolaethau NHS (adran 12);
b. symleiddio'r pwerau i wneud gorchmynion i sefydlu Ymddiriedolaethau NHS ac eglurhau pwerau i Ymddiriedolaethau NHS i ddarparu ysbytai a chyfleusterau newydd nas rheolwyd gan Awdurdod Iechyd o'r blaen (adran 13);
c. diwygio trefn ariannol Ymddiriedolaethau NHS mewn perthynas â chreu incwm, cyfalaf a benthyg (adrannau 14-16);
ch. cyflwyno dyletswydd ansawdd newydd fel bod Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau NHS yn gwneud trefniadau i fonitro a gwella ansawdd gofal iechyd i gleifion (adran 18);
d. creu dyletswydd ar Awdurdodau Iechyd i baratoi cynlluniau i wella iechyd ac i ddarparu gofal iechyd (adran 28);
dd. diwygio deddfwriaeth y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn fanwl o ganlyniad i'r uchod ac mewn perthynas ag Awdurdodau Iechyd a gweithredu eu swyddogaethau (Atodlen 4).
Notes:
[1]
1999 c.8.back
[2]
1977 c.49.back
[3]
1990 c.19back
English version
ISBN
0 11 090016 2
|
Prepared
30 October 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993184w.html