BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (Diddymu Rhif 2) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993450w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 3450 (Cy. 48)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (Diddymu Rhif 2) 1999

  Wedi'i wneud 15 Rhagfyr 1999 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 5(1), a pharagraff 29(1) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[2] a phob per arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], gan ei fod yn barnu ei bod yn briodol gwneud y Gorchymyn hwn[4] er lles y gwasanaeth iechyd, ac ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan baragraff 29(3) o Atodlen 2 i'r Ddeddf olaf[5]:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (Diddymu Rhif 2) 1999 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

Diddymu Ymddiriedolaethau NHS
    
2.  - (1) Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymunedol Caerdydd a'r Cylch.

    (2) Diddymir drwy hyn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.[
6]


Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd

15 Rhagfyr 1999



ATODLEN
ERTHYGL 2(2)


ORCHMYNION A DDIDDYMIR


Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche (Sefydlu) 1999 (O.S. 1999/1119)

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymunedol Caerdydd a'r Cylch (Sefydlu) 1999 (O.S. 1999/1118)



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Ymddiriedolaeth NHS Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche ac Ymddiriedolaeth NHS Cymunedol Caerdydd a'r Cylch ac ar gyfer diddymu'u gorchmynion sefydlu priodol.


Notes:

[1] 1977 p.49; diwygiwyd adran 126(3) gan adran 65(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.29) ("Deddf 1990").back

[2] 1990 p.19; diwygiwyd adran 5(1) gan adran 2(1) o Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.27) a pharagraff 69(a) o Atodlen 1 iddi. Diwygir adran 5(1) ymhellach, mewn perthynas â Chymru, gan adran 13(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).back

[3] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 5 o Ddeddf 1990 ac Atodlen 2 iddi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] Gweler paragraff 29(2)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1990.back

[5] Gweler O.S. 1996/653 y bu diwygiadau iddo nad ydynt yn effeithio ar baragraff 29(3).back

[6] 1998 c.38back



English version



ISBN 0 11 090019 7


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993450w.html