BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993453w.html

[New search] [Help]



1999 Rhif 3453 (Cy.50)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999

  Wedi'u gwneud 22 Rhagfyr 1999 
  Yn dod i rym 30 Rhagfyr 1999 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1) a (2), 140(4) a 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru[2];

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 1999.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (3) Cyfeiriad at hereditament annomestig perthnasol yw pob cyfeiriad at hereditament yn y Rheoliadau hyn.

    (4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni neu'r corff a gofrestrwyd gan yr enw hwnnw, neu sy'n dwyn yr enw hwnnw, ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw hwnnw ar y rhestr ardrethu canolog.

    (5) Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu unrhyw Ran o'r Atodlen yr ystyr a briodolir iddo yn yr Atodlen honno neu'r Rhan honno.

Cymhwyso'r Rheoliadau
    
2. Bydd effaith i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw restr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.

Dynodi personau a disgrifio hereditamentau
    
3.  - (1) At ddibenion adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 - 

    (2) Ni fydd Rheoliad 6 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) 1989[3](hereditamentau croesffiniol) yn gymwys i unrhyw hereditament sy'n dod o fewn unrhyw ddisgrifiad yn yr Atodlen.

Cynnwys y rhestr ardrethu canolog
     4. Rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, am bob dydd ym mhob blwyddyn y bydd y rhestr honno mewn grym - 

     5.  - (1) Yn ogystal, rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, gyferbyn ag enw pob person dynodedig - 

    (2) Yn ogystal, rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, os bydd y rhestr wedi'i newid yn unol â chyfarwyddyd gan dribiwnlys, enw'r tribiwnlys a roddodd y cyfarwyddyd.

Hereditamentau Rheilffyrdd
    
6.  - (1) Diwygier Rheoliad 3 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994[4] yngln â Chymru fel a ganlyn.

    (2) Hepgorer y diffiniad o "the British Railways Board" ym mharagraff (1).

    (3) Yn lle paragraff (1)(b)(i) mewnosoder  - 

    (4) Ychwaneger ar ddiwedd paragraff (1)  - 

    (5) Hepgorer  - 

Diddymiadau ac eithriadau
     7.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymer drwy hyn yngln â Chymru o 1 Ebrill 2000 ymlaen, y canlynol - 

    (2) Bydd y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau i fod ag effaith ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny at ddibenion y canlynol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.[8]


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Rhagfyr 1999



ATODLEN
Rheoliad 3



RHAN 1

HEREDITAMENTAU CAMLESI

Person dynodedig
Bwrdd Ffyrdd Dr Prydain

Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994



RHAN 2

HEREDITAMENTAU CYFLENWI TRYDAN

Person dynodedig
The National Grid Company plc

Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at drawsffurfio neu drawsyrru per trydanol, neu at ddibenion ategol

Person dynodedig
Manweb plc

Midlands Electricity plc

South Wales Electricity plc

Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at swyddogaethau cyflenwr trydan cyhoeddus, neu at ddibenion ategol

Yn y Rhan hon - 

mae i "cyflenwr trydan cyhoeddus" yr un ystyr ag sydd i "public electricity supplier" yn adran 6(9) o Ddeddf Trydan 1989[9].



RHAN 3

HEREDITAMENTAU NWY

Person dynodedig
BG plc

Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion BG plc yn gweithredol fel cludwr nwy cyhoeddus

Yn y Rhan hon - 



RHAN 4

HEREDITAMENTAU RHEILFFYRDD

Person dynodedig
Railtrack plc

Hereditamentau perthnasol
Yr hereditamentau a leolir yng Nghymru ac a ddisgrifir yn rheoliad 3(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994



RHAN 5

HEREDITAMENTAU TELATHREBU

Person dynodedig
British Telecommunications plc

Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

Person dynodedig
Mercury Communications Limited

Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

Person dynodedig
Racal Telecommunications Limited

Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

Person dynodedig
Energis Communications Limited

Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

Person dynodedig
AT&T(UK) Limited

Hereditamentau perthnasol
Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(5) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994



RHAN 6

HEREDITAMENTAU CYFLENWI DR

Person Dynodedig
Dee Valley Water plc

Dr Cymru Cyfyngedig

North West Water Limited

Severn Trent Water Limited

Hereditamentau perthnasol
Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion ymgymerwr dr 1991[11], neu at ddibenion ategol

Yn y rhan hon ystyr "hereditament a eithrir" yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf - 



RHAN 7

PIBLINELLAU HIRBELL

Person dynodedig
Mainline Pipelines Limited

Hereditamentau perthnasol
Piblinellau traws-gwlad (o fewn ystyr Deddf Piblinellau 1962[12]) a leolir o fewn ardal mwy nag un awdurdod bilio.



RHAN 8

DEHONGLI

Yn yr Atodlen hon - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Gyda golwg ar sicrhau ardrethu canolog yn ei grynswth ar hereditamentau penodol, ceir gwneud rheoliadau o dan adran 53(1)o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 sy'n dynodi person a rhagnodi, mewn perthynas â'r person hwnnw, un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditamentau annomestig.

Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn dynodi'r personau a enwir yn yr Atodlen ac mae'n rhagnodi'r disgrifiadau o'r hereditamentau a ddangosir yn yr Atodlen gyferbyn ag enwau'r personau hynny.

Mae Rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol dangos enwau'r personau dynodedig a'r hereditamentau a leolir yng Nghymru, sydd o fewn y disgrifiadau rhagnodedig ac a feddiennir (neu, os nas meddiennir, a berchnogir) gan y personau hynny, ar unrhyw restr ardrethu annomestig canolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.

Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol fod y rhestr yn dangos gwybodaeth benodol am y personau dynodedig a'r dyddiad pan fydd y gwerth ardrethol a ddangosir ar y rhestr yn dechrau bod yn weithredol.

Mae Rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994 er mwyn eithrio Bwrdd Rheilffyrdd Prydeinig o ardrethu canolog.

Mae Rheoliad 7 yn diddymu Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog 1994 mewn perthynas â Chymru o 1 Ebrill 2000 ymlaen gyda rhai eithriadau.


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1989/1060.back

[4] O.S. 1994/3123.back

[5] O.S. 1994/3121.back

[6] O.S. 1996/620.back

[7] Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) a chan adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3).back

[8] 1998 p.38.back

[9] 1989 p.29.back

[10] 1986 p.44.back

[11] 1991 p.56.back

[12] 1962 p.58.back

[13] 1990 p.8.back



English version



ISBN 0 11 090018 9


  Prepared 30 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/1999/993453w.html