BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Railtrack plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000555w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 555 (Cy.22)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Railtrack plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 29 Chwefror 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraff 3(2) o Atodlen 6 iddi ac a freiniwyd ynddo bellach, i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  -  (1)  -     (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Railtrack plc (Gwerth Ardrethol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

ystyr "amcangyfrif o hyd y trac perthnasol" ("estimated relevant track length") yw hyd y trac, wedi'i fynegi mewn cilometrau, yr amcangyfrifir y caiff ei gynnwys yn rheilffyrdd Railtrack;

ystyr "blwyddyn" ("year") yw blwyddyn ariannol daladwy;

ystyr "blwyddyn berthnasol" ("relevant year") yw unrhyw flwyddyn y mae gwerth ardrethol i'w benderfynu ar ei chyfer yn unol â'r Gorchymyn hwn;

ystyr "blwyddyn flaenorol berthnasol" ("relevant preceding year") yw'r flwyddyn sy'n dod cyn blwyddyn berthnasol;

ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

ystyr "hereditament perthnasol" ("relevant hereditament") yw'r hereditament a ddisgrifir yn Rhan 4 o Atodlen y Rheoliadau Rhestr Ganolog;

ystyr "Railtrack" ("Railtrack") yw Railtrack plc;

ystyr "y Rheoliadau Rhestr Ganolog" ("the Central List Regulations") yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999[
3];

ystyr "rhestr ganolog" ("central list") yw rhestr ardrethu annomestig canolog Cymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny; ac

ystyr "trac" ("track") yw'r ystyr a roddir i "track" gan adran 83 o Ddeddf Rheilffyrdd 1993[4].

Talgrynnu rhifau
     3. Pan (ar wahân i'r erthygl hon) fydd unrhyw werth ardrethol y penderfynir arno o dan y Gorchymyn hwn yn cynnwys ffracsiwn o bunt  - 

    (a) rhaid talgrynnu'r ffracsiwn i un bunt, os bydd yn fwy na 50c, a

    (b) rhaid anwybyddu'r ffracsiwn os bydd yn 50c neu'n llai.

Gwerthoedd ardrethol
    
4. Yn achos yr hereditament perthnasol, ni fydd paragraffau 2 i 2C o Atodlen 6 i'r Ddeddf[5] yn gymwys mewn unrhyw flwyddyn y bydd y rhestr ganolog mewn grym ar ei chyfer, a gwerth ardrethol yr hereditament hwnnw mewn unrhyw flwyddyn felly fydd  - 

    (a) yn y flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, £6,240,000, a

    (b) mewn unrhyw flwyddyn arall sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny, y swm a geir drwy gymhwyso'r rheolau a ragnodir yn Erthygl 5.

Y ffactor ailgyfrifo
     5.  -  (1) Mewn unrhyw flwyddyn sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001, neu ar ôl hynny, gwerth ardrethol yr hereditament perthnasol fydd y swm a geir drwy adio £6,240,000 a'r ffactor ailgyfrifo a gyfrifir o dan yr Erthygl hon.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r paragraff hwn yn gymwys at ddibenion cyfrifo'r ffactor ailgyfrifo pan yw'r swm yngln â blwyddyn berthnasol a geir drwy gyfrifo yngln â'r hereditament perthnasol yn unol â'r fformwla  - 

k - K
K
yn 0.05, -0.05 neu unrhyw rif sydd rhwng y rhifau hyn.

    (3) Y ffactor ailgyfrifo yngln â blwyddyn berthnasol y mae paragraff (2) yn gymwys iddi yw 0.

    (4) Yngln â blwyddyn berthnasol  - 

    (a) y mae'r swm a gyfrifir mewn perthynas â hi yn unol â pharagraff (2) yn fwy na 0.05 neu'n llai na -0.05, neu

    (b) nad yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â hi mewn perthynas â'r flwyddyn flaenorol berthnasol,

y ffactor ailgyfrifo yw'r swm a geir drwy gyfrifo yn unol â'r fformwla  - 

T(k - K
K)
    (5) At ddibenion yr erthygl hon  - 

gwerth T yw £6,240,000;

K yw'r amcangyfrif o hyd y trac perthnasol ar 31 Mawrth 2000;

k yw'r amcangyfrif o hyd y trac perthnasol ar 31 Mawrth yn y flwyddyn flaenorol berthnasol.

Diddymiadau ac eithriadau
    
6.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), drwy hyn diddymir y canlynol gydag effaith o 1 Ebrill 2000  - 

    (2) Bydd darpariaethau'r Gorchmynion a grybwyllir ym mharagraff (1) yn dal i gael effaith ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny at y dibenion canlynol a'r dibenion sy'n gysylltiedig â hwy  - 

    (a) unrhyw newid mewn rhestr ganolog a luniwyd cyn 1 Ebrill 2000, neu

    (b) unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adran 58[8] (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) o'r Ddeddf o ran y swm taladwy mewn perthynas â hereditament am gyfnod perthnasol cyn 1 Ebrill 2000 fel y'i diffinnir yn yr adran honno.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Chwefror 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O ran yr hereditamentau annomestig sydd i'w dangos ar y rhestr ardrethu canolog i Gymru, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan baragraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ddarparu, drwy orchymyn, na ddylid eu prisio ar gyfer ardrethu annomestig ar y sail a nodir ym mharagraffau 2 i 2C o'r Atodlen honno (hynny yw, drwy gyfeirio at y rhent y byddai tenant tybiedig yn ei dalu am hereditament ar sail flynyddol), ond caiff ddarparu y bydd gwerthoedd ardrethol yr hereditamentau hynny fel y'u pennir yn y gorchymyn neu fel y penderfynir arnynt yn unol â rheolau rhagnodedig.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi gwerth ardrethol yr hereditament a gynhwysir, yn rhinwedd Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999, yn y rhestr ganolog mewn perthynas â Railtrack plc, ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.

Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer y ffactor y mae'n rhaid cyfeirio ato wrth addasu'r gwerth hwnnw er mwyn penderfynu'r gwerth ardrethol ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny yngln â'r hereditament yr ystyrir bod Railtrack plc yn ei feddiannu.

Mae erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn yn diddymu, yn ddarostyngedig i rai eithriadau, gydag effaith o 1 Ebrill 2000 ymlaen, Orchymyn y Rheilffyrdd (Gwerthoedd Ardrethol) 1994, a oedd (fel y'i diwygiwyd) yn gymwys mewn perthynas â'r blynyddoedd sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1995 neu ar ôl hynny.


Notes:

[1] 1988 p.41. Gweler adran 146(6) am ddiffiniad o "prescribed". Diwygiwyd adran 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Diwygiwyd paragraff 3 o Atodlen 6 gan baragraff 38(12) a (13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/3453.back

[4] 1993 p.43.back

[5] Diwygiwyd paragraff 2 gan baragraffau 38(3) i (11) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a mewnosodwyd paragraffau 2A a 2B ganddynt. Mewnosodwyd paragraff 2C gan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).back

[6] O.S. 1994/3284.back

[7] O.S. 1999/1003.back

[8] Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14), adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3) ac adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p.29).back

[9] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000555w.html