[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000973w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(3) a (4), 30, 31(5) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 3 Ebrill 2000. Diwygiadau 2. Mae'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996[3] gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Lloegr) 2000[4] (ac eithrio Rheoliadau 7, 9, 10 a 22(5)) a chan Reoliad 2 o Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio Rhif 2) (Lloegr) 2000[5] i gael effaith yng Nghymru mewn perthynas â cheisiadau am grant a wneir ar 3 Ebrill 2000 neu wedi hynny. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]. D. Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 30 Mawrth 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1966 ("y prif Reoliadau") yn gosod y prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant adnewyddu a'r grant cyfleusterau anabl y caiff awdurdodau tai lleol eu talu i geiswyr sy'n berchennog-feddianwyr a cheiswyr sy'n denantiaid o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Lloegr) 2000 a Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio Rhif 2) (Lleogr) 2000 yn gymwysadwy i Gymru. Mae'r Rheoliadau hynny yn gwneud diwygiadau i'r prif Reoliadau sy'n ganlyniad i'r newidiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 y seiliwyd y prawf moddion arnynt. Mae'r Rhealiadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio Rhif 2) (Lloegr) 2000 hefyd yn diddymu rhai darpariaethau'r Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Lloegr) 2000. Notes: [1] 1996 p. 53.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1996/2890, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119, 1997/977, 1998/808, 1999/1523 a 1999/3468.back
|