BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) (Diwygio) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000975w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 975 (Cy.45)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 21 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 147(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1], ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. -

    (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Blwyddyn berthnasol
    
2. Yn erthygl 2 o Orchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) 1991 ("Gorchymyn 1991")[3] , yn y diffiniad o "relevant year", ar ôl "subsequent financial year" ychwaneger "until, and including, the financial year beginning in 1999".

Addasiadau ardrethu hwyr
     3. Ym mharagraff (2) o erthygl 3 o Orchymyn 1991, ar ôl "as mentioned in paragraph (1)," ychwaneger "and on or before 31st March 2001."



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Mawrth 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) 1991 ("Gorchymyn 1991") yn darparu ar gyfer addasiadau ariannol, rhwng cyrff penodol a oedd, yngln â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1989, yn awdurdodau praeseptu (neu eu holynwyr) a'r cyrff a oedd, yngln â'r flwyddyn honno'n awdurdodau ardrethu.

Mae'r addasiadau'n ymwneud â symiau sy'n adferadwy, neu a ddilëwyd fel rhai anadferadwy neu a ad-dalwyd, ar 1 Ebrill 1990 neu wedi hynny, a briodolir i ardrethi am gyfnod sy'n dod i ben cyn y dyddiad hwnnw, ac i gostau gweinyddol cysylltiedig.

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yn diwygio'r diffiniad o "relevant year" yn erthygl 2 o Orchymyn 1991 fel na fydd yr addasiadau'n gymwys ar ôl y flwyddyn ariannol 1999/2000 (erthygl 2).

Mae'r Gorchymyn hefyd yn diwygio erthygl 3 o Orchymyn 1991 fel bod rhaid gwneud hysbysiad o gyfrif a wnaed yn unol â'r erthygl honno ar 31 Mawrth 2001 neu cyn hynny (erthygl 3).


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S 1991/185.back

[4] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20000975w.html