BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001026w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1026 (Cy.62)(C.26)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 27 Mawrth 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 63(1) a 66(2) o Ddeddf Iechyd 1999[1]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn  - 

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Iechyd 1999;

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diwrnod penodedig
     2. -

    (1) 1 Ebrill 2000 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym i'r graddau a bennir yno.

    (2) Er bod paragraff (1) yn dod â diddymiad paragraffau 19 a 20 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[
3] i rym, bydd y darpariaethau hynny yn parhau i gael effaith mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau a ddarparwyd cyn y diddymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4])


D. Elis Thomas
Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2000



ATODLEN
Erthygl 2(1)


Darpariaethau'r Ddeddf sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2000


Adran 1 (Diddymu'r gyfraith yngln â phractisiau sy'n dal cronfeydd)

Adran 11 (Pwyllgorau Cynrychioliadol Lleol) (ac eithrio bod y cyfeiriadau yn is-adran (3) o adran 44 o Ddeddf 1977 a fewnosodwyd gan is-adran (4), at drefniadau a wnaed o dan adran 28C o Ddeddf 1977 yn cael eu dwyn i rym at ddibenion cynlluniau peilot yn unig o dan Ran I o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997)

Adran 65(1) (Diwygio deddfiadau) (i'r graddau y mae'n ymweud â darpariaethau Atodlen 4 i'r Ddeddf a bennir isod)

Atodlen 4  - 

    paragraff 4 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8, 24 a 27(a) isod)

    paragraff 8 (i'r graddau y mae'n ymwneud â phractisiau deiliad-cronfa)

    paragraff 24

    paragraff 27(a) (i'r graddau y mae'n golygu amnewid paragraffau (b) i (d) o adran 91(3) o Ddeddf 1977 ac eithrio i'r graddau y mae'r paragraffau hynny'n ymwneud ag Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol)

    paragraff 71(a) a (b)

    paragraff 74 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 83(6) ac 84 isod)

    paragraff 83(6)

    paragraff 84

    paragraff 85(4)

    paragraff 90



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau pellach Deddf Iechyd 1999 i rym mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn y darpariaethau sydd  - 

    a. yn dileu'r cronfeydd a ddelir gan YC (adran 1);

    b. yn caniatáu ar gyfer diwygio'r gynrychiolaeth ar Bwyllgorau Deintyddol a Meddygol Lleol; ac

    c. yn gwneud diwygiadau manwl i ddeddfwriaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol o ganlyniad i'r uchod, er mwyn cymryd i ystyriaeth bellach y diwygiadau i'r darpariaethau ynghylch sefydlu Ymddiriedolaethau NHS ac i'r pwerau ar gyfer gwneud cyfarwyddiadau a gychwynnwyd gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 1999 ac mewn perthynas â thalu am nwyddau a gwasanaethau penodol a gyflawnir heblaw o dan gontract NHS.



    NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

    (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)


Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf Iechyd 1999 i rym, neu maent i ddod i rym, mewn perthynas â Chymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Yn ogystal â'r darpariaethau a restrir isod, daethpwyd ag amryw ddarpariaethau eraill i rym mewn perthynas â Lloegr drwy orchmynion cychwyn O.S.1999/2177, 2342, 2540 a 2793 ac mewn perthynas â'r Alban drwy orchymyn cychwyn O.S.A. 1999/90.

Darpariaeth Dyddiad Cychwyn Rhif yr O.S.
a.12 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
a.13 i 18 1.11.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
a.19 1.11.99 1999/2793 (C.69)
a.20 (yn rhannol) 1.11.99 1999/2793 (C.69)
a.23 to 25 1.11.99 1999/2793 (C.69)
a.28 (yn rhannol) 1.11.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
a.41 1.4.2000 1999/2793 (C.69)
a.42 to 44 1.10.99 1999/2540 (C.64)
a.65(1) (yn rhannol) 1.11.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol) 1.11.99 1999/2793 (C.69)
(yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol) 4.1.2000 1999/2342 (C.60)
(yn rhannol) 1.4.2000 1999/2342 (C.60)
(yn rhannol) 1.4.2000 1999/2793 (C.69)
a.65(2) (yn rhannol) 1.11.99 1999/2793 (C.69)
(yn rhannol) 1.4.2000 1999/2793 (C.69)
Atodlen 2 1.11.99 1999/2793 (C.69)
Atodlen 4    
paragraff 4 (yn rhannol) 1.11.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol) 1.4.2000 1999/2793 (C.69)
paragraff 5 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 6 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 9 (yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 12 (yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 15 (yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 26 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 27(b) 1.4.2000 1999/2793 (C.69)
paragraff 30 (yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 31 (yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 32 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 34(b) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 37 (yn rhannol) 1.11.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 38 (yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol) 1.4.2000 1999/2793 (C.69)
paragraff 39 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraffau 65 to 69 1.4.2000 1999/2793 (C.69)
paragraff 73 1.4.2000 1999/2342 (C.60)
paragraff 74 (yn rhannol) 1.11.99 1999/2793 (C.69)
(yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
(yn rhannol) 4.1.2000 1999/2342 (C.60)
(yn rhannol) 1.4.2000 1999/2342 (C.60)
paragraff 75 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 76(a) (yn rhannol) 1.11.99 1999/2793 (C.69)
(yn rhannol) 4.1.2000 1999/2342 (C.60)
paragraff 76(b) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 79 1.11.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 81 (yn rhannol) 1.11.99 1999/2793 (C.69)
paragraff 82 1.4.2000 1999/2342 (C.60)
paragraff 83 (yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
paragraff 85 (yn rhannol) 4.1.2000 1999/2342 (C.60)
paragraff 86 1.4.2000 1999/2342 (C.60)
paragraff 88 (yn rhannol) 1.12.99 1999/3184 (Cy.42) (C.82)
Atodlen 5 (yn rhannol) 1.11.99 1999/2793 (C.69)
(yn rhannol) 1.4.2000 1999/2793 (C.69)


Notes:

[1] 1999 p.8.back

[2] 1977 p.49.back

[3] 1990 p.19.back

[4] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001026w.html