BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001039w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1039 (Cy. 68)

ARBED YNNI, CYMRU

Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 5 Ebrill 2000 
  Yn dod i rym 6 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990[1], sydd bellach yn arferadwy yng Nghymru gan y Cynulliad Cenedlaethol[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn,

Diwygiadau i Reoliadau 1997
     3. Yn Rheoliad 5(1) o Rheoliadau 1997, yn lle "...not more than one...", rhowch "...one or more...".

    
4. Yn Rheoliad 6 o Reoliadau 1997 (Cyfrifo swm y grant) -

    (1) Yn lle Rheoliad 6 (1) (a), rhowch -

    (2) Yn lle Rheoliad 6 (1) (b), rhowch -



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywoxdraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Ebrill 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Cynllun ar gyfer rhoi grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol, neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau, yw'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref presennol ("y Cynllun").

Nodir y Cynllun yn Rheoliadau'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref 1997 ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau'n creu Asiantaethau Rhanbarthol i weinyddu'r cynllun, ac yn nodi pwy sy'n gymwys i gael grant. Mae'r prif Reoliadau hefyd yn rhagnodi'r math o waith a'r dibenion y gellir cymeradwyo grantiau ar eu cyfer. Darperir dull ar gyfer cyfrifo grantiau, a nodir yr uchafsymiau a all gael eu rhoi fel grantiau. Mae'r prif Reoliadau yn nodi'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am grantiau a'u cymeradwyo, ac ar gyfer trefnu gwneud y gwaith neu gyflenwi'r deunyddiau.

Cafodd y prif Reoliadau eu gwneud o dan Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan Adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996). Mae Adran 15(1) yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud, neu drefnu gwneud, grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol neu i leihau neu atal gwastraff ynni fel arall mewn anheddau. Ni all unrhyw grantiau gael eu gwneud o dan Adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 ("Deddf 1990") ac eithrio yn unol â rheoliadau a gyhoeddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae rheoliad 3 yn newid y cyfyngiad ar y dibenion y gellir dyfarnu grant atynt o dan y prif Reoliadau o "...not more than one.." i "...one or more..." o'r dibenion sydd wedi'u nodi yn y prif Reoliadau.Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn darparu uchafsymiau newydd ar gyfer grantiau o dan y prif Reoliadau.


Notes:

[1] 1990 (p.27); diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back

[3] OS 1997/790.back

[4] 1998 (p.38).back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001039w.html