BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Pysgota Mor (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro a Lloeren) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001078w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1078 (Cy. 71)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000

  Wedi'i wneud 6 Ebrill 2000 
  Yn dod i rym 7 Ebrill 2000 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[1], sydd bellach wedi'u breinio ynddo, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:-

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 7 Ebrill 2000.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a bydd darpariaethau erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 yn effeithiol ar gyfer penderfynu pa rannau o'r môr y dylid eu trin fel rhai sy'n gyfagos at Gymru a pha rai na ddylid eu trin felly[
3].

Dehongli
     2.  - (1) Yn y Gorchymyn hwn -

    ystyr "Aelod-wladwriaeth" ("Member State") yw un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;

    ystyr "Canolfan Monitro Pysgodfeydd" ("Fisheries Monitoring Centre") yw canolfan monitro pysgodfeydd a sefydlir o dan Erthygl 3.7 o Reoliad 2847/93;

    mae "cwch pysgota" ("fishing boat") yn cynnwys cwch derbyn o fewn ystyr Rheoliad 2847/93;

    ystyr "cwch pysgota Prydeinig perthnasol" ("relevant British fishing boat") yw cwch pysgota, heblaw cwch pysgota Albanaidd, sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu sy'n perthyn yn gyfan gwbl i bersonau sy'n gymwys i berchenogi cychod Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o'r Ddeddf honno;

    ystyr "dyfais olrhain loerennol" ("satellite tracking device") yw dyfais ar gyfer anfon yr wybodaeth a fynnwyd at Ganolfan Monitro Pysgodfeydd o gwch pysgota drwy gyfrwng lloeren a gorsaf ar y ddaear;

    ystyr "yn gallu cael ei pholio" ("capable of being polled"), mewn perthynas â dyfais olrhain loerennol, yw:

    (a) yn gallu derbyn cais gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd i roi'r wybodaeth a fynnwyd i'r Ganolfan honno ar amser heblaw'r amser sy'n ofynnol o dan erthygl 3(4) o'r Gorchymyn hwn; a

    (b) yn rhoi'r wybodaeth a fynnwyd i'r Ganolfan honno ar unwaith mewn ymateb;

ystyr "gwybodaeth a fynnwyd" ("required information") yw data ynghylch -

    (a) adnabyddiaeth y cwch pysgota;

    (b) lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota wedi'i fynegi mewn graddau a munudau o hydred a lledred o fewn lwfans cyfeiliornad o lai na 500 metr ac o fewn cyfwng hyder o 99%; ac

    (c) dyddiad ac amser pennu'r lleoliad hwnnw;

    ystyr "mesur Cymunedol ar gyfer monitro â lloeren" ("Community satellite monitoring measure") yw un o ddarpariaethau:

    (a) Erthygl 3 ac Erthygl 28c, i'r graddau y mae'n cyfeirio at systemau monitro cychod sydd wedi'u seilio ar loeren, yn Rheoliad 2847/93; neu

    (b) Rheoliad 1489/97;

ystyr "Rheoliad 2847/93" ("Regulation 2847/93") yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system rheoli sy'n gymwys ar gyfer y polisi pysgodfeydd cyffredin[5] fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2870/95[6], Penderfyniad y Cyngor (EC) 95/528[7], Rheoliad y Cyngor (EC) 2489/96[8], Rheoliad y Cyngor (EC) 686/97[9], Rheoliad y Cyngor (EC) 2205/97[10], Rheoliad y Cyngor (EC) 2635/97[11], a Rheoliad y Cyngor (EC) 2846/98[12];

    ystyr "Rheoliad 1489/97" ("Regulation 1489/97") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1489/97 yn pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 o ran systemau monitro cychod sydd wedi'u seilio ar loeren[13] fel y'i cywirwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) 434/98[14] a'i diwygio gan Reoliad y Comisiwn (EC) 831/99[15] a Rheoliad y Comisiwn (EC) 2445/99[16];

    ystyr "tramgwydd perthnasol" ("relevant offence") yw:

    (a) tramgwydd o dan Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn; neu

    (b) tramgwydd o dan unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol ar gyfer monitro â lloeren, sef darpariaeth y gellir dwyn achos mewn perthynas â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[17];

    (2) Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at goflyfr, datganiad, dogfen neu wybodaeth a fynnwyd yn cynnwys, yn ogystal â choflyfr, datganiad, dogfen neu wybodaeth a fynnwyd mewn ysgrifen -

      (i) unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun,

      (ii) unrhyw ffotograff,

      (iii) unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a dderbynnir gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd o ddyfais olrhain loerennol,

      (iv) unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (nad ydynt yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall neu hebddo), a

      (v) unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r offeryn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

Olrhain cychod pysgota â lloeren
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw gwch pysgota o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru sy'n mesur mwy nag 20 metr rhwng y sythlinau neu fwy na chyfanswm o 24 metr o hyd.

    (2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i gwch pysgota o'r fath sydd -

    (3) Rhaid i ddyfais olrhain loerennol -

ar gwch pysgota y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo.

    (4) Rhaid i'r ddyfais olrhain loerennol honno drosglwyddo'r wybodaeth a fynnwyd -

Tramgwyddau
    
4.  - (1) Pan dorrir, neu pan fethir â chydymffurfio -

bydd y perchennog, y siartrwr (os oes un) a'r meistr yn euog o dramgwydd.

    (2) Bydd yn amddiffyniad mewn achos yngln â thorri erthygl 3(3)(b) neu (4) neu fethu â chydymffurfio â hwy, i berchennog, siartrwr (os oes un), neu feistr y cwch brofi ei fod wedi cydymffurfio ag Erthygl 6.1 a 6.2 o Reoliad 1489/97.

    (3) Bydd unrhyw berson a fydd mewn unrhyw ffordd -

heb roi gwybod ymlaen llaw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn euog o dramgwydd.

    (4) Mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota y mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, bydd unrhyw berson a fydd mewn unrhyw ffordd -

yn euog o dramgwydd.

Cosbau
    
5.  - (1) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd perthnasol mewn perthynas â thorri Erthygl 3(3)(b) neu (4) o'r Gorchymyn hwn neu Erthygl 6.1 neu 6.2 o Reoliad 1489/97, neu fethu â chydymffurfio â hwy, yn agored -

    (2) Bydd person a geir yn euog o unrhyw dramgwydd perthnasol arall yn agored-

Casglu dirwyon
    
6.  - (1) Pan orfodir dirwy gan lys ynadon ar y meistr, y perchennog, y siartrwr, y person sy'n gyfrifol am y cwch pysgota neu unrhyw berson arall a gollfernir gan y llys o dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan erthygl 9 o'r Gorchymyn hwn, er mwyn casglu swm y dirwy, fe gaiff y llys-

    (2) Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980[18] (gohirio cyhoeddi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.

    (3) Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy mewn perthynas â dirwy yngln â throsedd berthnasol yn cael ei wneud o dan adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981[19] neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995[20] ac yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr erthygl hon yn gymwys fel pe bai'r ddirwy wedi'i gorfodi gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.

Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota
     7.  - (1) Er mwyn gorfodi erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth gyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol ar gyfer monitro â lloeren, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan baragraffau (2) i (4) o'r erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.

    (2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda phersonau a neilltuwyd i gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau neu hebddynt, a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod y cwch yn stopio a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso naill ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arno.

    (3) Caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw bersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r erthygl hon ac, yn benodol -

    (4) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni ar unrhyw amser, caiff y swyddog -

a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw'r cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.

Amddiffyn swyddogion
    
8. Ni fydd swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig na pherson sy'n ei gynorthwyo yn rhinwedd erthygl 7(2) o'r Gorchymyn hwn yn atebol mewn unrhyw achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir drwy arfer honedig o'r pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros wneud hynny a'i bod wedi'i gwneud gyda medr a gofal rhesymol.

Rhwystro etc.
    
9. Bydd unrhyw berson sydd -

yn euog o drosedd, ac yn agored -

Darpariaethau yngln â throseddau ac achosion
    
10.  - (1) Pan brofir bod unrhyw drosedd o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforedig, neu berson yn honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o'r drosedd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

    (2) Pan brofir bod unrhyw drosedd o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o'r drosedd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

    (3) Pan brofir bod unrhyw drosedd o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth) wedi'i chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o'r gymdeithas neu unrhyw aelod o'i chorff llywodraethu, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y person hwnnw yn ogystal â'r gymdeithas yn euog o'r drosedd ac yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.

Derbynioldeb coflyfrau a dogfennau eraill fel tystiolaeth
    
11. Bydd unrhyw -

o Reoliad 2847/93 ac unrhyw wybodaeth a fynnwyd a dderbynnir gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd, mewn unrhyw achos yngln â throsedd berthnasol, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
21].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Ebrill 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, yn darparu ar gyfer gorfodi Erthyglau 3 a 28c o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system reoli sy'n gymwys ar gyfer y polisi pysgodfeydd cyffredin a Rheoliad y Comisiwn (EC) 1489/97 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 o ran systemau sydd wedi'u seilio ar loeren ar gyfer monitro cychod.

Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer trosglwyddo adnabyddiaeth cychod ac adroddiadau ar eu lleoliad drwy gyfrwng lloeren gan gychod pysgota sy'n mesur mwy nag 20 metr rhwng y sythlinau neu fwy na chyfanswm o 24 metr o hyd. Erthygl 3 o'r Gorchymyn yw'r brif ddarpariaeth sy'n rhoi eu heffaith i'r gofynion hyn.

Mae'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn perthynas â thorri'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn, gan gynnwys torri erthyglau 6.1 a 6.2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1489/97. Mae erthyglau 6.1 a 6.2 yn ei gwneud yn ofynnol bod yr wybodaeth a fynnwyd (fel y'i diffinnir yn erthygl 2(1) o'r Gorchymyn) yn cael ei hanfon at Aelod-wladwriaeth y faner ac at Aelod-wladwriaeth yr arfordir o dan sylw drwy ddull arall, o leiaf bob 24 awr, os ceir methiant technegol neu os bydd naill ai dyfais olrhain loerennol a osodwyd ar gwch pysgota neu system monitro cychod Aelod-wladwriaeth y faner yn methu â gweithredu. Hefyd, os ceir methiant technegol neu os na fydd dyfais olrhain loerennol yn gweithredu, mae'n ofynnol i'r perchennog drefnu ei thrwsio neu ei hamnewid o fewn un mis neu, pan geir digwyddiad o'r fath yn ystod taith bysgota sy'n para mwy na mis, cyn gynted ag y daw'r cwch pysgota i borthladd. Nid awdurdodir meistr y cwch pysgota i ddechrau taith bysgota newydd nes bod y ddyfais olrhain loerennol wedi'i thrwsio neu wedi'i hamnewid felly.

Mae'r cosbau am dorri'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn i'w gweld yn erthygl 5 o'r Gorchymyn.

Er mwyn gorfodi'r Gorchymyn hwn, yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru rhoddir pwerau i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig fynd ar fwrdd cychod pysgota, chwilio, archwilio a phrofi offer y cwch, ei gwneud yn ofynnol bod dogfennau'n cael eu cyflwyno a chymryd y cwch i'r porthladd cyfleus agosaf (erthygl 7).

Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer erlyn tramgwyddau newid adnabyddiaeth dyfais olrhain loerennol a osodwyd ar gwch pysgota neu dynnu'r ddyfais oddi ar y cwch heb awdurdod blaenorol (erthygl 4(3)), ymyrryd â throsglwyddiadau o'r ddyfais neu roi gwybodaeth ffug yn fwriadol (erthygl 4(4)), a rhwystro swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig (erthygl 9). Nodir y cosbau yn sgil collfarnu yn erthyglau 5(2) a 9. Uchafswm statudol y gosb a bennir yn y Gorchymyn yw £5,000 ar hyn o bryd.

Mae'r Gorchymyn yn darparu pwerau ar gyfer casglu dirwyon a osodwyd gan lysoedd ynadon (erthygl 6).

Mae erthyglau 8, 10 ac 11 yn cynnwys darpariaethau ategol.


Notes:

[1] 1981 p.29; gweler adran 30(3) i gael y diffiniadau o "cyfyngiad Cymunedol gorfodadwy" ("enforceable Community restriction"), "rhwymedigaeth Gymunedol orfodadwy" ("enforceable Community obligation") ac "y Gweinidogion" ("the Ministers") fel y'u diwygiwyd gan Atodlen 2 paragraff 68(5) i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Mae erthygl 3(1) o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cyfamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) ac Atodlen 1 iddi yn darparu i'r swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 gael eu harfer gan y Gweinidogion, yn gyfamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â'r canlynol: cychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y parth Albanaidd; a chychod pysgota yr Alban o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd (am "y parth Albanaidd" gweler adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46) a Gorchymyn Ffiniau Dyfroedd Cyfagos at yr Alban 1999 (O.S. 1999/1126)).back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, a swyddogaethau'r Ysgrifenyddion Gwladol yngln â physgota môr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[3] Pennir y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987 (p.47) ac ag unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sy'n dwyn effaith fel pe baent wedi'u gwneud, o dan yr adran honno. Pennir y ffin rhwng y rhannau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy a drinir fel moroedd tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r rhannau na thrinir felly, yn unol â'r cyfesurannau a nodir yn Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[4] 1995 p.21.back

[5] OJ Rhif L261, 20.10.93, t.1.back

[6] OJ Rhif L301, 14.12.95, t.1.back

[7] OJ Rhif L301, 14.12.95. t.35.back

[8] OJ Rhif L338, 28.12.96, t.12.back

[9] OJ Rhif L102, 19.4.97, t.1.back

[10] OJ Rhif L304, 7.11.97, t.1.back

[11] OJ Rhif L356, 31.12.97, t.14.back

[12] OJ Rhif L358, 31.12.98, t.5.back

[13] OJ Rhif L202, 30.7.97, t.18.back

[14] OJ Rhif L054, 25.2.98, t.5.back

[15] OJ Rhif L105, 22.4.99, t.20.back

[16] OJ Rhif L298, 19.11.99, t.5.back

[17] A fewnosodwyd gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).back

[18] 1980 p.43.back

[19] O.S. 1981/1675 (G.I. 26)back

[20] 1995 p.46.back

[21] 1998 p.38.back


English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001078w.html