BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cymraeg) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001101w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 1101 (Cy. 79)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cymraeg) 2000

  Wedi'i wneud 10 Ebrill 2000 
  Yn dod i rym ac eithrio fel a ddarperir yn erthygl 1(2) 1 Awst 2000 

Cyflawnwyd y gofynion a nodir yn yr Atodlen.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 356(2)(a) a (b) a (4) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chwmpas
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cymraeg) 2000 ac, yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, daw i rym ar 1 Awst 2000.

    (2) Bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau mae a wnelont â'r pedwerydd cyfnod allweddol yn dod i rym - 

    (a) ar 1 Awst 2001 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod allweddol hwnnw: a

    (b) ar 1 Awst 2002 ar gyfer pob disgybl arall yn y cyfnod allweddol hwnnw.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("the National Assembly");

    ystyr "y Ddogfen" yw'r ddogfen a gyhoeddir gan yr Awdurdod yn 2000 o dan y teitl "Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol"[4] ("the Document"); a

    dehonglir cyfeiriadau at gyfnodau allweddol yn unol â'r diffiniad o "key stages" yn adran 355(1) o Ddeddf Addysg 1996

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion yng Nghymru'n unig.

Diddymu
     2. Bydd Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cymraeg) 1995[5] yn peidio â bod yn gymwys - 

    (a) ar 1 Awst 2000 ar gyfer disgyblion yn y cyfnodau allweddol cyntaf, ail a thrydydd; a

    (b) ar 1 Awst 2001 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac

fe'i diddymir ar 1 Awst 2002.

Pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio
     3. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo bod y darpariaethau yngln â thargedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a nodir yn y Ddogfen i gael effaith i'r diben o bennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yngln â'r Gymraeg.

    
4. Nid yw'r enghreifftiau a italeiddiwyd yn y Ddogfen (er mwyn dangos y rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998([
6]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Ebrill 2000



ATODLEN

GOFYNION O DAN ADRAN 368 O DDEDDF ADDYSG 1996[7]


Adran 368(2)
Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig i'r Awdurdod gan roi cyfarwyddiadau amser yngln â'r cyfnod yr oedd yr Awdurdod i roi adroddiad[8].

Adran 368(3)
Hysbysodd yr Awdurdod y cynnig i'r cyrff a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 368(3) o Ddeddf Addysg 1996 a rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ar y materion a oedd yn codi.

Adran 368(5)
Cyflwynodd yr Awdurdod ei adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 368(5)
Trefnodd yr Awdurdod gyhoeddi'r adroddiad.

Adran 368(6) a (7)
Cyhoeddwyd drafft o'r Gorchymyn a'r ddogfen gysylltiedig a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau yngln â materion a oedd yn codi.

Adran 368(6) a (7)
Anfonwyd copi o'r Gorchymyn drafft a'r ddogfen gysylltiedig i'r Awdurdod ac at bob un person yr ymgynghorodd yr Awdurdod â hwy a chaniatawyd cyfnod o un mis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau yngln â materion a oedd yn codi.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Caiff Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer Cymraeg ei ddiwygio o 1 Awst 2000 ymlaen. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith gyfreithiol i raglenni astudio newydd, sy'n nodi beth ddylid ei addysgu i ddisgyblion, ac yn gosod targedau cyrhaeddiad iddynt. Rhoddir y manylion amdanynt mewn dogfen o'r enw "Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol" sydd ar gael gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn nodi'r trefniadau i gyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd fesul rhan.

Mae'r Gorchymyn yn disodli Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cymraeg) (Cymru) 1995.


Notes:

[1] 1996 p.56. Diwygiwyd adran 356(4) gan baragraff 87(a) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 356 o Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.back

[4] isbn 07504 24036.back

[5] O.S. 1995/69.back

[6] 1998 p.38.back

[7] 1996 p.56. Diwygiwyd adran 368 gan baragraff 28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 368 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[8] O dan adran 23(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) caiff y Cynulliad Cenedlaethol barhau gydag unrhyw beth a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â swyddogaethau a freiniwyd ynddo gynt a bydd yn cael effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001101w.html