BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cefnffordd Sancler-Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston-Redberth) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001172w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 10 a 12 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob pwer galluogi arall[2]:- 1. Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym. 2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd. 3. Mewn perthynas ag unrhyw ran o briffordd sy'n croesi llwybr y gefnffordd newydd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cyfarwyddo:
b. lle nad yw'r briffordd yn briffordd y gellir ei chynnal felly ac na ellir ei chynnal ychwaith o dan ddeddfiad penodol neu oherwydd deiliadaeth, cau neu ragnodi, na fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan unrhyw ddyletswydd i gynnal y rhan o dan sylw.
4.
Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chânt eu dosbarthu fel ffyrdd dobarthiadol o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n hysbysu Cyngor Sir Penfro fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd.
6.
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 17 Mai 2000 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Sanclêr - Doc Penfro (A477) (Ffordd Osgoi Sageston - Redberth) 2000. The route of the new trunk road is a route at Milton, Sageston and Redberth in the County of Pembrokeshire about 4.80 kilometres in length starting at a point on the existing Trunk Road about 260 metres west of its junction with the A4075 then going in a northeasterly direction to a point on the existing Trunk Road about 110 metres southwest of its junction with the C3129. 1. Y darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt rhyw 10 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd ag A ar y plan a adneuwyd a phwynt rhyw 210 metr i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd â B ar y plan a adneuwyd. 2. Y darn hwnnw o'r gefnffordd a leolir rhwng pwynt rhyw 475 metr i'r dwyrain o'i chyffordd â'r A4075 a farciwyd ag C ar y plan a adneuwyd a phwynt rhyw 275 metr i'r gorllewin o'i chyffordd â'r C3129 a farciwyd â D ar y plan a adneuwyd. Notes: [1] 1980 p.66back [2] Yn rhinwedd O.S. 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn bellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.back
|