[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio) (Cymru) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001735w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 2(2) a (4) a 146(1) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 [1] fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[3]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig a Ffurflen a Manylion Cymraeg) (Diwygio)(Cymru) 2000 a deuant i rym 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y'u gwneir. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygiadau 2. - (1) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996[4]) fel y'i nodir yn nhestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. (2) Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 [5] fel y'i nodir yn nhestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]. Dafydd. Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 20 Mehefin 2000 1. Yng nghwestiwn 1.1 yn lle "Nodyn 1" rhowch "Nodiadau 1 ac 1A". 2. Ar ôl cwestiwn 1.2, mewnosodwch -
Eich rhif yswiriant gwladol Rhif yswiriant gwladol eich partner ".
3.
Ar ôl cwestiwn 1.3, mewnosodwch -
Oes
3.23B Os ydych wedi ateb "Nac ydwyf/Nac ydyw" i gwestiwn 3.23A, a oes gennych chi neu'ch partner hawl i gael yr isafswm cyflog gwladol am bob swydd? Nodyn 74A
3.23C Os ydych wedi ateb "Nac oes" i gwestiwn 3.23B, dywedwch pam nad oes gennych chi neu'ch partner hawl i gael isafswm cyflog gwladol am bob swydd a ddelir: Nodyn 74A ".
6.
Yng nghwestiwn 3.31 -
£ ", mewnosodwch "Nodyn 86B"; (b) ar ôl "Benthyciad myfyrwyr: £ £ ", mewnosodwch "Nodyn 86C".
7.
Yng nghwestiwn 3.34, yn lle "Nodiadau 90 a 90A" rhowch "Nodiadau 90, 90A a 90B".
Nodyn 2A "
10.
Cyn nodyn 2, mewnosodwch -
11.
Ar ôl nodyn 2, mewnosodwch -
Mae Adran Dai y Cyngor yn gallu rhoi cyngor i chi am ba ddogfennau y dylech eu darparu a hefyd sut i wneud cais am rif yswiriant gwladol newydd. Llenwch weddill y ffurflen a gofyn am eu cyngor pan fyddwch yn anfon y cais atynt".
12.
Yn nodyn 3 -
(b) yn lle "i gwestiwn 1.3" rhowch "i gwestiynau 1.3 ac 1.3A" ac yn lle "i'r cwestiwn hwn" rhowch "i'r ddau gwestiwn".
13.
Ar ddiwedd nodyn 70, ychwanegwch -
14.
Ar ddiwedd nodiadau 71 a 72, ychwanegwch -
15.
Ar ôl nodyn 74, mewnosodwch -
16.
Yn nodyn 85, ar ôl "Groes George" mewnosodwch -
17.
Ar ô l nodyn 86A, mewnosodwch -
Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer. Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig .
86C
Dylech roi mwyafswm y benthyciad myfyriwr y gallech fod wedi'i gael, lle na chawsoch fenthyciad myfyriwr neu lle na chawsoch y mwyafswm."
18.
Ar ôl nodyn 90A, mewnosodwch -
Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer. Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig .
19.
Yn nodyn 92, ar ôl "grant y myfyriwr" mewnosodwch "neu fenthyciad y myfyriwr". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r ffurflen sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 i'w gweld yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig)1996. Gwelir y ffurflen Gymraeg gyfatebol yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998. Gwnaeth Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000 ddiwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 a oedd yn ganlyniadol i newidiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 y seilir y prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant arnynt. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i'r ffurflenni cais sy'n ganlyniadol i'r diwygiadau a wnaed i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996. Notes: [1] 1996 p.53. I gael y diffiniad o "prescribed" gweler adran 101 o'r Ddeddf.back [3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [4] (ch) O.S. 1996/2891, diwygiwyd gan O.S. 1996/3119, 1997/978, 1998/809, 1999/1607 a 1999/3470.back [5] O.S. 1998/1113, diwygiwyd gan O.S. 1999/2316 a 1999/3470.back
|