BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001941w.html |
[New search] [Help]
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod o'r farn ei bod yn briodol, o gofio amcanion cyffredinol Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, i'r Cyngor gyflawni'r swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac ar ôl ymgynghori fel y gwêl yn dda, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 a daw i rym ar 1 Medi 2000. 2. Yn y Gorchymyn hwn -
3.
- (1) Drwy hyn rhoddir i'r Cyngor y swyddogaeth ychwanegol o gadw cofnodion sy'n ymwneud â'r categorïau o bersonau a restrir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn. 1. Personau y mae eu henwau wedi'u tynnu oddi ar y Gofrestr heblaw rhai y cafodd eu henwau eu tynnu ar eu cais hwy eu hunain neu sydd wedi marw. 2. Personau sy'n anghymwys i'w cofrestru yn rhinwedd adran 3(3)(a) i (c) a (4) o Ddeddf 1998. 3. Athrawon neu athrawesau cymwysedig nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig. 4. Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig, sydd wedi dechrau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau, p'un a ydynt wedi cwblhau'r cwrs hwnnw neu beidio. 5. Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cymwysedig ac sy'n cael eu cyflogi yn athrawon neu athrawesau mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod addysg lleol. 6. Personau nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig ac sy'n paratoi at Gymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol Prifathrawiaeth, neu wedi'i ennill. 7. Personau nad ydynt yn perthyn i unrhyw un o'r categorïau uchod ac nad ydynt yn athrawon neu athrawesau cofrestredig, sydd - (a) â rhif cyfeirnod swyddogol wedi'i ddyrannu iddynt; a (b) yn cael eu cyflogi, neu wedi cael eu cyflogi ar unrhyw adeg, yn athro neu'n athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall. 1. Y rhif cyfeirnod swyddogol, os oes un, a ddyrannwyd i'r person. 2. Ai gwryw ynteu fenyw yw'r person. 3. Dyddiad geni'r person. 4. Os yw'n hysbys, unrhyw enw y câi'r person ei adnabod wrtho o'r blaen. 5. Os yw'n hysbys, i ba grp hil y mae'r person yn perthyn. 6. Os yw'n hysbys, a yw'r person yn anabl. 7. Cyfeiriad cartref y person, neu gyfeiriad cyswllt arall, rhif ffôn, rhif cyflunydd a chyfeiriad post electronig. 8. Rhif yswiriant gwladol y person. 9. - (1) Os yw'n hysbys, pan yw'r person yn cael ei gyflogi fel athro neu athrawes -
(b) manylion y math o ysgol neu sefydliad lle mae'r person yn cael ei gyflogi i addysgu ac enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu'r sefydliad os yw hynny'n gymwys; (c) ai cyflogaeth amser-llawn neu ran-amser ydyw; (ch) y swydd sydd gan y person; a (d) y dyddiad yr ymgymerodd y person â'i swydd bresennol.
(2) Pan nad yw'r person yn cael ei gyflogi fel athro neu athrawes ar hyn o bryd, y dyddiad diwethaf pryd yr oedd yn cael ei gyflogi felly, a'r manylion ym mharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1) mewn perthynas â'i swydd addysgu ddiweddaraf.
(b) y teitl; (c) y sefydliad a'i dyfarnodd; (ch) dosbarth y radd neu'r cymhwyster; a (d) y pwnc.
12.
Y dyddiad yr enillodd y person gymhwyster athro neu athrawes.
(b) teitl neu ddisgrifiad y cwrs; (c) y pwnc neu'r pynciau a astudiwyd gan y person; (ch) oedrannau'r disgyblion y bwriadwyd y cwrs i baratoi'r person i'w haddysgu; a (d) dyddiad dechrau a chwblhau'r cwrs.
15.
Pan enillodd y person gymhwyster athro neu athrawes gymwysedig heblaw drwy gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus -
(b) enw'r ysgol neu'r sefydliad lle gwnaed yr ymarfer addysgu; ac (c) dyddiad cwblhau'r rhaglen hyfforddi.
16.
Os ydynt yn hysbys,
(b) os dyfarnwyd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth i'r person, nodyn i ddweud hynny a dyddiad y dyfarniad; (c) manylion unrhyw gymhwyster proffesiynol neu academaidd arall sydd gan y person; ac (ch) os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, nodyn i ddweud hynny.
17.
Os yw'n hysbys -
(b) os athro neu athrawes uwch-fedrau yw'r person, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad yr ardystiwyd y person yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau ac enw'r ysgol lle'r oedd y person yn cael ei gyflogi pan gafodd ei ardystio yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau; (c) os athro neu athrawes cynllun carlam yw'r person, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad yr ymunodd y person â'r cynllun carlam, a'r ysgol lle'r oedd y person yn cael ei gyflogi pan ymunodd â'r cynllun carlam.
18.
- (1) Pan yw'r person wedi bwrw cyfnod ymsefydlu neu ran o gyfnod ymsefydlu, boed yng Nghymru neu Loegr, -
(b) y dyddiad y dechreuodd y person y cyfnod ymsefydlu; (c) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau; (ch) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus; (d) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i estyn ar gyfer y person, a chyfnod yr estyniad; a (dd) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud mai rhan yn unig o'r cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i chwblhau gan y person, a'r cyfnod sydd wedi'i fwrw.
(2) Pan nad yw'r person wedi bwrw cyfnod ymsefydlu,
(b) os nad oedd yn ofynnol bwrw cyfnod ymsefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o'r ffaith honno[8].
19.
Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y person wedi methu cyfnod prawf, ac a yw'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i'r person gael ei gyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988[9]. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, corff corfforaethol a sefydlwyd gan Orchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998, a wnaed o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adran 8. O dan Ddeddf 1998 mae swyddogaethau'r Cyngor yn cynnwys sefydlu a chadw cofrestr o athrawon ac athrawesau, cyhoeddi Cod Ymarfer yn nodi'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth athrawon ac athrawesau cofrestredig, arfer pwerau disgyblu mewn perthynas ag athrawon ac athrawesau cofrestredig a phersonau sy'n gwneud cais am gofrestru a rhoi cyngor ynghylch materion addysgu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac eraill. Y swyddogaethau ychwanegol y mae'r Gorchymyn hwn yn eu rhoi yw cadw cofnodion ar ffurf ysgrifenedig neu electronig mewn perthynas â'r categorïau o bersonau a grybwyllir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn. Personau yw'r rhain sy'n:
(ii) rhai athrawon neu athrawesau sy'n anghymwys i'w cofrestru, (iii) athrawon neu athrawesau a chanddynt statws athro neu athrawes gymwysedig sydd heb gofrestru, (iv) personau sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant athrawon ac athrawesau, (v) rhai athrawon neu athrawesau sydd heb ennill cymhwyster, (vi) athrawon neu athrawesau anghofrestredig sy'n paratoi at y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth, (vii) personau anghofrestredig y mae ganddynt rif cyfeirnod fel athro neu athrawes ac sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio yn y gorffennol fel athrawon neu athrawesau.
Nodir yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cofnodion yn Rhan II o'r Atodlen ac mae'n debyg i'r wybodaeth sydd i'w chofnodi ar y gofrestr mewn perthynas ag athrawon neu athrawesau cofrestredig. Notes: [1] 1998 p.30. Yn effeithiol o 1 Medi 2000 ymlaen, bydd y darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o Orchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Adeg gwneud y Gorchymyn hwn y rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer Cymru oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817). Adeg gwneud y Gorchymyn hwn y rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon ar gyfer Lloegr oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).back [4] Adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid oedd rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon mewn perthynas â Chymru. Adeg gwneud y Gorchymyn hwn y rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon mewn perthynas â Lloegr oedd Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu Athrawon Ysgol) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/1065) a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2211.back [7] O.S. 1999/2817 (Cy. 18).back [8] Adeg gwneud y Gorchymyn hwn, nid oedd ymsefydlu'n ofynnol ar gyfer athrawon ac athrawesau yng Nghymru; nid oedd rheoliadau wedi'u gwneud o dan adran 19 o Ddeddf 1998 mewn perthynas â Chymru. Mae'r gofyniad ynghylch cyfnod ymsefydlu yn Lloegr yn gymwys ers 1 Medi 1999 (O.S. 1999/1065).back [9] Gweler nodyn (c) ar dudalen 3 uchod.back [10] Adeg gwneud y Gorchymyn hwn y rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon oedd Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993 (O.S. 1993/543); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S 1995/2594 a 1998/1584.back [11] O.S. 1997/3001 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back
|