BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20001979w.html |
[New search] [Help]
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(3)(d), 4, 5, 14 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000. (2) Daw rheoliadau 12 a 17 i rym ar 1 Chwefror 2001, daw rheoliad 16 i rym ar 1 Rhagfyr 2000, a daw'r holl reoliadau eraill i rym ar 1 Medi 2000. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at -
(b) paragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad neu'r Atodlen y gwelir y cyfeiriad ynddynt; ac (c) is-baragraff â rhif, yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.
Anghymhwyso rhag cofrestru 3. At ddibenion adran 3(3)(d) o Ddeddf 1998, nid yw person yn gymwys i'w gofrestru os yw'n anghymwys i'w gofrestru fel athro neu athrawes, neu wedi'i anghymhwyso rhag bod yn athro neu'n athrawes mewn unrhyw ysgol, yn rhinwedd -
(b) rheoliad 9 o Reoliadau Athrawon (Cymhwyster) (Gogledd Iwerddon) 1997[11]; neu (c) rheoliadau a wneir o dan erthygl 36 o Orchymyn Addysg (Gogledd Iwerddon) 1998[12]).
Ceisiadau am gofrestru
(b) enw llawn y ceisydd; (c) dyddiad geni'r ceisydd; (c) cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall y ceisydd; a (d) y dyddiad yr enillodd y ceisydd gymhwyster athro neu athrawes.
(2) Caiff y Cyngor wneud darpariaeth bellach ynghylch -
(b) y dystiolaeth ddogfennol a'r dystiolaeth arall sydd i gyd-fynd â cheisiadau am gofrestru.
Cofrestru pan sefydlir y Gofrestr
(ii) â chadw cofnodion yn y Gofrestr;
(b) ar gyfer eithriadau lle na chaiff ffioedd eu codi; ac
Tynnu cofnodion oddi ar y Gofrestr Cyhoeddi Cod Ymarfer a'i ddiwygio 13. Caiff y Cyngor gyhoeddi Cod Ymarfer, a'i ddiwygio o dro i dro, i nodi safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth athrawon ac athrawesau cofrestredig. Darparu copïau o'r Cod Ymarfer 14. - (1) Rhaid i'r Cyngor drefnu bod copïau o'r Cod Ymarfer ar gael yn ddi-dâl i bob athro ac athrawes gofrestredig -
(b) os bydd y Cyngor yn penderfynu felly, pan gaiff y Cod Ymarfer ei ddiwygio.
(2) Caiff y Cyngor drefnu bod copi o'r Cod Ymarfer ar gael ar unrhyw wefan a gynhelir gan y Cyngor ar y rhyngrwyd, ac os ydynt yn gwneud felly, mae'n rhaid iddo fod yn ddi-dâl. Rhoi gwybodaeth i athrawon ac eraill 15. - (1) Pan ddaw cais i law oddi wrth athro neu athrawes gofrestredig, rhaid i'r Cyngor roi copi iddynt o'r wybodaeth sydd wedi'i chofnodi ar y Gofrestr wrth ochr eu henw. (2) Pan ddaw cais i law oddi wrth berson y mae gan y Cyngor gofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998, rhaid i'r Cyngor roi copi o'r cofnodion hynny sydd ganddynt i'r person. Rhoi gwybodaeth i gyflogwyr 16. - (1) Os daw cais i law oddi wrth gyflogydd neu ddarpar gyflogydd -
(b) person anghofrestredig y mae gan y Cyngor gofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998,
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys i gyflogydd neu ddarpar gyflogydd sydd -
(b) yn gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol; (c) yn gorff llywodraethu ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal; (ch) yn berchennog ysgol annibynnol; (d) yn sefydliad yn y sector addysg uwch; (dd) yn sefydliad yn y sector addysg bellach; (e) yn asiantaeth athrawon cyflenwi; neu (f) yn asiantaeth Addysg Plant yn y Gwasanaethau.
(3) Mae paragraff (1) yn gymwys hefyd i awdurdod addysg lleol os corff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw yw'r cyflogydd neu'r darpar gyflogydd (p'un a yw'r corff llywodraethu wedi gwneud cais o dan baragraff (1) neu beidio).
(b) person anghofrestredig y mae gan y Cyngor gofnodion amdano yn unol â gorchymyn o dan adran 7(1) a (4) o Ddeddf 1998,
(2) Pan roddir gwybodaeth o dan baragraff (1), rhaid gosod amod yn gofyn i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban beidio â datgelu'r wybodaeth honno i neb heblaw'r athro neu'r athrawes y mae'r wybodaeth yn cyfeirio atynt. 1. Y rhif cyfeirnod swyddogol, os oes un, a ddyrannwyd i'r athro neu'r athrawes. 2. Ai athro ynteu athrawes ydyw. 3. Dyddiad geni'r athro neu'r athrawes. 4. Os yw'n hysbys, unrhyw enw y câi'r athro neu'r athrawes eu hadnabod wrtho o'r blaen. 5. Os yw'n hysbys, i ba grp hil y mae'r athro neu'r athrawes yn perthyn. 6. Os yw'n hysbys, a yw'r athro neu'r athrawes yn anabl. 7. Cyfeiriad cartref yr athro neu'r athrawes, neu gyfeiriad cyswllt arall, ac os ydynt yn hysbys rhif ffôn, rhif cyflunydd a chyfeiriad post electronig. 8. Rhif yswiriant gwladol yr athro neu'r athrawes. 9. - (1) Os yw'n hysbys, pan yw'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi fel athro neu athrawes -
(b) manylion y math o ysgol neu sefydliad lle mae'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi i addysgu ac enw'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu'r sefydliad os yw hynny'n gymwys; (c) ai cyflogaeth amser-llawn neu ran-amser ydyw; (ch) y swydd sydd gan yr athro neu'r athrawes; a (d) y dyddiad yr ymgymerodd yr athro neu'r athrawes â'u swydd bresennol.
(2) Pan nad yw'r athro neu'r athrawes yn cael eu cyflogi fel athro neu athrawes ar hyn o bryd, y dyddiad diwethaf, os yw'n hysbys pryd yr oeddent yn cael eu cyflogi felly, a'r manylion ym mharagraffau (a) i (d) o is-baragraff (1) mewn perthynas â'u swydd addysgu ddiweddaraf.
(b) y teitl; (c) y sefydliad a'i dyfarnodd; (ch) dosbarth y radd neu'r cymhwyster; a (d) y pwnc.
12.
Y dyddiad yr enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes.
(b) teitl neu ddisgrifiad y cwrs; (c) y pwnc neu'r pynciau a astudiwyd gan yr athro neu'r athrawes; (ch) oedrannau'r disgyblion y bwriadwyd y cwrs i baratoi'r athro neu'r athrawes i'w haddysgu; a (d) dyddiad dechrau a chwblhau'r cwrs.
15.
Pan enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes heblaw drwy gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus -
(b) enw'r ysgol neu'r sefydliad lle gwnaed yr ymarfer addysgu; ac (c) dyddiad cwblhau'r rhaglen hyfforddi.
16.
Os ydynt yn hysbys -
(b) os dyfarnwyd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth i'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny a dyddiad y dyfarniad; (c) manylion unrhyw gymhwyster proffesiynol neu academaidd arall sydd gan yr athro neu'r athrawes; (ch) os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, nodyn i ddweud hynny; a (d) os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu addysgu Cymraeg ail iaith, nodyn i ddweud hynny.
17.
Os yw'n hysbys -
(b) os athro neu athrawes uwch-fedrau yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y'u hardystiwyd yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau ac enw'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth gael eu hardystio yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau; (c) os athro neu athrawes cynllun carlam yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y bu iddynt ymuno â'r cynllun carlam, a'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth ymuno â'r cynllun carlam.
18.
- (1) Pan yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu neu ran o gyfnod ymsefydlu, boed yng Nghymru neu Loegr -
(b) y dyddiad y dechreuodd yr athro neu'r athrawes y cyfnod ymsefydlu; (c) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau; (ch) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i estyn ar gyfer yr athro neu'r athrawes, a chyfnod yr estyniad; a (d) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud mai rhan yn unig o'r cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i chwblhau gan yr athro neu'r athrawes, a'r cyfnod sydd wedi'i fwrw.
(2) Pan nad yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu -
(b) os nad oedd yn ofynnol i'r athro neu'r athrawes fwrw cyfnod ymsefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o'r ffaith honno[15].
19.
Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi methu cyfnod prawf, ac a yw'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i'r athro neu'r athrawes gael eu cyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988[16]. 1. A yw'r athro neu'r athrawes wedi'u cofrestru neu beidio. 2. A yw'r athro neu'r athrawes yn athro neu'n athrawes gymwysedig neu beidio. 3. Y dyddiad yr enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes. 4. Os yw'n hysbys, pan fo gan yr athro neu'r athrawes radd neu gymhwyster cyfatebol -
(b) y teitl; (c) y sefydliad a'i dyfarnodd; (ch) dosbarth y radd neu'r cymhwyster; a (d) y pwnc.
5.
Os yw'n hysbys, y dyddiad yr ymgymerodd yr athro neu'r athrawes â'i swydd gyntaf fel athro neu athrawes gymwysedig.
(b) teitl neu ddisgrifiad y cwrs; (c) y pwnc neu'r pynciau a astudiwyd gan yr athro neu'r athrawes; (ch) oedrannau'r disgyblion y bwriadwyd y cwrs i baratoi'r athro neu'r athrawes i'w haddysgu; a (d) dyddiad dechrau a chwblhau'r cwrs.
7.
Pan enillodd yr athro neu'r athrawes gymhwyster athro neu athrawes heblaw drwy gwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ac athrawesau yn llwyddiannus -
(b) enw'r ysgol neu'r sefydliad lle gwnaed yr ymarfer addysgu; ac (c) dyddiad cwblhau'r rhaglen hyfforddi.
8.
Os ydynt yn hysbys,
(b) os dyfarnwyd y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth i'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny a dyddiad y dyfarniad; (c) manylion unrhyw gymhwyster proffesiynol neu academaidd arall sydd gan yr athro neu'r athrawes; (ch) os yw'r athro neu'r athrawes yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, nodyn i ddweud hynny; a (d) os yw'r athro neu'r athraws yn gallu addysgu Cymraeg ail iaith, nodyn i ddweud hynny.
9.
Os yw'n hysbys -
(b) os athro neu athrawes uwch-fedrau yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y'u hardystiwyd yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau ac enw'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth gael eu hardystio yn athro neu'n athrawes uwch-fedrau; (c) os athro neu athrawes cynllun carlam yw'r athro neu'r athrawes, nodyn i ddweud hynny, y dyddiad y bu iddynt ymuno â'r cynllun carlam, a'r ysgol lle'r oeddent yn cael eu cyflogi wrth ymuno â'r cynllun carlam.
10.
- (1) Pan yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu neu ran o gyfnod ymsefydlu, boed yng Nghymru neu Loegr, -
(b) y dyddiad y dechreuodd yr athro neu'r athrawes y cyfnod ymsefydlu; (c) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi cwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus, a dyddiad ei gwblhau; (ch) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi methu â chwblhau'r cyfnod ymsefydlu'n llwyddiannus; (d) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod y cyfnod ymsefydlu wedi'i estyn ar gyfer yr athro neu'r athrawes, a chyfnod yr estyniad; a (dd) os yw'n gymwys, nodyn i ddweud mai rhan yn unig o'r cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i chwblhau gan yr athro neu'r athrawes, a'r cyfnod sydd wedi'i fwrw.
(2) Pan nad yw'r athro neu'r athrawes wedi bwrw cyfnod ymsefydlu -
(b) os nad oedd yn ofynnol i'r athro neu'r athrawes fwrw cyfnod ymsefydlu ar yr adeg berthnasol, datganiad o'r ffaith honno.
11.
Os yw'n gymwys, nodyn i ddweud bod yr athro neu'r athrawes wedi methu cyfnod prawf, ac a yw'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cydsynio i'r athro neu'r athrawes gael eu cyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â swyddogaethau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, corff corfforaethol a sefydlwyd gan Orchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998, a wnaed o dan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adran 8. Nodau'r Cyngor yw cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu a chynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon ac athrawesau er lles y cyhoedd. Mae adran 3 o'r Ddeddf yn rhoi i'r Cyngor y swyddogaeth o sefydlu a chadw cofrestr o athrawon ac athrawesau. Mae Rhan II o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a dull cadw'r gofrestr, a materion eraill ynghylch cofrestru. Mae Rhan II hefyd yn rhagnodi amgylchiadau, yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 3 o'r Ddeddf, y mae athrawon ac athrawesau yn gymwys ac yn anghymwys i'w cofrestru odanynt. Mae Rhan III yn awdurdodi'r Cyngor i gyhoeddi Cod Ymarfer, a'i ddiwygio o dro i dro, sef cod yn nodi safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth athrawon ac athrawesau cofrestredig, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut mae'r Cyngor i ddarparu copïau o'r Cod. Mae Rhan IV yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi copïau o'r wybodaeth sy'n cael ei chadw amdanynt i athrawon ac athrawesau cofrestredig a phersonau eraill megis athrawon neu athrawesau cymwysedig nad ydynt wedi'u cofrestru ac y mae'r Cyngor yn cadw cofnodion amdanynt yn unol â Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000. Mae hefyd yn ofynnol i'r Cyngor roi'r wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 i gyflogwyr a darpar gyflogwyr athrawon neu athrawesau ac i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban. Notes: [1] 1998 p.30. Mae adrannau 1(9), 2 i 7 ac Atodlenni 1 a 2 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911) yn effeithiol o 30 Rhagfyr 1998 ymlaen, yn achos adran 1(9) ac Atodlen 1, a 1 Medi 2000 yn achos gweddill y darpariaethau. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau mewn grym ar gyfer Cymru o dan y ddarpariaeth hon oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)); adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau mewn grym ar gyfer Lloegr o dan y ddarpariaeth hon oedd Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).back [4] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, nid oedd rheoliadau wedi'u gwneud o dan adran 19 mewn perthynas â Chymru; y rheoliadau mewn grym ar gyfer Lloegr adeg gwneud y Rheoliadau hyn oedd Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu Athrawon Ysgol) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/1065) a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2211.back [8] (ch) 1996 p. 56; diwygiwyd adran 463 gan baragraffau 57 a 124 o Atodlen 30 a chan Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back [9] 1996 p.56; diwygiwyd adran 337(1) gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back [11] S.R. (G.I.) 1997 Rhif 312.back [12] (ch) O.S. 1998 Rhif 1759 (G.I. 13).back [14] O.S. 1999/2817 (Cy.18).back [15] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, nid oedd ymsefydlu'n ofynnol ar gyfer athrawon ac athrawesau yng Nghymru; nid oedd rheoliadau wedi'u gwneud o dan adran 19 o Ddeddf 1998 mewn perthynas â Chymru. Mae'r gofyniad ynghylch cyfnod ymsefydlu yn Lloegr yn gymwys ers 1 Medi 1999 (O.S. 1999/1065)..back [16] Gweler nodyn (a) ar dudalen 4 uchod.back [17] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau mewn grym o dan y ddarpariaeth hon oedd Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993 (O.S. 1993/543); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S 1995/2594 a 1998/1584.back [18] O.S. 1997/3001 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
|