BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000244w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 244 (Cy. 2)

LOCAL GOVERNMENT, WALES, FINANCE

Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2000

  Wedi'u gwneud 3 Chwefror 2000 
  Yn dod i rym 7 Chwefror 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 74, 140(4) a 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardollau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2000 a byddant yn dod i rym ar 7 Chwefror 2000.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn

Diwygio rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau
     2. Rhodder yn lle rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau (cymhwyso) y rheoliad canlynol-

Diwygio rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau
    
3. Yn rheoliad 4 o'r Prif Reoliadau (gosod ardollau) hepgorer paragraffau (1) a (2)

Diwygio rheoliad 6 o'r Prif Reoliadau
    
4. Yn rheoliad 6 o'r Prif Reoliadau (mwyafswm ardollau) yn lle paragraffau (5), (6) a (7) mewnosoder y paragraff canlynol


Diwygio rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau
    
5. Yn rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau (amnewid ardollau) yn lle paragraff (4) mewnosoder -"A new levy shall be issued in accordance with these Regulations."

Eithriadau
    
6. Bydd darpariaethau'r Prif Reoliadau fel yr oeddent yn bodoli yn union cyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn parhau mewn grym mewn perthynas ag unrhyw ardoll gan awdurdod Parc Cenedlaethol a osodir ar awdurdod bilio perthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2000.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


Dafydd Elis Thomas
Y Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Chwefror 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Cymru) 1995 ("Rheoliadau 1995") fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Ardollau) (Diwygio) 1996. Mae Rheoliadau 1995 yn darparu bod Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn gosod ardollau ar gynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol Cymru fel awdurdodau bilio ar gyfer y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli darpariaethau penodol yn Rheoliadau 1995 ar gyfer blynyddoedd ariannol 2000 a 2001 (rheoliadau 2 a 5). Bydd gofyn am ddeddfwriaeth bellach ar gyfer y blynyddoedd sy'n dilyn.

Mae Rheoliad 4 o'r Rheoliadau yn diddymu paragraffau (1) a (2) o reoliad 4 (gosod ardollau) o Reoliadau 1995. Mae'r paragraffau hynny yn atal awdurdod Parc Cenedlaethol rhag gosod ardoll cyn 15 Ionawr yn y flwyddyn ariannol sy'n rhagflaenu'r flwyddyn ariannol y mae ardoll yr awdurdod yn perthyn iddi, oni bai fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu maint y grant y mae'n barod i'w roi i'r awdurdod o dan adran 72 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.

Mae Rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn rhoi paragraff (5) newydd yn lle paragraffau (5), (6) a (7) rheoliad 6 (mwyafswm yr ardollau y gellir eu gosod) o Reoliadau 1995. Mae Rheoliad 6 yn atal awdurdod Parc Cenedlaethol rhag codi drwy ardollau swm sy'n uwch na'r mwyafswm. Mae paragraff (5) yn darparu ar gyfer cyfrifo mwyafswm yr ardoll y gellir ei gosod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu'r grantiau ar gyfer y Parciau Cenedlaethol cyn y dyddiad, sef 15 Ionawr, y cyfeirir ato uchod. Mae paragraffau (6) a (7) yn darparu ar gyfer cyfrifo mwyafswm yr ardoll y gellir ei gosod pan nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu'r grant erbyn 15 Ionawr. Mae'r ddarpariaeth newydd yn pennu ar gyfer pob Parc Cenedlaethol fwyafswm unigol yr ardollau y gellir eu gosod gan bob Parc Cenedlaethol

Mae Rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau ôl-ddilynol


Notes:

[1] 1988 c.41. to which there are amendments that are not relevant to these Regulations.back

[2] See the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672).back

[3] S.I. 1995/3019; relevant amending instrument is S.I. 1996/2913back

[4] 1998 c.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000244w.html