BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/20002540w.html |
[New search] [Help]
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2) a (4) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2000. (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Dysgu a Medrau 2000. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Y darpariaethau sy'n dod i rym 1. Daw'r darpariaethau yn y Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Medi 2000. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2] Sue Essex Ysgrifennydd Cynulliad 15 Medi 2000 Adran 30. Adran 47. Adran 49. Adran 51. Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 9 a bennir isod. Atodlen 4. Yn Atodlen 9 - paragraffau 3 a 4 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant, paragraff 93. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn yr Atodlen i rym ar 19 Medi 2000. Darperir yn y Gorchymyn ar gyfer cychwyn y darpariaethau sy'n sefydlu'r corff sydd i'w alw'n Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (adran 30) ynghyd â darpariaethau sy'n dilyn o sefydlu'r Cyngor (adran 51 a pharagraffau 3, 4 a 93 o Atodlen 9). Mae'r Gorchymyn hefyd yn dod ag Atodlen 4 i rym. Mae honno'n cynnwys darpariaethau ynghylch aelodaeth, staff a thrafodion y Cyngor a'i ofynion cyfrifydda. Mae'r Gorchymyn hefyd yn dod â dwy adran arall i rym sy'n angenrheidiol er mwyn caniatáu i'r Cyngor ddechrau ar y gwaith paratoi y mae ei angen er mwyn iddo ymgymryd â'i swyddogaethau llawn: adran 47 sy'n rhoi pwer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddiadau i'r Cyngor, ac adran 49 sy'n rhoi pwer i'r Cynulliad Cenedlaethol roi grantiau i'r Cyngor. Notes: [1] 2000 p.21back
|