BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000825w.html

[New search] [Help]


OFFERYNNAU STATUDOL


2000 Rhif 825 (Cy.31)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000

  Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2000 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2000 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac a freiniwyd ynddo bellach[2]:

     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Cyfradd y Gostyngiad ar gyfer 2000/2001) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000.

    
2. 7.5 y cant fydd cyfradd ganrannol y gostyngiad a ragnodir ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 at ddibenion diffinio "r" yn adran 49(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2000



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn darparu ar gyfer cyllid cyfalaf awdurdodau lleol. Mae adran 49(2) yn nodi fformwla ar gyfer penderfynu, at ddibenion Rhan IV, gwerth y gydnabyddiaeth sydd i'w rhoi gan awdurdod lleol o dan drefniant credyd mewn unrhyw flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn y daw'r trefniant i fodolaeth. Un o'r ffactorau y cyfeirir ato yn y fformwla yw cyfradd ganrannol y gostyngiad a ragnodir ar gyfer blwyddyn ariannol. Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000 mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi 7.5 y cant, sef 0.9 y cant yn llai na chyfradd y gostyngiad a ragnodwyd ar gyfer 1999/2000.


Notes:

[1] 1989 p.42.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1998 p.38.back

English version


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2000/2000825w.html