BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 424 (Cy.18)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
15 Chwefror 2001 | |
|
Yn dod i rym |
19 Chwefror 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi [1] at ddibenion adran 2(2) Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ar ôl cael cymeradwyaeth y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer cynllun datblygu gwledig a gyflwynwyd ar ffurf drafft yn unol ag Erthygl 41 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999[3] ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol -
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Ffermio Organig (Cymru) 2001, byddant yn gymwys mewn perthynas â Chymru a deuant i rym ar 19 Chwefror 2001.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "a gymeradwywyd" ("approved") yw wedi'i gymeradwyo gan awdurdod archwilio;
mae "amaethyddiaeth" ("agriculture") yn cynnwys garddwriaeth, tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio llaeth, bridio a chadw da byw, a defnyddio'r tir ar gyfer tir pori, doldir, gerddi marchnad neu diroedd planhigfa, ond nid yw'n cynnwys defnyddio' tir
(i) fel tir helyg gwiail; neu
(ii) ar gyfer coetiroedd, ac eithrio pan yw'r defnydd hwnnw'n atodol i unrhyw ddefnydd arall ar y tir at ddibenion amaethyddiaeth;
ystyr "awdurdod archwilio" ("inspection authority"), mewn perthynas ag uned organig neu barsel organig, yw -
(a) yr awdurdod a ddynodir gan Reoliadau Cynnyrch Organig 1992[4] at ddibenion Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor 2092/91[5], neu
(b) corff archwilio preifat sydd wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod hwnnw yn unol ag Erthygl 9 o'r Rheoliad hwnnw (sy'n ymwneud â'r system archwilio y mae ffermio organig yn ddarostyngedig iddi),
sef yr awdurdod neu'r corff archwilio preifat y mae'r ceisydd wedi gwneud cais iddo gyflawni swyddogaethau archwilio mewn perthynas â'r uned organig honno neu'r parsel organig hwnnw;
ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw'r deuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;
ystyr "blwyddyn gyntaf" ("first year") yw -
(a) mewn perthynas â pharsel organig -
(i) mewn achos lle mae'r cyfnod trosi mewn perthynas â'r parsel organig wedi dechrau erbyn y dyddiad derbyn fan bellaf, y flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad derbyn; a
(ii) mewn unrhyw achos arall, y flwyddyn sy'n dechrau ar ben-blwydd y dyddiad derbyn, sef y pen-blwydd cyntaf o'r fath i ddigwydd yn ystod y cyfnod trosi sy'n ymwneud â'r parsel organig o dan sylw; a
(b) mewn perthynas ag uned organig, y flwyddyn gyntaf mewn perthynas â'r parsel organig cyntaf y mae cais yn ymwneud ag ef, sef y cais cyntaf o'r fath sy'n ymwneud â thir sydd wedi'i gynnwys yn yr uned organig honno;
ac mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw flwyddyn olynol yn gyfeiriad at y flwyddyn olynol berthnasol yn dilyn mewn trefn o'r flwyddyn gyntaf;
ystyr "buddiolwr" ("beneficiary") yw -
(a) person y mae ei gais, yngln â thir sy'n cynnwys un neu ragor o barseli organig, wedi'i dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol; neu
(b) person sy'n meddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o uned organig yn dilyn newid ym meddiannaeth y daliad, sydd wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r holl rwymedigaethau yr oedd cyn-feddiannydd y daliad wedi'u derbyn o dan y Rheoliadau hyn, i'r graddau y maent yn ymwneud â thir sydd wedi'i gynnwys yn yr uned organig honno, neu ran o'r uned organig honno sy'n cael ei meddiannu gan y meddiannydd newydd, ac y mae ei ymrwymiad ar y telerau wedi'i dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol;
ystyr "cais" ("application") yw cais am gymorth sy'n cael ei wneud yn unol â rheoliad 9 ar gyfer un neu ragor o barseli organig, a dehonglir "ceisydd" ("applicant") a "gwneud cais" ("apply") yn unol â hynny;
ystyr "CTATA" ("AAPS") yw Cynllun Taliadau Ardal Tir Âr;
ystyr "cyfnod penodedig" ("specified period"), mewn perthynas â chais, yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad derbyn ac sy'n gorffen pan ddaw'r cyfnod o bum mlynedd, o'r dyddiad y daw'r taliad cyntaf yn daladwy arno ar gyfer y parsel organig olaf sy'n destun y cais hwnnw i ben;
ystyr "cyfnod trosi" ("conversion period"), mewn perthynas â pharsel organig, yw'r cyfnod sy'n cael ei benderfynu gan yr awdurdod archwilio fel y cyfnod y disgwylir i waith trosi'r parsel organig hwnnw gael ei gwblhau, sef cyfnod sy'n dechrau -
(a) mewn perthynas â'r parsel organig cyntaf, erbyn y dyddiad derbyn fan bellaf; a
(b) mewn perthynas ag unrhyw barsel organig arall, erbyn pumed pen-blwydd y dyddiad derbyn fan bellaf;
ystyr "cymorth" ("aid") yw'r taliadau o dan y cynllun cymorth Cymunedol y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor 1257/1999 i'r graddau y mae'n ymwneud â ffermwyr sy'n ymrwymo i gyflwyno dulliau ffermio organig;
ystyr "cynllun" ("plan") yw atodlen ysgrifenedig sy'n pennu, mewn perthynas ag uned organig -
(a) y parseli hynny sydd wedi'u cofrestru gan yr awdurdod archwilio;
(b) y parseli hynny y bwriedir eu cofrestru yn y dyfodol;
(c) y dyddiadau y mae parseli organig o'r fath wedi'u cofrestru neu (yn ôl fel y digwydd) y bwriedir eu cofrestru; ac
(ch) pan fydd y cynllun yn ymwneud â thir y mae da byw yn cael eu cadw arno, y da byw sy'n cael eu trosi neu sydd eisioes yn dda byw organig;
ystyr "cynllun amaeth-amgylcheddol" ("agri-environment scheme") yw trefniant -
(a) sy'n cael ei reoli gan offeryn statudol sy'n darparu ar gyfer talu cymorth i bersonau sy'n ymrwymo neu'n gwneud cytundeb mewn perthynas â defnyddio neu reoli tir; a
(b) sydd wedi'i gymeradwyo gan Gomisiwn y Cymunedau Ewropeaidd o dan Erthygl 44 o Reoliad y Cyngor 1257/1999 fel rhan o gynllun datblygu gwledig a luniwyd yn unol ag Erthygl 41 o'r Rheoliad hwnnw;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "da byw" ("livestock") yw unrhyw anifail neu ffowlyn sy'n cael ei gadw ar gyfer cynhyrchu bwyd, gwlân neu grwyn neu ar gyfer bridio unrhyw anifail at unrhyw ddiben o'r fath;
ystyr "da byw organig" ("organic livestock") yw da byw sydd wedi'u nodi mewn cynllun a gymeradwywyd fel da byw sy'n cydymffurfio'n llawn â'r safonau UKROFS hynny sy'n gymwys i ffermio da byw yn organig;
ystyr "da byw sy'n cael eu trosi" ("livestock undergoing conversion") yw da byw sydd wedi'u nodi mewn cynllun a gymeradwywyd fel rhai sydd wrthi'n cael eu trosi i dda byw organig, ac sy'n cydymffurfio'n llawn â'r safonau UKROFS hynny sy'n gymwys mewn perthynas â ffermio da byw sy'n cael eu trosi;
ystyr "daliad" ("holding") yw'r holl unedau cynhyrchu sydd wedi'u lleoli yn nhiriogaeth yr un Aelod-wladwriaeth sy'n cael eu rheoli gan gynhyrchydd;
ystyr "dulliau ffermio organig" ("organic farming methods)" yw ffermio sy'n cyd-fynd ag Atodiad I i Reoliad y Cyngor 2092/91;
ystyr "dyddiad derbyn" ("date of acceptance") yw'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn derbyn ffurflen gais yn unol â rheoliad 3;
ystyr "dyddiad dod i law" ("date of receipt"), mewn perthynas â pharsel organig, yw'r dyddiad y cafodd y Cynulliad Cenedlaethol ffurflen gais yn unol â rheoliad 9 ar gyfer y parsel organig hwnnw;
ystyr "ffermio organig" ("organic farming") yw ffermio drwy ddulliau ffermio organig;
ystyr "hollol organig" ("fully organic") mewn perthynas â pharsel organig neu uned organig yw -
(a) bod yr awdurdod archwilio yn fodlon bod gwaith trosi'r parsel organig hwnnw neu'r uned organig honno wedi'i gwblhau; a
(b) bod manylion y parsel organig hwnnw neu'r uned organig honno, ar ôl i hysbysiad gael ei roi o dan Erthygl 8 o Reoliad y Cyngor 2092/91, wedi ymddangos ar y rhestr y cyfeirir ati yn yr Erthygl honno;
ystyr "landlord" ("landlord"), mewn perthynas â thenant daliad, yw unrhyw berson sy'n berchennog unigol neu'n gyd-berchennog ar y daliad hwnnw, neu y mae ganddo denantiaeth landlord uwch arno, ac ystyr "landlord uniongyrchol" ("immediate landlord") yw'r landlord y mae'r tenant yn deillio ei deitl yntau yn uniongyrchol o'i deitl (neu, yn ôl fel y digwydd, ei gyd-deitl ef neu hi);
ystyr "parsel organig" ("organic parcel") yw darn o dir sy'n ffurfio'r cyfan neu ran o uned organig ac sydd wedi'i nodi mewn cynllun a gymeradwywyd drwy gyfeirio at unrhyw system rhifo caeau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol ei cyfarwyddo y dylid ei defnyddio;
ystyr "parsel organig cyntaf" ("first organic parcel") yw'r parsel organig, o blith yr holl barseli organig sydd wedi'u cynnwys mewn cais, y mae'r cyfnod trosi ar ei gyfer yn dechrau'n gyntaf;
ystyr "parsel organig olaf" ("last organic parcel") yw'r parsel organig, o blith yr holl barseli organig sy'n destun cais, y mae'r cyfnod trosi ar ei gyfer yn dechrau'n olaf;
ystyr "perchennog" ("owner") yw'r person sy'n berchennog ar ffi syml y daliad, a dehonglir "yn berchennog ar" ("owns") yn unol â hynny;
ystyr "person awdurdodedig" ("authorised person") yw person (p'un ai yn swyddog y Cynulliad Cenedlaethol neu beidio) sy'n cael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, naill ai'n gyffredinol neu'n benodol, i weithredu mewn perthynas â materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;
ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("Commission Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999[6] sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999;
ystyr "Rheoliad y Cyngor 1257/1999" ("Council Regulation 1257/1999") yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig;
ystyr "Rheoliad y Cyngor 2092/91" ("Council Regulation 2092/91") yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/91 ar gynhyrchu cynnyrch amaethyddol yn organig a mynegiadau sy'n cyfeirio atynt ar gynnyrch a bwydydd amaethyddol;
ystyr "Rheoliadau 1994" ("the 1994 Regulations") yw Rheoliadau Ffermio Organig (Cymorth) 1994[7];
ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Ffermio Organig (Cymru) 1999[8];
ystyr "safonau UKROFS" ("UKROFS standards") yw'r safonau cynhyrchu ar gyfer ffermio organig yng Nghofrestr Safonau Bwyd Organig y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd yn Ionawr 1999 gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ac a elwir Safonau UKROFS ar gyfer Cynhyrchu Bwyd Organig;
ystyr "tenant" ("tenant") yw person y mae ei hawl i feddiannu daliad yn deillio o'r canlynol -
(a) cytundeb sy'n effeithiol yn rhinwedd adran 2 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986[9] fel cytundeb ar gyfer gosod tir ar denantiaeth o flwyddyn i flwyddyn;
(b) cytundeb tenantiaeth sy'n dod o fewn adran 1 o Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995[10]; neu
(c) contract ar gyfer tenantiaeth am gyfnod sefydlog o flynyddoedd;
ystyr "tir" ("land") yw tir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth;
ystyr "trosi" ("conversion"), mewn perthynas â pharsel organig, yw trosi'r parsel organig hwnnw i un sy'n hollol organig;
ystyr "tystysgrif gofrestru" ("certificate of registration") yw tystysgrif sy'n cael ei rhoi gan awdurdod archwilio mewn perthynas â pharsel organig, sy'n pennu'r cyfnod trosi sy'n gymwys i'r parsel organig hwnnw, neu'r dyddiad y mae'r cyfnod trosi hwnnw yn dechrau arno; ac at y dibenion hyn mae tystysgrif a roddir felly yn cael ei rhoi "ar gyfer" parsel organig os yw'n ymwneud â'r parsel organig hwnnw, p'un a yw'n ymwneud ag unrhyw barsel organig arall hefyd neu beidio; ac
ystyr "uned organig" ("organic unit") yw arwynebedd tir sy'n cynnwys y cyfan neu ran o ddaliad, ac sydd wedi'i sefydlu fel uned organig yn unol ag Atodiad III i Reoliad y Cyngor 2092/91 (sy'n ymwneud â'r system archwilio ar gyfer unedau organig).
(2) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn -
(a) at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen iddo sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn; a
(b) at baragraff â rhif neu lythyren yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw neu'r lythyren honno yn y rheoliad y mae'r cyfeiriad yn digwydd ynddo.
(3) Rhaid i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau ac sydd heb eu diffinio ym mharagraff (1) gael eu dehongli yn unol ag Atodlen 1.
Cymorth ar gyfer ffermio organig
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 6 a 7, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau cymorth yn unol â'r Rheoliadau hyn -
(a) ar gyfer parsel organig, i unrhyw berson sy'n fuddiolwr ar gyfer y parsel organig hwnnw; a
(b) ar gyfer uned organig, i unrhyw berson sy'n fuddiolwr ar gyfer parsel organig y mae'r uned organig honno yn ei gynnwys,
ar yr amod, mewn perthynas ag unrhyw daliad ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol, fod y buddiolwr wedi hawlio taliad ar gyfer y flwyddyn honno yn unol â rheoliad 9, a'i fod wedi darparu unrhyw wybodaeth a thystiolaeth bellach mewn perthynas â'r hawliad hwnnw y gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu.
(2) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael cais a wnaed yn unol â rheoliad 9, ac unrhyw wybodaeth a thystiolaeth y gall y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu, fod y ceisydd yn bodloni'r amodau cymhwyster a bennir yn rheoliad 5 mewn perthynas â phob un, rhai neu unrhyw un o'r parseli organig sy'n destun y cais hwnnw ("y parseli organig cymwys"), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i reoliadau 6, 7 ac 8, dderbyn y cais mewn perthynas â'r parsel neu'r parseli organig cymwys a hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig fod y cais wedi'i dderbyn a'i hysbysu yngln ag o ba ddyddiad y daw'r cymorth yn daladwy ar gyfer y parsel neu'r parseli organig cymwys.
(3) Gall cais gael ei dynnu'n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig gan y ceisydd a roddir unrhyw bryd cyn i'r cais gael ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Rhaid i hawliad am daliad cymorth gael ei gyflwyno ar unrhyw bryd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo'n rhesymol y dylid ei gyflwyno.
(5) Gall taliad cymorth sy'n cael ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol i fuddiolwr yn unol â'r Rheoliadau hyn gael ei wneud ar unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn y mae'r taliad o dan sylw i gael ei wneud ar ei chyfer.
Penderfynu swm y cymorth a'r cyfnodau y mae'r cymorth yn cael ei dalu ar eu cyfer
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, pan fydd hawl gan fuddiolwr i gael taliad cymorth, rhaid i'r cymorth gael ei dalu ar gyfer y cyfnodau canlynol -
(a) ar gyfer parsel organig, pum mlynedd -
(i) yn achos y parsel organig cyntaf, gan ddechrau gyda'r dyddiad derbyn; a
(ii) mewn unrhyw achos arall, gan ddechrau gyda phen-blwydd y dyddiad derbyn, sef y pen-blwydd cyntaf o'r fath i ddigwydd yn ystod y cyfnod trosi sy'n ymwneud â'r parsel organig o dan sylw; a
(b) ar gyfer uned organig, tair blynedd gan ddechrau gyda dyddiad derbyn y cais cyntaf sy'n ymwneud â thir y mae'r uned organig honno yn ei gynnwys.
(2) Mae swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) i'w benderfynu'n unol â Rhan I o Atodlen 1 ac mae swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) i'w benderfynu yn unol â
Amodau cymhwyster
5.
- (1) Mae'r amodau cymhwyster y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(2) fel a ganlyn -
(a) rhaid i'r cais gael ei wneud ar gyfer un hectar o dir o leiaf;
(b) ar ddyddiad ei gais, rhaid i'r ceisydd -
(i) fod yn berchennog neu'n denant ar y tir sy'n destun y cais ac yn meddiannu'r tir hwnnw'n gyfreithlon; a
(ii) beidio â bod wedi'i anghymhwyso rhag cymryd rhan mewn cynllun amaeth-amgylcheddol naill ai drwy gymhwyso cosb yn dilyn Erthygl 48(2) o Reoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau benderfynu ar system gosbau ar gyfer torri ymrwymiadau) neu drwy gymhwyso Erthygl 48(3) o Reoliad y Comisiwn (sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n gwneud datganiad ffug, yn fwriadol neu oherwydd esgeulustod dybryd, gael ei wahardd rhag pob cymorth o dan Reoliad y Cyngor 1257/1999) ;
(c) rhaid i'r defnydd o unrhyw dir yn unol â'r cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y cais mewn perthynas ag ef beidio â bod yn un a fyddai'n llesteirio dibenion unrhyw gymorth a roddwyd o'r blaen neu sydd i'w roi allan o arian sy'n cael ei ddarparu gan y Senedd neu'r Gymuned Ewropeaidd; ac
(ch) rhaid i'r ceisydd roi'r ymrwymiadau a grybwyllir ym mharagraff (2) i gefnogi'r cais.
(2) Mae'r ymrwymiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(ch) fel a ganlyn -
(a) cyn hawlio taliad cymorth ar gyfer unrhyw barsel organig, i ddarparu tystysgrif gofrestru i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y parsel organig hwnnw;
(b) drwy gydol y cyfnod penodedig -
(i) i gadw tystysgrif gofrestru ar gyfer pob parsel organig yr hawliwyd cymorth amdano;
(ii) i ffermio'r tir sy'n destun y cais, ac unrhyw ran o'r uned organig sy'n cynnwys y tir hwnnw sy'n cael ei ffermio drwy ddulliau ffermio organig ar unrhyw adeg benodol, yn unol â'r cynigion sydd wedi'u nodi yn y cais ac yn unol â safonau UKROFS a'r safonau a nodir yn Atodlen 2;
(iii) i sicrhau bod unrhyw dda byw organig neu dda byw sy'n cael eu trosi ac sy'n cael eu cadw ar yr uned organig yn cael eu cadw yn unol â safonau UKROFS; a
(iv) pan fydd y ceisydd ar ddyddiad y cais wedi cyflwyno ffermio organig ar ran o'r daliad heblaw'r rhan sy'n destun y cais, i sicrhau bod y rhan arall honno yn cydymffurfio â safonau UKROFS a pharhau i ffermio'n organig ar y rhan arall honno o'r daliad, yn unol â safonau UKROFS a'r safonau a nodir yn Atodlen 2; ac
(v) i ffermio unrhyw ran o'r daliad nad yw destun paragraff (ii) uchod yn unol a'r safonau a nodir yn Atodlen 2; ac
(c) i gwblhau gwaith trosi pob parsel organig erbyn pumed pen-blwydd y dyddiad y mae'r cyfnod trosi ar gyfer y parsel organig o dan sylw yn dechrau arno.
Cyfyngiadau ar dderbyn ceisiadau
6.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â derbyn cais oni fydd yr amodau canlynol yn cael eu bodloni -
(a) fod yr awdurdod archwilio wedi rhoi tystysgrif cofrestru mewn perthynas a'r parsel organig cyntaf neu wedi cadarnhau i'r Cynulliad Cenedlaethol y bydd tystysgrif yn cael ei roi; a
(b) fod y ceisydd yn gwneud datganiad fod yr awdurdod archwilio wedi cymeradwyo cynllun mewn perthynas a'r uned organig cyfan sydd yn cynnwys y parsel organig y mae'r cais yn ymwneud ag ef.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â derbyn cais gan geisydd sy'n meddiannu'r daliad sy'n destun y cais fel tenant oni bai bod y ceisydd wedi bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod y landlord uniongyrchol wedi'i hysbysu'n ysgrifenedig yngln â'r ffaith fod cais o'r fath wedi'i wneud.
Cyfyngiadau ar dalu cymorth
7.
- (1) Ni fydd cymorth yn daladwy ar gyfer cais ar gyfer unrhyw gyfnod cyn y dyddiad derbyn.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod neu leihau cymorth a fyddai'n dyblygu unrhyw gymorth a roddwyd o'r blaen neu sydd i'w roi allan o arian sy'n cael ei ddarparu gan y Senedd neu gan y Gymuned Ewropeaidd, ac i'r perwyl hwn cymerir bod cymorth yn gymorth a fyddai'n dyblygu cymorth o'r fath os byddai (os câi ei dalu) yn cael ei dalu at unrhyw un o'r un dibenion ar gyfer unrhyw ran o'r un tir.
(3) Rhaid peidio â gwneud unrhyw daliad cymorth ar gyfer parsel organig nes i'r Cynulliad Cenedlaethol gael tystysgrif gofrestru ar gyfer y parsel organig hwnnw neu gadarnhâd gan yr awdurdod archwilio y bydd tystysgrif yn cael ei roi.
(4) Ni fydd cymorth yn daladwy ar gyfer unrhyw barsel organig, nac unrhyw uned organig sy'n cynnwys tir y mae cais yn ymwneud ag ef, -
(a) sy'n hollol organig ar y dyddiad dod i law; neu
(b) sydd wedi bod yn hollol organig ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod a ddechreuodd ar 1 Ionawr 1997 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad derbyn.
(5) Ni fydd cymorth yn daladwy o dan Ran I o Atodlen 1 ar gyfer unrhyw barsel organig ar gyfer unrhyw gyfnod sy'n dechrau fwy na phum mlynedd ar ôl y dyddiad y daeth y taliad cymorth cyntaf yn daladwy arno ar gyfer y parsel organig hwnnw.
(6) Ni fydd cymorth yn daladwy am fwy na 300 hectar o gyfanswm arwynebedd tir cymwys CTATA, cnydau parhaol a thir caeedig ar unrhyw ddaliad sy'n destun cais.
Cyfyngiadau ariannol
8.
- (1) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol, gyda golwg ar gyfanswm y ceisiadau sydd eisoes wedi'u derbyn neu wedi dod i law, o'r farn ar unrhyw bryd fod yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer talu cymorth o dan y Rheoliadau hyn yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol yn annigonol i wneud unrhyw daliad pellach yn ystod y flwyddyn ariannol honno, caiff ohirio ystyried unrhyw gais a ddaeth i law ar ddyddiad ei benderfyniad ond sydd heb gael ei dderbyn eto, neu unrhyw gais a all ddod i law ar ôl dyddiad ei benderfyniad ond cyn dyddiad cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol â pharagraff (4), tan y flwyddyn ariannol nesaf.
(2) Rhaid peidio â gwneud unrhyw gais rhwng dyddiad cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol â pharagraff (4) fod gweithrediad y cynllun wedi'i ohirio yn unol â pharagraff (1), a'r penderfyniad i ail-agor y cynllun yn unol â pharagraff (3) isod.
(3) Os yw gweithrediad y cynllun wedi ei ohirio o dan baragraff (1) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bendefynu'r dyddiad yn y flwyddyn ariannol ddilynol y codir y gwaharddiad.
(4) Rhaid cyhoeddi hysbysiad o benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) neu (3) yn y London Gazette.
Ffurf a chynnwys ceisiadau
9.
Rhaid gwneud pob un o'r canlynol, sef -
(a) cais,
(b) hawliad am daliad, ac
(c) ymrwymiad sy'n cael ei roi gan feddiannydd newydd yn unol â rheoliad 12,
yn ysgrifenedig ac ar unrhyw ffurf a chydag unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfarwyddo'n rhesymol.
Y p er i amrywio ymrwymiadau
10.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'n ysgrifenedig, ar gais y buddiolwr, delerau unrhyw ymrwymiad sy'n cael ei roi gan y buddiolwr o dan reoliadau 5(1)(ch), 12(1)(b) neu 12(6)(ch), a gall unrhyw amrywiad o'r fath fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu'n rhesymol arnynt a gallant fod wedi'u datgan i fod yn gymwys am gyfnod penodedig yn unig.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag amrywio telerau ymrwymiad oni chaiff ei fodloni, o ystyried unrhyw amodau y bwriedir eu hychwanegu at yr amrywiad, na fydd yr amrywiad yn effeithio'n andwyol ar y dibenion y rhoddwyd yr ymrwymiad ar eu cyfer.
Diwygio'r cynllun a gymeradwywyd
11.
Ni fydd unrhyw ddiwygiad i gynllun sy'n cael ei gymeradwyo gan awdurdod archwilio yn cael effaith oni fydd y diwygiad hwnnw yn cael ei gymeradwyo gan yr awdurdod archwilio.
Newid meddiannaeth
12.
- (1) Pan fydd newid meddiannaeth ar y cyfan neu unrhyw ran o uned organig buddiolwr yn ystod y cyfnod penodedig oherwydd disgyniad yr uned neu'r rhan organig honno ar ôl marwolaeth y buddiolwr neu fel arall -
(a) rhaid i'r buddiolwr (neu, os yw wedi marw, y cynrychiolwyr personol) hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod ar ôl newid o'r fath yngln â'r newid meddiannaeth ar y ffurf ac o fewn y cyfnod y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu cyfarwyddo'n rhesymol; a
(b) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, caiff meddiannydd newydd yr uned neu'r rhan organig honno roi ymrwymiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol i gydymffurfio, a hynny'n weithredol o'r dyddiad y daeth y meddiannydd newydd hwnnw i feddiannaeth ar yr uned neu'r rhan organig honno (yn ôl fel y digwydd) ac am weddill y cyfnod penodedig, â'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr o dan gais y buddiolwr hwnnw mewn perthynas â'r tir sydd wedi'i gynnwys yn yr uned organig honno, i'r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â'r tir a drosglwyddwyd i'r meddiannydd newydd.
(2) Pan fydd y newid meddiannaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn dilyn marwolaeth y buddiolwr, ni fydd y pn â methiant y buddiolwr â chydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad oherwydd y farwolaeth honno.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan na fydd y newid meddiannaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn dilyn marwolaeth y buddiolwr, ni fydd y pwerau sy'n cael eu rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol gan reoliad 16(2) yngln ag unrhyw fethiant gan y buddiolwr i gydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad, ac sydd yn y naill achos neu'r llall yn arferadwy o ganlyniad i'r ffaith fod y buddiolwr yn peidio â meddiannu'r uned organig neu'r rhan o'r uned organig (yn ôl fel y digwydd), yn gymwys, ar yr amod -
(a) bod meddiannydd newydd, o fewn tri mis o'r dyddiad y peidiodd y buddiolwr â meddiannu'r tir o dan sylw, yn rhoi ymrwymiad o dan baragraff (1)(b) mewn perthynas â'r tir hwnnw; a
(b) pan fydd y meddiannydd newydd yn meddiannu rhan yn unig o uned organig y buddiolwr, fod y buddiolwr yn bodloni'r amodau cymhwyster yn rheoliad 5(1)(a), (b) ac (c), fel y byddent yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno o'r uned organig y mae'r buddiolwr yn parhau i'w meddiannu, petai cais wedi'i wneud ganddo mewn perthynas â'r rhan honno.
(4) Ni fydd amodau (a) a (b) i baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dir a drosglwyddwyd os yw'r cyfnod trosi, ar gyfer y cyfan o'r tir a drosglwyddwyd, wedi'i gwblhau a bod yr holl daliadau a oedd yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn wedi'u gwneud.
(5) Pan fydd newid meddiannaeth ar ran o'r uned organig, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu i ba raddau y mae'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr yn ymwneud â'r rhan honno, o ystyried -
(a) arwynebedd y tir sydd wedi'i gynnwys yn y rhan honno ac yng ngweddill yr uned organig, a
(b) y defnydd sy'n cael ei wneud ar y rhan honno;
a bydd ymrwymiad sy'n cael ei roi o dan baragraff (1)(b) ar gyfer rhan o'r uned organig yn gymwys mewn perthynas â'r rhan honno i'r graddau y penderfynwyd arnynt.
(6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â derbyn ymrwymiad o dan baragraff (1)(b) oni fydd yn cael ei fodloni -
(a) bod y tir y mae'r ymrwymiad yn ymwneud ag ef ("y tir perthnasol") yn ffurfio'r cyfan neu ran o uned organig sy'n cynnwys y cyfan neu ran o ddaliad y meddiannydd newydd neu ddaliad sydd wedi'i freinio yn y meddiannydd newydd hwnnw fel cynrychiolydd personol;
(b) bod y meddiannydd newydd yn meddiannu'r tir perthnasol yn gyfreithlon fel perchennog neu denant neu ei fod yn meddiannu'r tir hwnnw'n gyfreithlon fel cynrychiolydd personol y buddiolwr;
(c) y byddai'r amodau cymhwyster a bennir yn rheoliad 5(1)(a), (b)(ii) ac (ch) yn cael eu bodloni petai'r ymrwymiad yn gais ar gyfer y tir perthnasol y mae'r ymrwymiad yn ymwneud ag ef; ac
(ch) bod y meddiannydd newydd wedi rhoi'r ymrwymiad a grybwyllir ym mharagraff (7) mewn unrhyw achos lle mae'r meddiannydd newydd, cyn dechrau meddiannu'r uned organig o dan sylw, wedi cyflwyno ffermio organig ar unrhyw ran o'i ddaliad.
(7) Mae'r ymrwymiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(ch) yn ymrwymiad y bydd y meddiannydd newydd yn parhau i ffermio'r rhan o'r daliad y cyfeirir ati yn y paragraff hwnnw yn unol â dulliau ffermio organig ar gyfer gweddill y cyfnod penodedig sy'n gymwys mewn perthynas â'r tir yr oedd ymrwymiadau meddiannydd blaenorol yr uned organig o dan sylw yn ymwneud ag ef.
(8) Rhaid i feddiannydd newydd, sy'n rhoi ymrwymiad i gydymffurfio â'r rhwymedigaethau a dderbyniwyd gan y buddiolwr, ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn unrhyw gyfnod ar ôl y newid meddiannaeth y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gyfarwyddo'n rhesymol, unrhyw dystiolaeth ac unrhyw wybodaeth ychwanegol ar unrhyw ffurf y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo'n rhesymol y dylid eu darparu.
(9) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi derbyn ymrwymiad gan feddiannydd newydd i gydymffurfio â rhwymedigaethau buddiolwr -
(a) bernir bod effaith yr ymrwymiad hwnnw yn dechrau ar y dyddiad y dechreuodd y meddiannydd newydd feddiannu'r daliad, neu ran o'r daliad, yn ôl fel y digwydd; a
(b) o'r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd y meddiannydd blaenorol yn peidio â bod yn fuddiolwr, a bydd yn peidio â chael ei rwymo gan y rhwymedigaethau a dderbyniwyd yn rhinwedd yr ymrwymiad, i'r graddau y maent yn gymwys i'r daliad neu (yn ôl fel y digwydd) i'r rhan honno o'r daliad sy'n cael ei meddiannu gan y meddiannydd newydd.
(10) Ni fydd dim ym mharagraff (9)(b) yn effeithio ar atebolrwydd buddiolwr sydd wedi dod i'w ran cyn y dyddiad y bydd yr ymrwymiad a roddir gan y meddiannydd newydd yn effeithiol.
Cymhwyso Rheoliadau blaenorol
13.
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, mae Rheoliadau 1994 yn parhau mewn grym mewn perthynas â buddiolwyr sydd yn derbyn taliadau o dan y Rheoliadau hynny ar y dyddiad y daw'r Rheolidau hyn i rym.
(2) Diddymir Rheoliadau 1999 ac mae darpariaethau cyfatebol y Rheoliadau hyn yn cymeryd eu lle gyda'r eithriad y bydd y dewis i drosglwyddo o gynllun Rheoliadau 1994 yn dod i ben.
(3) Mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fuddiolwyr sydd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1999 ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn lle'r darpariaethau cyfatebol yn Rheoliadau 1999.
(4) Mae ymrwymiadau a roddwyd (neu y bernir eu bod wedi eu rhoi) o dan Reoliadau 1999 yn gymwys fel petaent wedi eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn, ond gydag effaith o'r dyddiad y rhoddwyd hwy yn wreiddiol.
Dyletswydd i gadw cofnodion
14.
Drwy gydol y cyfnod penodedig rhaid i geisydd gadw unrhyw ohebiaeth neu gofnodion eraill yngln ag unrhyw ddogfen a grybwyllir yn rheoliad 9, ac unrhyw gofnodion sy'n ymwneud â ffermio unrhyw dir yn unol â'i ymrwymiadau o dan y Rheoliadau hyn.
Dyletswydd i ganiatáu mynediad ac archwiliad
15.
- (1) Rhaid i geisydd ganiatáu i berson awdurdodedig, yng nghwmni unrhyw bersonau eraill sy'n gweithredu o dan unrhyw gyfarwyddiadau y mae'n ymddangos i'r person awdurdodedig hwnnw eu bod yn angenrheidiol i'r perwyl hwnnw, fynd ar unrhyw ran o ddaliad y ceisydd ar bob adeg resymol ac ar ôl dangos tystiolaeth yngln â'i awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, er mwyn -
(a) archwilio unrhyw dir sy'n rhan o uned organig neu unrhyw ddogfen neu gofnod ym meddiant neu o dan reolaeth y ceisydd sy'n ymwneud ag unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn rheoliad 9, neu y gall y person awdurdodedig amau'n rhesymol eu bod yn ymwneud â hi, gyda golwg ar gadarnhau cywirdeb unrhyw fanylion a roddir ynddi, neu mewn perthynas â hi; neu
(b) darganfod a yw'r ceisydd wedi cydymffurfio'n briodol ag unrhyw ymrwymiad a roddwyd neu (yn rhinwedd rheoliad 13) sydd i'w drin fel ymrwymiad a roddwyd gan y ceisydd o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i geisydd roi pob cymorth rhesymol i berson awdurdodedig mewn perthynas â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod ac yn benodol rhaid iddo -
(a) dangos unrhyw ddogfen neu gofnod y mae angen i'r person awdurdodedig ei archwilio; a
(b) cyd-fynd â'r person awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, wrth wneud archwiliad o unrhyw dir a nodi unrhyw ddarn o dir y mae unrhyw gais neu unrhyw ymrwymiad yn ymwneud ag ef.
(3) Bydd paragraffau (1) a (2) uchod yn gymwys mewn perthynas â buddiolwr fel y maent yn gymwys mewn perthynas â cheisydd.
(4) Ac eithrio i'r graddau y mae'n rhesymol ofynnol at ddibenion archwilio dogfen neu gofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(a), ni fydd paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ran o'r daliad sy'n cynnwys annedd breifat.
Gwrthod ac adennill cymorth, terfynu a gwahardd
16.
- (1) Pan fydd unrhyw berson, gyda golwg ar gael taliad cymorth i'w hun neu i unrhyw berson arall, yn gwneud unrhyw ddatganiad neu'n rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sy'n daladwy i'r person hwnnw neu i'r person arall mewn perthynas â'r cynllun hwn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth o'r fath sydd eisoes wedi'i dalu i'r person hwnnw neu i'r person arall hwnnw.
(2) Pan fydd buddiolwr -
(a) yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad a roddwyd, neu (yn rhinwedd rheoliad 13) sydd i'w drin fel ymrwymiad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn,
(b) yn methu â chaniatáu mynediad ac archwiliad gan berson awdurdodedig heb esgus rhesymol neu â rhoi pob cymorth rhesymol i'r person awdurdodedig hwnnw yn unol â rheoliad 15(2), neu
(c) yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad arall yn y Rheoliadau hyn,
caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sy'n daladwy i'r buddiolwr hwnnw o dan y cynllun hwn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu a chaiff ei gwneud yn ofynnol hefyd i swm heb fod yn uwch na 10% o'r cymorth a dalwyd neu sy'n daladwy i'r buddiolwr gael ei dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1) neu (2), caiff drin unrhyw hawl sydd gan y buddiolwr i gael taliad cymorth o dan y Rheoliadau hyn fel hawl sydd wedi'i therfynu.
(4) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ymdrin â hawl buddiolwr i gael cymorth fel hawl sydd wedi'i therfynu o dan baragraff (3), gall, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r buddiolwr, anghymwyso'r buddiolwr hwnnw rhag cymryd rhan mewn unrhyw gynllun amaeth-amgylcheddol am unrhyw gyfnod (heb fod yn fwy na dwy flynedd) o ddyddiad y terfyniad hwnnw a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Cyn cymryd unrhyw gam a bennir ym mharagraff (1), (2), (3) neu (4), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol -
(a) rhoi esboniad ysgrifenedig i'r buddiolwr o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd a rhoi cyfle i'r buddiolwr ateb yr esboniad yn ysgrifenedig;
(b) rhoi cyfle i'r buddiolwr ymddangos gerbron person neu bersonau a benodir at y diben hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael gwrandawiad ganddo; ac
(c) ystyried yr adroddiad gan y person neu bersonau a benodwyd felly a darparu copi o'r adroddiad i'r buddiolwr.
Adennill llog
17.
- (1) Pan fydd taliad cymorth yn cael ei wneud i fuddiolwr gan y Cynulliad Cenedlaethol a'i bod yn ofynnol ad-dalu'r cyfan neu ran o'r taliad gyda llog, yn rhinwedd Erthygl 48(1) o Reoliad y Comisiwn (sy'n darparu ar gyfer adennill taliadau anghywir gyda llog) bydd y cyfradd llog un pwynt canran uwchlaw y LIBOR fesul dydd.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr LIBOR yw cyfradd sterling tri-mis cyd-fanciau Llundain a gynigir sydd mewn grym yn ystod y cyfnod a bennir yn Erthygl 48(1) o Reoliad y Comisiwn.
(3) Mewn unrhyw achos sy'n ymwneud ag adennill llog yn unol â'r rheoliad hwn, bydd tystysgrif gan y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan y LIBOR sy'n gymwysadwy yn ystod cyfnod a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r gyfradd sy'n gymwysadwy yn y cyfnod penodedig os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r gyfradd honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Adennill taliadau
18.
Mewn unrhyw achos lle mae swm i'w dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Comisiwn (neu yn rhinwedd camau a gymerir odanynt) i'r graddau y mae'n ymwneud â daliad buddiolwr, bydd y swm yn adennilladwy fel dyled.
Datganiadau ffug
19.
Os bydd unrhyw berson, er mwyn sicrhau unrhyw gymorth iddo'i hun neu i unrhyw berson arall, yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n ffug mewn manylyn perthnasol, bydd y person sydd wedi gwneud y datganiad yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
20.
Pan fydd corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan reoliad 19 a phan brofir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu oddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu os gellir priodoli'r tramgwydd i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol -
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall y corff corfforaethol, neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath,
bydd ef neu hi, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i achos yn eu herbyn ac i gael eu cosbi yn unol â hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Chwefror 2001
ATODLEN 1rheoliadau 4(2) a 13
CYFRIFO CYMORTH
RHAN
I
Y TALIAD AR GYFER PARSEL ORGANIG
1.
Tir cymwys CTATA a chnydau parhaol:
|
|
(i) yn y flwyddyn gyntaf
|
£225 yr hectar |
(ii) yn yr ail flwyddyn
|
£135 yr hectar |
(iii) yn y drydedd flwyddyn
|
£50 yr hectar |
(iv) yn y bedwaredd flwyddyn
|
£20 yr hectar |
(v) yn y bumed flwyddyn
|
£20 yr hectar |
2.
Tir wedi'i amgáu:
|
|
(i) yn y flwyddyn gyntaf
|
£175 yr hectar |
(ii) yn yr ail flwyddyn
|
£105 yr hectar |
(iii) yn y drydedd flwyddyn
|
£40 yr hectar |
(iv) yn y bedwaredd flwyddyn
|
£15 yr hectar |
(v) yn y bumed flwyddyn
|
£15 yr hectar |
3.
Tir heb ei amgáu a choetir sy'n cael ei bori:
|
|
(i) yn y flwyddyn gyntaf
|
£25 yr hectar |
(ii) yn yr ail flwyddyn
|
£10 yr hectar |
(iii) yn y drydedd flwyddyn
|
£5 yr hectar |
(iv) yn y bedwaredd flwyddyn
|
£5 yr hectar |
(v) yn y bumed flwyddyn
|
£5 yr hectar |
Yn Rhan I o'r Atodlen hon -
ystyr "tir cymwys CTATA" yw tir sy'n "dir cymwys" o fewn ystyr "eligible land" yn Rheoliadau Taliadau Arwynebedd Tir Âr 1996[12];
ystyr "llain arfordirol" yw'r llain o dir rhwng y marc penllanw a ffin y cae agosaf at y môr;
ystyr "coetir sy'n cael ei bori" yw coetir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer pori gan dda byw;
ystyr "rhostir" yw tir sy'n cael ei ddangos gan y mannau lliw brown ar y mapiau a gynhwysir yn y gyfrol o fapiau sydd wedi'i marcio "Moorland Map of Wales 1992", ac sydd wedi'i hadneuo yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd;
ystyr "tir wedi'i amgáu" yw unrhyw dir heblaw tir cymwys CTATA a chnydau parhaol sydd wedi'i amgáu'n llawn â ffiniau caeau traddodiadol neu ffensys ac, os yw'n cynnwys rhostir, nad yw'n cynnwys mwy na 5 hectar o rostir;
ystyr "cnydau parhaol" yw unrhyw gnydau sydd yn y pridd am gyfnod o bum mlynedd neu ragor ac sy'n cynhyrchu cnydau dros nifer o flynyddoedd;
ystyr "ffens lechi" yw ffens sy'n cynnwys darnau o lechi sydd wedi'u hoelio'n fertigol i mewn i'r ddaear mewn rhes ac wedi'u cysylltu â'i gilydd drwy ddefnyddio wifren;
ystyr "ffiniau caeau traddodiadol" yw strwythurau megis perthi, waliau cerrig, cloddiau pridd a ffensys llechi a ddefnyddir fel arfer i wahanu caeau ar fferm;
ystyr "tir heb ei amgáu" yw tir sy'n rhostir neu'n llain arfordirol, heblaw tir wedi'i amgáu.
RHAN
II
Y TALIAD AR GYFER YR UNED ORGANIG GYFAN
Yn y flwyddyn gyntaf |
£300 am bob uned organig |
Yn yr ail flwyddyn |
£200 am bob uned organig |
Yn y drydedd flwyddyn |
£100 am bob uned organig |
ATODLEN 2rheoliad 5(2)(b)(ii) (iv) a (v)
Y SAFONAU I'W PARCHU
1.
Rhaid i'r buddiolwr beidio ag aredig, ailhadu na gwella, drwy ddefnyddio traeniau, teiliau neu asiantau calchu, unrhyw weundir, tir glas o werth cadwraeth, gan gynnwys tir glas toreithiog ei rywogaethau, neu dir pori garw. Rhaid i'r buddiolwr beidio â phori unrhyw gynefinoedd lled-naturiol a thrwy hynny achosi gorbori neu danbori a fyddai'n effeithio ar werth cadwraeth y cynefinoedd hynny.
2.
Rhaid i'r buddiolwr osgoi stocio'n drwm yn lleol yn y tymor nythu ar fannau llystyfiant lled-naturiol, gan gynnwys gweundir, tir glas toreithiog ei rywogaethau a thir pori garw.
3.
Rhaid i'r buddiolwr beidio â chyflawni gweithgareddau mewn caeau, megis llyfnu neu rolio, ar dir glas toreithiog ei rywogaethau neu dir pori garw yn ystod y tymor nythu.
4.
Rhaid i'r buddiolwr beidio â thrin y tir na rhoi gwrteithiau arno o fewn un metr o unrhyw nodweddion ffin, megis ffensys, perthi neu waliau.
5.
Rhaid i'r buddiolwr
(a) cadw nodweddion ffiniau traddodiadol fferm, er enghraifft, perthi a waliau ;
(b) tocio perthi mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn;
(c) cynnal unrhyw ffiniau gwrth-stoc, gan ddefnyddio dulliau a deunyddiau traddodiadol.
6.
Rhaid gwneud gwaith cynnal ffosydd mewn cylchdro, ond nid rhwng 1 Mawrth a 31 Awst mewn unrhyw flwyddyn.
7.
Rhaid i'r buddiolwr gynnal nentydd, pyllau a gwlyptiroedd.
8.
Rhaid i'r buddiolwr gadw unrhyw brysgwydd, coetiroedd fferm neu grwpiau o goed.
9.
Rhaid i'r buddiolwr sicrhau, wrth ffermio'r tir, nad yw'n niweidio, dinistrio nac yn dileu unrhyw nodwedd o ddiddordeb hanesyddol neu archeolegol, gan gynnwys mannau cefn a rhych.
10.
Rhaid i'r buddiolwr gydymffurfio â thelerau'r Dulliau Gweithredu ar Arferion Amaethyddol Da ar gyfer Diogelu Pridd, Aer, Dwr a, lle bo'n gymwys, ar gyfer Plaleiddiaid, a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn darparu bod cymorth yn cael ei dalu i ffermwyr sy'n ymrwymo i gyflwyno dulliau ffermio organig ac i gydymffurfio ag amodau penodol yngln â rheoli'r amgylchedd, yn unol ag Erthygl 22 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 (OJ Rhif L160, 26.06.1999, t.80) ("y Rheoliad Datblygu Gwledig").
Bu Rheoliadau Ffermio Organig (Cymorth) 1994 a wnaed o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd cynharach yn darparu gynt ar gyfer cymorth ar gyfer ffermio organig. Caewyd y cynllun o dan Reoliadau 1994 i geiswyr newydd gan Reoliadau Ffermio Organig) Cymru 1999. Darparwyd ynddynt hefyd y gallai'r rhai a oedd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1994 barhau i wneud hynny neu ddewis i dderbyn taliadau o dan Reoliadau 1999.
Ni fydd y dewis hwnnw bellach ar gael ac fe fydd y rhai sydd yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1994 yn parhau i wneud hynny hyd nes y bydd y taliadau yn dod i ben yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hynny.
Fe fydd y Rheoliadau presennol yn cymeryd lle Rheoliadau 1999, ac fe fyddant yn gymwys i'r rhai a fu'n derbyn taliadau o dan Reoliadau 1999.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu darpariaethau penodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1750/1999 (OJ Rhif L214, 13.08.1999, t.31) ("Rheoliad y Comisiwn"), sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer cymhwyso'r Rheoliad Datblygu Gwledig.
Mae'r Rheoliadau -
(a) yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud taliadau cymorth, yn ddarostyngedig i amodau penodedig, ac i bennu cyfradd y cymorth (rheoliadau 3 a 4, ac Atodlen 1);
(b) yn pennu yr amodau cymhwyster sydd i'w bodloni gan geiswyr am gymorth (rheoliad 5 ac Atodlen 2), y rhagamodau gweithdrefnol a ffurfiol penodol ar gyfer derbyn ceisiadau am gymorth (rheoliadau 6 a 9), y cyfyngiadau penodol ar dalu cymorth (rheoliad 7); ac
(c) yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio ag ystyried ceisiadau am gymorth os bydd yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer cymorth o dan y Rheoliadau yn annigonol (rheoliad 8);
(ch) yn darparu ar gyfer amrywio'r ymrwymiadau sy'n cael eu rhoi gan geiswyr am gymorth ac ar gyfer diwygiadau i gynlluniau trosi (rheoliadau 10 ac 11);
(d) yn darparu ar gyfer talu cymorth i feddiannydd newydd pan fydd newid wedi bod ym meddiannaeth uned organig neu ran o uned organig oherwydd marwolaeth buddiolwr neu fel arall (rheoliad 12);
(dd) yn dod i ben a gallu buddiolwyr o dan Reoliadau 1994 i wneud cais i gael eu trin fel rhai y mae hawl ganddynt i gael cymorth o dan y Rheoliadau 1999; ac yn cymhwyso'r Rheoliadau presennol i'r rhai sydd eisioes yn derbyn taliadau o dan Reoliadau 1999 (rheoliad 13);
(e) yn gorfodi dyletswyddau yngln â chadw cofnodion ac yn rhoi pwerau mynediad ac archwilio (rheoliadau 14 a 15);
(f) yn darparu ar gyfer gwrthod neu adennill cymorth ac adennill llog (rheoliadau 16, 17 a 18);
(ff) darparu ar gyfer tramgwydd gwneud datganiad yn ffug, a darparu mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd o'r fath sy'n cael ei gyflawni gan gorfforaeth (rheoliadau 19 ac 20).
Mae'r safonau UKROFS (y Cyfeirir atynt yn rheoliadau 2(1) a 5(2)) yn cael eu cyhoeddi gan Swyddfa Ysgrifennydd UKROFS, Ystafell G47, Nobel House, 17 Smith Square, Llundain SW1P 3JR ac mae copïau ar gael oddi wrthynt.
Ceir archwilio copïau o Fap Rhostiroedd Cymru 1992 yn ystod oriau swyddfa yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd;
Adeiladau'r Llywodraeth, Penrallt, Caernarfon;
Adeiladau'r Llywodraeth, Teras Picton, Caerfyrddin; ac
Adeiladau'r Llywodraeth, Spa Road East, Llandrindod.
Mae copïau o'r Dulliau Gweithredu ar Arferion Amaethyddol Da er diogelu Pridd, Aer, D r ac ar gyfer Plaleiddiaid (y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 o Atodlen 2) ar gael yn rhad ac am ddim oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S.1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae pwer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir y tu allan i Gymru, wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
OJ Rhif L160, 26.06.1999, t.80.back
[4]
O.S. 1992/2111; a ddiwygwyd gan O.S. 1994/2286.back
[5]
OJ Rhif L198, 22.7.1991, t.1.back
[6]
OJ Rhif L214, 13.8.1999, t.31.back
[7]
O.S. 1994/1721; a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3109 ac O.S. 1998/1606.back
[8]
O.S. 1999/2611; a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/3337 (Cy. 45).back
[9]
1986 p.5.back
[10]
1995 p.8.back
[11]
1998 p.38.back
[12]
O.S. 1996/3142, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/2969back
English version
ISBN
0-11-090225-4
|
Prepared
12 June 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010424w.html