BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Personau Digartref (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010607w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 27 Chwefror2001 | ||
Yn dod i rym | Dydd Gwyl Dewi 1af Mawrth 2001 |
(2) Ym mharagraff (1)(b) uchod, ystyr "yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu" yw:
(i) gan unrhyw awdurdod iechyd, awdurdod iechyd arbennig neu awdurdod addysg lleol, neu
(ii) mewn unrhyw gartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu gartref nyrsio meddwl neu mewn unrhyw lety a ddarperir gan un o Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol; neu
(d) yn cael ei faethu'n breifat.
Person 16 neu 17 oed
4.
Person sy'n 16 neu'n 17 oed.
Person sy'n ffoi rhag trais yn y cartref neu rhag bygythiad trais yn y cartref
5.
Person heb blant dibynnol sydd wedi bod yn destun trais yn y cartref neu sydd mewn perygl trais o'r fath, neu a fydd mewn perygl trais yn y cartref os bydd ef neu hi'n dychwelyd yno.
Person sydd heb lety ar ôl ymadael â'r lluoedd arfog
6.
- (1) Person sydd yn y gorffennol wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r lluoedd hynny.
(2) Ym mharagraff (1) uchod, mae i'r ymadrodd "lluoedd arfog rheolaidd y Goron" yr ystyr a roddir i "regular armed forces of the Crown" yn adran 199(4) o Ddeddf Tai 1996.
Cyn-garcharor sydd heb lety ar ôl cael ei ryddhau o'r ddalfa
7.
- (1) Cyn-garcharor sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â'r ddalfa ac sydd â chysylltiad lleol gydag ardal yr awdurdod tai lleol.
(2) Ystyr "carcharor" yw unrhyw berson sydd am y tro yn cael ei gadw yn y ddalfa yn gyfreithlon o ganlyniad i ofyniad a osodwyd gan lys iddo ef gael ei gadw neu iddi hi gael ei chadw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2001
[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back