BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010891w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 891 (Cy.42)

ADDYSG , CYMRU

Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 8 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwariant y mae grantiau yn daladwy ar ei gyfer
     3. Ni fydd grantiau ond yn daladwy ar gyfer gwariant a ragnodwyd ac a dynnwyd neu a dynnir yn ystod blwyddyn ariannol ac ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant hwnnw am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Grantiau ar gyfer taliadau i drydydd partïon
    
4. Os  - 

rhaid i'r taliadau hynny, i'r graddau hynny, gael eu trin yn wariant a ragnodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cyfradd y Grantiau
    
5. Rhaid talu grantiau ar gyfer gwariant a gymeradwywyd ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny a'r rheiny o'r math y cyfeirir atynt yn y paragraffau o'r Atodlen a restrir yn y golofn ar y chwith i'r tabl isod yn ôl cyfradd ganrannol y gwariant a bennir mewn perthynas ag ef yn y golofn ar y dde i'r tabl.


TABL
Paragraff yr Atodlen Cyfradd ganrannol y grant
12 100
9(c) 100
3(b) 100
5(c) 70
Pob paragraff arall 60

Amodau talau grantiau
    
6.  - (1) Ni thelir grant onid yw'n ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog o'r awdurdod sy'n gyfrifol am weinyddu eu cyllid neu ei ddirprwy.

    (2) Rhaid i geisiadau am dalu grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (3) a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y gwneir cais am grant ar ei gyfer ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd y bydd yn cael ei dynnu gan yr awdurdod addysg yn ystod pob un o'r cyfnodau hynny.

    (3) Y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw - 

    (4) Os cyflwynir cais sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd iddo gael ei dynnu yn ystod y cyfnod sy'n ymestyn o 1 Ionawr hyd at 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn o dan baragraff (1), ceir gwneud yn ddi-oed unrhyw daliad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno nad yw'n fwy na thri chwarter o'r grant y gwnaed cais amdano mewn perthynas â'r gwariant hwnnw, ac eithrio pan fydd yn penderfynu fel arall, ond ni thelir grant pellach ar gyfer y gwariant hwnnw hyd nes cyflwyno datganiad yn unol â pharagraff (5)(a).

    (5) Rhaid i bob awdurdod addysg a dderbyniodd grant neu sy'n ceisio cael taliad grant ar gyfer gwariant a dynnwyd yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol, cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw - 

    (6) Ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 31 Rhagfyr mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ond nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b) am y flwyddyn honno.

    (7) Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n dal heb ei dalu ar ôl derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b), heb ragfarnu camau i adennill unrhyw ordaliad o unrhyw daliad dilynol o grant i'r awdurdod addysg, gael ei addasu â thaliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol.

     7. Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, ar adeg cymeradwyo gwariant at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn mynnu gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddiben a restrir yn yr Atodlen, bydd talu'r grant at y diben hwnnw yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg i gael taliad y grant.

    
8.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol o bryd i'w gilydd benderfynu ar amodau pellach y bydd talu yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.

    (2) Os penderfynwyd ar amodau yn unol â'r rheoliad hwn ni cheir talu grant oni fydd yr amodau hynny wedi'u cyflawni neu wedi'u tynnu'n ôl yn unol â pharagraff (3).

    (3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio'r amodau y penderfynwyd arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.

Gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy
    
9. Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei fynnu, roi iddo unrhyw wybodaeth bellach y bydd yn ei mynnu i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu'n briodol o dan y Rheoliadau hyn.

    
10. Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion (gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag ad-dalu'r grant neu dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw symiau sy'n perthyn i werth asedau a gaffaelwyd, a ddarparwyd neu a wellhawyd drwy gymorth grant neu log ar symiau sy'n ddyledus iddo) y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.

    
11.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod yn rhaid i unrhyw awdurdod addysg ddirprwyo penderfyniadau ynghylch gwario - 

i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, ar ôl ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio gofynion y penderfynir arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.

Darpariaethau diddymu ac eithriadu
    
12. Drwy hyn mae Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2000[14] yn cael eu diddymu, ond bydd y rheoliadau hynny'n parhau'n gymwys i daliadau grant a awdurdodwyd gan y Rheoliadau hynny mewn perthynas â gwariant a dynnwyd ar y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, neu cyn hynny, ac i unrhyw amod neu ofyniad a bennwyd gan y Rheoliadau sydd wedi'u diddymu, nac yn unol â hwy.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethool o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[15]


D. Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mawrth 2001



ATODLEN Rheoliadau 2 a 3

DIBENION Y MAE GRANTIAU'N DALADWY ATYNT NEU'N GYSYLLTIEDIG Â HWY


     1. Darparu  - 

     2.     

     3.     

     4.     

     5.     

     6.     

     7. Hyfforddiant athrawon ac athrawesau i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg y pynciau y mae'n ofynnol eu haddysgu o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol.

     8.     

     9.     

     10.     

     11. Darparu hyfforddiant a chyngor i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sy'n ymwneud â chamau y gellid eu cymryd i wella diogelwch tir ac adeiladau ysgolion a diogelwch personol disgyblion a phersonau sy'n gweithio mewn ysgolion.

     12. Gwella safleoedd ysgolion, gan gynnwys  - 

     13. Hyfforddiant, ar gyfer athrawon ac athrawesau pynciau y mae cymorth cyntaf ac iechyd a diogelwch yn arbennig o berthnasol iddynt, ac a anelir at eu cymhwyso (neu at eu cymhwyso'n well) i roi cymorth cyntaf ac at roi gwybodaeth iddynt am faterion iechyd a diogelwch.

     14. Darparu staff ychwanegol i gynorthwyo ysgolion yn ystod y cyfnodau pan fydd athrawon ac athrawesau yn mynychu cyrsiau hyfforddu.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sydd yn darparu ar gyfer talu grantiau yngln â gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion addysgol, neu mewn cysylltiad â hwy, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylid annog gwariant o'r fath er lles addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r fath grantiau. Maent yn ailddeddfu, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2000. Amlinellir darpariaethau'r Rheoliadau, a'r newidiadau i'r Rheoliadau cynt, isod.


Notes:

[1] 1996 p.56; diwygiwyd adrannau 484 a 489 gan adran adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 125 a 126 o Atodlen 30 iddi. I gael ystyr "regulations" gweler adran 579(1).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1996 p.57.back

[4] O.S. 1999/2817 (Cy.18).back

[5] Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau mewn grym oedd, ar gyfer Cymru, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau lechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)), ac ar gyfer Lloegr, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).back

[6] Diwygiwyd adran 218 (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan baragraff 49 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13); gan adran 14(1) a (3) o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 8(4) o Atodlen 2 iddi; gan baragraff 76 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996; gan adran 49(1)-(4) o Ddeddf Addysg 1997; a chan baragraff 17 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; a chan adrannau 10, 11, ac 13 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).back

[7] O.S. 1994/1047.back

[8] 1997 p.44. Diwygiwyd adran 15 gan baragraff 209 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[9] 1998 p.31.back

[10] Diwygiwyd adran 313 gan baragraff 72 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[11] Diwygiwyd adran 337(1) gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1988.back

[12] 1988 p.18.back

[13] Diwygiwyd adran 484 gan adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 125 o Atodlen 30 iddi.back

[14] O.S. 2000/834 (Cy.32).back

[15] 1998 p.38.back

[16] Diwygiwyd Pennod II gan baragraffau 26-28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 a chan baragraffau 87-91 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back

[17] O.S. 1997/2009 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1977.back

[18] O.S. 1997/2010 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1976.back

[19] O.S. 1997/2011.back

[20] Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1) (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.back

[21] ISBN 1 86112 223 3.back

[22] ISBN 1 86112 2225.back

[23] 1989 p.41; diwygiwyd adran 22(1) yn rhagolygol gan adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).back

[24] Diwygiwyd adran 218(3) gan adran 14(3) o Ddeddf Addysg 1994 a chan adran 10 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.back



English version



ISBN 0-11-090180-0


  Prepared 19 April 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010891w.html