BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011110w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 15 Mawrth 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Medi 2001 |
Y materion i ymdrin â hwy mewn adroddiad llywodraethwyr
3.
Rhaid i bob adroddiad llywodraethwyr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen.
Gofynion ynghylch adroddiad llywodraethwyr
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mater i'r corff llywodraethu benderfynu arno yw'r iaith neu'r ieithoedd y cynhyrchir yr adroddiad llywodraethwyr ynddi neu ynddynt, a ffurf neu ffurfiau ei gynhyrchu.
(2) Rhaid i'r corff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roir gan yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol o ran unrhyw iaith ychwanegol sydd i'w defnyddio neu o ran unrhyw ffurf ychwanegol y mae'r adroddiad i gael ei gynhyrchu ynddi.
5.
Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau -
6.
- (1) Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (a) o reoliad 5, i'r graddau y mae'n ymwneud â rhieni disgyblion cofrestredig, na'r gofyniad sydd ym mharagraff (c) o'r rheoliad hwnnw yn gymwys -
7.
Pan nad yw paragraffau (a) ac (c) o reoliad 5 yn gymwys (yn rhinwedd rheoliad 6), rhaid i'r corff llywodraethu roi copi o'u hadroddiad llawn i unrhyw riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol pan ofynnir iddo (yn ysgrifenedig).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2001
2.
Y manylion canlynol am aelodau'r corff llywodraethu a'u clerc -
3.
Pa wybodaeth bynnag sydd ar gael i'r corff llywodraethu am y trefniadau ar gyfer etholiad nesaf y llywodraethwyr-rieni.
4.
Datganiad ariannol -
5.
Yr wybodaeth sy'n ymwneud ag asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol a gyhoeddwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 408 o Ddeddf 1996[6].
6.
Yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r canlynol -
a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996[7].
7.
- (1) Yr wybodaeth a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau [8] a wnaed o dan is-adran (7) o adran 537[9] o Ddeddf 1996, gan gynnwys gwybodaeth a gyhoeddwyd gan (neu o dan drefniadau a wnaed gan) y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-adran (6) o'r adran honno.
(2) Os yw'r wybodaeth a gyhoeddir gan (neu o dan drefniadau a wnaed gan) y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 537(6) o Ddeddf 1996 yn cael ei chyhoeddi yn ei ffurf lawn ac ar ffurf gryno, rhaid cynnwys yr wybodaeth lawn yn adroddiad y llywodraethwyr.
8.
Yr wybodaeth sy'n ymwneud â disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu'r gyflogaeth neu'r hyfforddiant y mae disgyblion yn dechrau arnynt wrth ymadael â'r ysgol, a ddarparwyd ddiweddaraf gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliadau[10] a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996.
9.
Y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau'r ysgol â'r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â'r heddlu).
10.
Pa wybodaeth bynnag ynghylch unrhyw dargedau -
11.
Mynegiad o'r canlynol mewn perthynas â'r cyfnod ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr -
12.
Crynodeb o unrhyw adolygiad a gynhaliwyd gan y corff llywodraethu o ran unrhyw bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd ganddynt wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol ac unrhyw gamau a gymerwyd ganddynt yn dilyn adolygiad o'r fath.
13.
Dyddiadau dechrau a diwedd pob tymor ysgol, a dyddiadau'r gwyliau hanner tymor, am y flwyddyn ysgol nesaf.
14.
- (1) Crynodeb o unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sy'n cael ei chynnwys (yn unol â rheoliadau[13] a wnaed o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998) yn llawlyfr yr ysgol ers i adroddiad blaenorol y llywodraethwyr gael ei baratoi.
(2) Pan fydd y Rheoliadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi gwybodaeth wahanol mewn llawlyfrau gwahanol, rhaid cymryd bod is-baragraff (1) yn cyfeirio at bob llawlyfr o'r fath.
Dyma'r prif newidiadau i'r Rheoliadau blaenorol -
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[6] Diwygiwyd is-adran (1) (a) o adran 408 gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44); diwygir is-adran (4)(f) yn rhagolygol gan baragraff 30(b) o'r Atodlen honno; diwygiwyd is-adran (2) (d) gan baragraff 106(b) o Atodlen 30 i Ddeddf 1998; diddymwyd is-adrannau (1)(b), (3) a (4)(b) ac (c) gan baragraff 106(a), (c) a (d)(i) o'r Atodlen honno ac Atodlen 31 i'r Ddeddf honno; a diwygiwyd is-adran (4)(d) gan baragraff 106(d)(ii) o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1812); gweler paragraffau 18 - 20 o Atodlen 2.back
[7] Amnewidir adran 537(1) newydd gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y Rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Perfformiad Ysgolion) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1867 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/1470). Gweler rheoliad 9 ac Atodlenni 1, 2 a 4 i'r Rheoliadau hynny.back
[8] Gweler rheoliad 10 o O.S. 1998/1867.back
[9] Diwygiwyd is-adran (7) o adran 537 gan baragraff 152 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.back
[10] Gweler O.S. 1999/1812, Atodlen 2, paragraffau 23 a 24.back
[11] 1997 p.44. Diwygiwyd adran 19 gan baragraff 213 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Y rheoliadau cyfredol yw Rheoliadau Addysg (Targedau Perfformiad Ysgolion a Thargedau Absenoldeb Diawdurdod) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1811).back
[12] Gweler O.S. 1999/1811.back
[13] Y rheoliadau cyfredol sy'n nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn llawlyfrau ysgolion yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1812).back