BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011231w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1231 (Cy. 65 )

AER GLÂN, CYMRU

Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 22 Mawrth 2001 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i fodloni bod y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio gan y Gorchymyn hwn yn medru cael eu defnyddio i losgi tanwyddau heb fod yn danwyddau awdurdodedig heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 21 o Ddeddf Aer Glân 1993 [1]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu hesemptio o adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993
    
2. Mae'r dosbarthiadau o leoedd tân a ddisgrifir yn yr Atodlen, ar yr amodau sy'n cael eu pennu yno, yn cael eu hesemtio o ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (sydd yn gwahardd gollyngiadau mwg mewn ardaloedd rheoli mwg).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
2].


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Mawrth 2001



ATODLEN
Erthygl 2

Dosbarth y Lle Tân
Y "Beech Wood Fired Pizza Oven" sy'n cael ei chynhyrchu gan Beech Wood Fired Ovens, Brisbane, Awstralia.

Amodau
     1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwydd-iadau'r gwneuthurwyr dyddiedig 3 Mawrth 2000 ac y mae arnynt y cyfeirnod "BBP236UK"

     2. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw pren caled sych sydd heb ei drin.

Dosbarth y Lle Tân
Y "Morsø 3400 Owl" Cyfres GB ar gyfer llosgi pren sy'n cael ei chynhyrchu gan Morsø Jernstøberi A/S, Denmarc.

Amodau
     1. Rhaid i'r lle tân gael ei osod, ei gynnal a'i weithredu yn unol â chyfarwydd-iadau'r gwneuthurwyr dyddiedig 1 Ionawr 2000 ac y mae arnynt y cyfeirnod "72345600"

     2. Rhaid peidio â defnyddio unrhyw danwydd heblaw - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn gwahardd yn gyffredinol ollwng mwg mewn ardaloedd rheoli mwg. Gall Cynulliad Cenedaethol Cymru trwy orchymyn wedi'i wneud o dan adran 21 o'r Ddeddf esemptio dosbarthiadau penodedig o leoedd tân o ddarpariaethau adran 20, os yw wedi'i fodloni y gellir eu defnyddio i losgi tanwyddau heb gynhyrchu unrhyw fwg neu faint sylweddol o fwg.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn eithrio o ddarpariaethau adran 20 y dosbarthiadau o leoedd tân sy'n cael eu rhestru yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn, yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n cael eu rhestru yn ail golofn yr Atodlen honno.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.


Notes:

[1] 1993 p.11 Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau ) 1999 (OS 1999 Rhif 672).back

[2] 1998 p.38back



English version



ISBN 0-11-090237-8


  Prepared 13 June 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011231w.html