BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011274w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 22 Mawrth 2001 |
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru, a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru oni nodir fel arall.
Y darpariaethau sy'n dod i rym
2.
- (1) Daw'r darpariaethau yn Neddf 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2001.
(2) Daw'r darpariaethau yn Neddf 2000 a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2001.
Darpariaethau Trosiannol ac Eithriadau
3.
- (1) Yn yr erthygl hon -
(2) Heb ragfarnu paragraff 11 o Atodlen 10 i Ddeddf 2000, bydd i unrhyw beth a wnaed cyn 1 Ebrill 2001 gan yr hen Gyngor yn unol ag adran 51 o Ddeddf 1992 effaith fel pe bai wedi'i wneud gan y Cyngor newydd.
(3) Os oes unrhyw ddarpariaeth yn offeryn neu erthyglau llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach (o fewn ystyr adran 91(3) o Ddeddf 1992) yn darparu y dylai unrhyw beth gael ei wneud yn unol â gofynion yr hen Gyngor neu y dylai gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddwyd gan yr hen Gyngor, bydd i'r ddarpariaeth honno effaith, mewn perthynas ag unrhyw ofyniad a osodir neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2001 fel pe bai cyfeiriadau at yr hen Gyngor yn gyfeiriadau at y Cyngor newydd.
(4) Bydd y pwerau a geir -
yn parhau yn arferadwy mewn perthynas ag unrhyw weithred (gan gynnwys methu â gweithredu) gan yr hen Gyngor cyn 1 Ebrill 2001 ond rhaid i unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y pwerau hynny gael ei roi i'r Cyngor newydd.
4.
Ni fydd y diwygiad i adran 41(10) o Ddeddf 1992 a wnaed gan baragraff 26 o Atodlen 9 i Ddeddf 2000 yn effeithiol at ddibenion dyfarnu a gafodd unrhyw gontract a wnaed cyn 1 Ebrill 2001 ei wneud yn groes i adran 41 o Ddeddf 1992.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mawrth 2001
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif yr O.S. |
Adrannau 104, 105, 107 a 108 | 3 Awst 2000 | 2000/2114 (C.56) |
Adran 94 ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 87 o Atodlen 9. Yn atodlen 9, paragraff 87. | 1 Medi 2000 | 2000/2114 (C.56) |
Adrannau 30, 47, 49 a 51, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod. Atodlen 4. Yn Atodlen 9 paragraffau 3, 4 a 93. | 19 Medi 2000 | 2000/2540 (Cy.163) (C.70) |
Adrannau 134-136 a 146, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 14 o Atodlen 9. Yn Atodlen 9, paragraff 14. | 1 Hydref 2000 | 2000/2559 (C.73) |
Adrannau 42, 43, 44, 46, 48, 73, 87, 93, 95, 139, 141 a 145. Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod. Adran153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 11 y cyfeirir atynt isod.Atodlen 5. Yn Atodlen 9, paragraffau 21(b), 34, 36, 44(3) a (4), 45, 64, 70, 81, 86, a 92. Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol - Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adrannau 18 a 60A, ac Atodlen 5A, Deddf Addysg 1996, paragraff 113 o Atodlen 37, Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 19 a 22, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 125 a 126, ac Atodlen 27, Deddf Llywodraeth Cymru 1998, adran 104(4). | 1 Ionawr 2001 | 2000/3230 (Cy.213) (C.103) |
Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod.Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r didymiadau yn Atodlen lly cyfeirir atynt isod. Yn Atodlen 9, paragraffau 11, 35, 37-39, 41-43, 47-50, 52(3), 83 ac 88. Yn Atodlen 10, Rhan IV.Yn Atodlen ll,y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol - Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adran 91(2), Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 142(1). | 1 Ebrill 2001 | 2001/654 (C.25) |