BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 1275 (Cy. 74)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
29 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym |
2 Ebrill 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 76(2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) (Diwygio) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 2 Ebrill 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid yw'n effeithiol mewn perthynas â chais am grant cymorth trwsio cartref a wneir cyn y dyddiad y daw i rym.
Diwygio'r Gorchymyn
2.
Mae Gorchymyn Grantiau Cyfleusteru i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996[2] yn cael ei ddiwygio yn unol a'r erthyglau canlynol.
Cymorth trwsio cartrefi ; uchafswm ar gyfer un cais
3.
Yn erthygl 4 -
(a) Dilëwch "Subject to article 5";
(b) mharagraffau (a) a (b) (ii), yn lle "£2,000" rhowch "£5,000".
Cymorth trwsio cartrefi: uchafswm mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd
4.
Mae Erthygl 5 yn cael ei ddiddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a Chymorth Trwsio Cartrefi (Uchafsymiau) 1996 ("Gorchymyn 1996") i'r graddau y mae'n gymwys yng Nghymru.
Mae Gorchymyn 1996, ymhlith pethau eraill, yn rhagnodi uchafswm y cymorth trwsio cartrefi y caiff awdurdod tai lleol ei roi o dan Bennod III o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Mae Erthygl 4 o Orchymyn 1996, sy'n rhagnodi uchafswm y cymorth trwsio cartrefi ar gyfer un cais, yn cael ei ddiwygio i godi'r uchafswm hwnnw o £2,000 i £5,000.
Mae Erthygl 5 o Orchymyn 1996, sy'n rhagnodi uchafswm y cymorth trwsio cartrefi sy'n daladwy mewn perthynas â'r un annedd, yr un cwch preswyl neu'r un cartref symudol mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd, yn cael ei diddymu.
Notes:
[1]
1996 p. 53. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 76(2), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, Erthygl 2 ac Atodlen 1.back
[2]
O.S. 1996/2888.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090211 4
|
Prepared
4 June 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011275w.html