BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 1361 (Cy. 89)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Mai 2001 | |
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mai 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "adwerthu" ("sell by retail") yw gwerthu i berson sy'n prynu heblaw ar gyfer ailwerthu;
ystyr "Darpariaeth gymunedol" ("Community Provision") yw darpariaeth yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn y cyfeirir ato yng ngholofn 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, fel y'u darllenir ynghyd ag unrhyw ddarpariaeth atodol y cyfeirir ati yng ngholofn 2 gyferbyn â'r cyfeiriad yng ngholofn 1;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "Cytundeb yr EEA" ("EEA Agreement") yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd[3] a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol[4] a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
ystyr "fitamin A" ("vitamin A") yw fitamin A sydd yn bresennol fel y cyfryw neu ar ffurf ei esterau ac mae'n cynnwys beta-caroten ar y sail bod 6 microgram o feta-caroten neu 12 microgram o garotenoidau actif biolegol eraill yn hafal i 1 microgram o sylwedd sy'n gyfwerth â retinol;
ystyr "fitamin D" ("vitamin D") yw'r fitaminau gwrthlechog;
mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys meddiannu i werthu, a chynnig, amlygu neu hysbysebu i werthu;
ystyr "Gwladwriaeth EEA" ("EEA State") yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio Cytundeb yr EEA;
ystyr "Rheoliad y Comisiwn" ("the Commission Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97[5] sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1278/97[6]), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2181/97[7], Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 623/98[8]), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1298/98[9], Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2521/98[10] a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/1999[11];
ystyr "Rheoliad y Cyngor" ("the Council Regulation") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94[12]) sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a hefyd yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rheoliad y Cyngor neu yn Rheoliad y Comisiwn.
Esemptiadau
3.
- (1) Ac eithrio lle mae paragraff (2) isod yn gymwys, oni bai a hyd nes y ceir penderfyniad gan Gyd-bwyllgor yr EEA o dan Erthygl 98 o'r Cytundeb EEA i'w diwygio i gyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr EEA yn gymwys iddo ac -
(2) Ni fydd Rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fargarîn -
(3) At ddibenion paragraff (2) uchod, mae i "cylchrediad rhydd" yr un ystyr ag sydd i "free circulation" yn Erthygl 23(2) o'r Cytuniad sy'n sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd.
Cynnwys fitaminau mewn margarîn
4.
- (1) Rhaid i unrhyw fargarîn a adwerthir gynnwys ym mhob 100 gram o'r margarîn hwnnw -
(a) dim llai nag 800 microgram a dim mwy na 1000 microgram o fitamin A, a
(b) dim llai na 7.05 microgram a dim mwy nag 8.82 microgram o fitamin D,
a swm cymesur mewn unrhyw ran o 100 gram.
(2) Ni chaiff neb adwerthu unrhyw fargarîn yn groes i'r rheoliad hwn.
Gorfodi
5.
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r darpariaethau Cymunedol a'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
Tramgwyddo a chosbi
6.
Os bydd unrhyw berson yn torri neu'n methu cydymffurfio -
(a) â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, neu
(b) ag unrhyw ddarpariaeth Gymunedol,
bydd yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
7.
Mewn unrhyw achos o dan reoliad 6(b) o'r Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi -
(a) bod y bwyd yr honnir fod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi'i fwriadu ar gyfer ei allforio i wlad sydd â deddfwriaeth sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hyn a'i fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b) bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn yn achos -
(i) allforio i Aelod-wladwriaeth, neu
(ii) pan fydd yna benderfyniad gan Gydbwyllgor yr EEA o dan Erthygl 98 o Gytundeb yr EEA i'w ddiwygio i gyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, allforio i un o Wladwriaethau'r EEA nad yw'n Aelod-wladwriaeth.
Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf
8.
- (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
adran 2 (ystyr estynedig "sale" etc.);
adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi yng nghwrs busnes);
adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
adran 35(1) i (3) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2);
adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol).
(2) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf at ddibenion y Rheoliadau hyn fel eu bod yn cynnwys cyfeiriad at y darpariaethau Cymunedol -
adran 32 (pwerau mynediad);
adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);
adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Diddymu
9.
Diddymir drwy hyn y Rheoliadau a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mawrth 2001
ATODLEN 1Rheoliad 2(1)
Y DARPARIAETHAU CYMUNEDOL
Y Ddarpariaeth Gymunedol
|
Darpariaethau atodol
|
Y Pwnc
|
1.
Rheoliad y Cyngor :
(a) Erthygl 2
(b) Erthygl 3
(c) Erthygl 4
(ch) Erthygl 5
(d) Erthygl 7
|
Erthygl 1 o Reoliad y Cyngor ac rthygl 1 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad I iddo
Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn a Atodiad II iddo
|
Cyfyngiadau ar farchnata brasterau taenadwy
Gofynion ynghylch labelu a chyflwyno brasterau taenadwy
Cyfyngu ar ddefnyddio'r term "traditional" gyda'r enw "butter"
Cyfyngu ar ddefnyddio termau ynghylch cynnwys braster
Gofynion ynghylch brasterau a fewnforir o drydydd gwledydd
|
2.
Rheoliad y Comisiwn: Erthygl 3
|
|
Cyfyngiadau ar ddefnyddio'r dynodiad "butter" ar gyfer cynhyrchion cyfansawdd |
ATODLEN 2Rheoliad 9
DIDDYMIADAU
Rheoliadau a ddiddymir
|
Cyfeiriadau
|
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) 1995 |
O.S. 1995/3116. |
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Diwygio) 1998 |
O.S. 1998/452. |
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Diwygio) (Rhif 2) 1998 |
O.S. 1998/2538. |
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) 1999 |
O.S. 1999/540. |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgyfnerthu ac yn disodli Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) 1995, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i wneud darpariaeth ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar gyfer amddiffyn dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth, fel y'u diwygiwyd. Nodir pwnc y darpariaethau Cymunedol yn fyr yng ngholofn 3 o Atodlen 1. Cafodd Rheoliad y Comisiwn ei ddiwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/1999 sy'n caniatáu defnyddio'r dynodiad "brandy butter", "sherry butter" neu "rum butter" am gynnyrch alcoholig wedi'i felysu sy'n cynnwys o leiaf 20% o fraster-llaeth.
Yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad EEC 2991/94, mae'r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu gofynion o ran cynnwys fitaminau mewn margarîn (rheoliad 4), yn ddarostyngedig i esemptiad (rheoliad 3(2)).
Mae'r Rheoliadau hyn -
(a) yn pennu'r awdurdodau sydd i orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn a'r darpariaethau Cymunedol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 (rheoliad 5);
(b) yn creu tramgwyddau ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 6) ac yn cynnwys esemptiad cyfyngedig mewn perthynas ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr EEA yn gymwys iddo ac a ddygir i Gymru o un o Wladwriaethau'r EEA heblaw Aelod-wladwriaeth naill ai'n uniongyrchol neu drwy ran arall o'r Deyrnas Unedig (rheoliad 3(1));
(c) yn darparu amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reoli bwydydd yn swyddogol, fel y'u darllenir ynghyd â'r nawfed cronicliad yn y Gyfarwyddeb honno (rheoliad 7);
(ch) yn cynnwys darpariaethau penodedig o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 8); a
(d) yn diddymu'r Rheoliadau a bennir yn Atodlen 2 o ran Cymru (rheoliad 9).
Mae defnyddio'r dynodiad "butter" hefyd wedi'i gyfyngu gan Erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 (OJ Rhif L182, 3.7.87, t. 36), a orfodir yng Nghymru gan Reoliadau Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Amddiffyn Dynodiadau) 1990 (O.S. 1990/607, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2486).
Notes:
[1]
1990 p.16back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back
[3]
OJ No. L87, 2.4.97, t.3.back
[4]
OJ No. L175, 3.7.97, t.6.back
[5]
OJ No. L299, 4.11.97, t.1.back
[6]
OJ No.L85, 20.3.98, t.3.back
[7]
OJ No. L180, 24.6.98, t.5.back
[8]
OJ No. L315, 25.11.98, t.12.back
[9]
OJ No. L70, 17.3.1999, t.11.back
[10]
OJ No. L316, 9.12.94, t.2.back
[11]
OJ No. L1, 3.1.94, t.1.back
[12]
OJ No. L1, 3.1.94, t.571.back
[13]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0-11-090217-3
|
Prepared
1 June 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011361w.html