BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Diwygio) (Cymru) 2001 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011396w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 29 Mawrth 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2001 |
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
2
Yn Rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau (dehongli) yn lle'r diffiniad o "Charges Regulations" rhoddir y diffiniad canlynol yn y lle priodol -
Diwygio Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
3.
- (1) Caiff Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (telerau gwasanaeth ar gyfer fferyllwyr), ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff 3 (darparu gwasanaethau fferyllol) -
Diwygio Rhan III o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau
4.
- (1) Caiff Rhan III o Atodlen 2 i'r prif Reoliadau (telerau gwasanaeth ar gyfer meddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol) ei diwygiio yn unol â'r darpariaethau canlynol.
(2) Ym mharagraff 11B[5] -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Mawrth 2001
Diwygiwyd adran 41 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p. 53), ("Deddf 1980"), adrannau 1 ac 20(1) ac Atodlen 1, paragraff 53 ac Atodlen 7, gan O.S.1985/39, erthygl 7(13); gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(1) ac Atodlen 10; gan Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc. 1992 (p.28), adran 2; gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 29; a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), ("Deddf 1997"), Atodlen 2, paragraff 13.
Amnewidiwyd adran 42 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1986 (p. 66), adran 3(1); ei hestyn gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 17; a'i diwygio gan O.S.1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf 1990, adran 12(3); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 30.
Diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1980, Atodlen 9, paragraff 18(2); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31; a chan Ddeddf 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraff 14.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf 1977 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2] O.S.1992/662; dyma'r offferynnau diwygio perthnasol O.S.1993/2451, 1994/2402, 1995/644, 1996/698, 1998/681 a 2224 a 1999/696.back
[4] Mewnosodwyd is-baragraff (1C) gan O.S.1996/696.back
[5] Mewnosodwyd paragraff 11B gan O.S.1999/696.back