BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011410w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 1410 (Cy. 96) (C. 50)

CEFN GWLAD, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 5 Ebrill 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[1].

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2001.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn:

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diwrnod Penodedig
     2. Mai 2001 yw'r diwrnod penodedig y daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym: - 

Darpariaeth drosiannol
     3. Nid yw diddymiad adran 134(5) o Ddeddf 1980 sy'n cael ei gychwyn gan erthygl 2(d) ac (m) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd o dan adran 134 o'r Ddeddf honno a gyflawnwyd cyn 1 Mai 2001.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
9].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Ebrill 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai dapariaethau penodol o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Mai 2001, sef:

    (1) adran 57, mewn perthynas â pharagraff 18 ac 19 o Atodlen 6 (sy'n diwygio Deddf Priffyrdd 1980),

    (2) paragraffau 18(a) a 19 o Atodlen 6 i'r graddau y maent yn gwneud newidiadau mewn perthynas â gorchmynion diddymu a gwyro croesfannau rheilffordd,

    (3) adran 68 (sy'n perthyn i fynediad gan cerbydau ar draws tir comin),

    (4) adran 72 (sy'n cynnwys darpariaethau dehongli ar gyfer Rhan II o'r Ddeddf),

    (5) Rhan IV o'r Ddeddf, ac Atodlenni 13 a 14 iddi (sy'n diwygio'r gyfraith mewn perthynas ag ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol),

    (6) adran 102 (sy'n cyflwyno'r Atodlen diddymiadau) mewn perthynas â rhai diddymiadau yn Atodlen 16,

    (7) rhai diwygidau mân a chanlyniadol eraill i'r gyfraith.

Mae Erthygl 3 o'r Gorchymyn yn sicrhau y bydd adran 134(5) o Ddeddf Priffyrdd 1980 (sy'n cyfyngu'r personau sydd â'r hawl i erlyn tramgwydd o dan adran 134(4) o'r Ddeddf honno) yn dal yn gymwys mewn perthynas â thramgwyddau a gyflawnwyd cyn 1 Mai 2001.


Notes:

[1] 2000 p.37back

[2] 1980 p.66back

[3] 1981 p.69back

[4] 1949 p.97back

[5] 1925 p.20back

[6] 1972 p.70back

[7] 1994 p.19back

[8] 1984 p.27back

[9] 1998 p. 38back



English version



ISBN 0 11090254 8


  Prepared 6 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011410w.html