BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 1735 (Cy.122)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
3 Mai 2001 | |
|
Yn dod i rym |
24 Mai 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8(1), 87(2) a (3) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], a phob p er arall sy'n eu galluogi yn y cyswllt hwnnw yn gwneud y Gorchymyn canlynol :
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Diwygio) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 24 Mai 2001.
(2) Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Diwygio Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999
2.
Diwygir Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999[2], i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, fel a ganlyn:
(a) yn erthygl 3, paragraff (1):
(i) mewnosodir y diffiniad canlynol yn y lle priodol:
(a) any creature, including fish, kept for the production of food, wool, skin or fur, and any creature, other than a dog, kept for use in the farming of land; and
(b) any ruminant animal, pig, poultry or equine animal.";
"used cooking oil" means catering waste consisting of oils and fats from food-processing and the by-products of such oils and fats (other than any such oils and fats derived in any way from ruminant bones) where these are collected from food businesses (as such term is defined in Article 2 of Council Directive 93/43/EC on the hygiene of foodstuffs [3]);" a
(ii) dilëir y diffiniad o "swill";
(b) Yn erthygl 7:
(i) ychwaneger y gair "or" wedi'r geiriau "Schedule 2" ym mharagraff 2(c)(i), a dilëir "or" ble mae'n ymddangos ar ddiwedd paragraff 2(c)(ii);
(ii) dilëir paragraff 2(c)(iii);
(c) dilëir y geiriau "swill or" yn erthygl 9, paragraff (1);
(ch) lle erthyglau 19 - 26 (gan gynnwys y ddau erthygl) rhoddir yr erthyglau canlynol:
"
19.
- (1) No person shall feed to any livestock or allow any livestock to have access to any catering waste to which this article applies or any feeding stuffs which have been in contact with it.
(2) No person shall bring catering waste to which this article applies onto any premises where any livestock are kept.
(3) This article applies to catering waste (other than used cooking oil) whether processed or unprocessed which:
(a) contains or has been in contact with animal carcases, parts of animal carcases (including blood) or products of animal origin (other than milk or milk products, eggs, rennet, gelatin or melted fat which have been incorporated into another product);or
(b) originates from any premises where any animal carcases, parts of animal carcases or products of animal origin (with the exceptions referred to in sub-paragraph (a) above) are handled or where foodstuffs containing or coming into contact with any of the same are prepared or produced.
20.
No person shall feed to any livestock or allow any livestock to have access to any catering waste imported into Great Britain and originally intended for consumption on the means of transport in which it was imported, or any feedingstuffs which have been in contact with it.";
(d) yn Atodlen 1, paragraff 4, dilëir y geiriau o "except in the case of premises" i ddiwedd y paragraff;
(dd) yn Atodlen 1, paragraff 14, dilëir y geiriau "subject to sub-paragraph (2) below" yn is-baragraff 1, a'r cyfan o is-baragraff (2);
(e) yn Atodlen 2, Rhan I, dilëir paragraff 5; a
(f) dilëir Atodlen 5.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [4]
Jane Davidson[a]
Ysgrifennydd Cynulliad dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
3 Mai 2001
Joyce Quinn[b]
Gweinidog Gwladol Y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd
3 Mai 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 (O.S. 1999/646, y "prif Orchymyn"), i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru, fel ei fod yn gwahardd porthi da byw â chategorïau penodol o wastraff arlwyo p'un a yw'r gwastraff hwnnw wedi'i brosesu neu heb ei brosesu. Mae'n dileu'r posibilrwydd hefyd o sgil-gynhyrchion anifeiliaid anfamalaidd yn cael eu rendro er mwyn cynhyrchu golchion i'w porthi i foch neu ddofednod.
Hysbyswyd y Gorchymyn hwn ar ffurf drafft i'r Comisiwn Ewropeaidd fel safon dechnegol, yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor (OJ rhif L204, 21.7.98, t.37) sydd yn pennu'r drefn ar gyfer darparu gwybodaeth yn y maes safonau a rheoliadau technegol (fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 98/48/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor, OJ Rhif L217, 05.08.1998, t.18).
Ni wnaed arfarniad rheoleiddiol ar gyfer Cymru'n unig mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn, ond fe baratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer Prydain Fawr gyfan. Gellir cael copïau o Is-adran Iechyd Anifeiliaid (BSE), Y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, 1A Page Street, Llundain, SW1P 4PQ.
Notes:
[1]
1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o "the Ministers" a "the Minister". Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers", i'r graddau y maent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[2]
O.S. 1999/646.back
[3]
OJ No. L175, 19.07.93, p.1.back
[4]
1998.p.38back
[a]
Amended by Correction Slip. Tudalen 4, enwau'r llofnodwyr: dilëwch "Joyce Davidson", rhoddwch yn ei le "Jane Davidson".
back
[b]
Amended by Correction Slip. Tudalen 4, enwau'r llofnodwyr: dilëwch "Jayne Quinn", rhoddwch yn ei le "Joyce Quinn".
back
English version
ISBN
0-11-09019-5
|
Prepared
16 May 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20011735w.html