BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012072w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2072 (Cy.144)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 24 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 132(3) a (4), 101[1] a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[2] fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[3], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygiadau
    
2.  - (1) Mae'r ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999[4]) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    (2) Mae'r ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997[5] yn cael ei diwygio i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru yn unol â thestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2001



YR ATODLEN
Rheoliad 2


DIWYGIADAU I'R FFURFLEN O DAN Y TEITL "CAIS AM GRANT ADLEOLI"


     1. Yng nghwestiwn 4.31, yn y lle priodol, mewnosodwch - 

     2. Yng nghwestiwn 4.34, yn lle "a 50B", rhowch ", 50B a 50C".

     3. Ar ôl cwestiwn 4.34, mewnosodwch - 

     4. Yng nghwestiwn 4.38, mewnosodwch - 

     Oes Nac oes
"Darperir y gofal gan ddarparydd gofal plant a gymeradwywyd gan gorff a achredwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;" opensquare opensquare

     5. Yn nodyn 19, ar ôl y geiriau "at ddibenion budd-dâl plant", mewnosodwch ", neu sydd yng ngofal awdurdod lleol ac sydd wedi'i leoli gyda chi gan yr awdurdod".

     6. Yn nodyn 45, ar ôl "(darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr)", mewnosodwch - 

     7. Ar ôl nodyn 46C, mewnosodwch - 

     8. Ar ôl nodyn 50B, mewnosodwch - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio i wneud cais am grant adleoli sy'n daladwy o dan adrannau 131 i 140 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 yng Nghymru.

Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 (OS 1999/2315 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 (OS 1997/2847 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2073) (Cy.145) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890).


Notes:

[1] Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 101.back

[2] 1996 p.53; cafodd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] 1993 p.38.back

[4] O.S. 1999/2315, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/3469 (Cy. 55) a 2000/1710 (Cy. 116).back

[5] O.S. 1997/2847, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/810, 1999/1541, 1999/3469 (Cy.55) a 2000/1710 (Cy. 116).back

[6] 1998 p. 38.back

[7] 1998 p.30.back

[8] Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Taliadau i Leihau Tan-feddiannaeth) 2000, O.S. 2000/637.back

[9] Rheoliadau Diwygio Nawdd Cymdeithasol (Anwybyddu Cyfalaf) 2001, O.S. 2001/22.back



English version



ISBN 0 11090263 7


  Prepared 16 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012072w.html