BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012073w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif. 2073 (Cy.145)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 24 Mai 2001 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30 a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y deuant i rym.

Diwygiadau
    
2. I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996[2] yn cael eu diwygio yn unol â'r rheoliadau canlynol.

Rheoliad 2
     3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli) - 

Rheoliad 8
     4. Ym mharagraff (2) o reoliad 8 (amgylchiadau lle mae person i gael ei drin fel pe bai neu fel pe na bai yn gyfrifol am un arall), yn is-baragraff (a), ar ôl "in respect of him" mewnosodwch ", or, if no-one is in that position, with whom he has been placed under section 23(2) of the Children Act 1989[5]".

Rheoliad 10
     5. Ym mharagraff (1) o reoliad 10 (y swm cymwysadwy)[6], yn is-baragraff (b), yn lle "£50" rhowch "£51.60" ac yn lle "£65" rhowch "£67.08".

Rheoliad 18
     6. Yn rheoliad 18 (penderfynu incwm ar sail wythnosol)[7] - 

Rheoliad 19
     7. Ym mharagraff (7) o reoliad 19 (ymdrin â ffioedd gofal plant)[8] - 

Rheoliad 31
     8. Ym mharagraff (10A) o reoliad 31 (incwm tybiannol)[10] - 

Rheoliad 32
     9. Yn rheoliad 32 (addasiad mewn perthynas â phlant a phersonau ifanc) - 

Rheoliad 35
    
10. Yn rheoliad 35 (trin incwm fel cyfalaf)[11]

Rheoliad 40
     11. Ym mharagraff (1) o reoliad 40 (penderfynu incwm tariff o gyfalaf), yn lle "£5,000" yn y ddau achos rhowch "£6,000".

Rheoliad 41
    
12. Yn rheoliad 41 (dehongli Rhan II)[12] - 

Rheoliad 43
     13. Yn rheoliad 43 (penderfynu incwm grant) - 

Rheoliad 45
     14. Caiff rheoliad 45 (symiau eraill sydd i'w hanwybyddu) [22] ei ailrifo 45(1), ac ychwanegir y paragraff canlynol - 

Rheoliad 46
     15. Caiff rheoliad 46 (ymdrin â benthyciadau i fyfyrwyr)[24] ei ddiwygio fel a ganlyn - 

Rheoliad 46A a 46B
     16. Ar ôl rheoliad 46 (ymdrin â benthyciadau i fyfyrwyr), rhowch - 

Atodlen 1
    
17.  - (1) Ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 1 (symiau cymwysadwy: lwfansau personol)[25], yn y golofn o dan y pennawd "(2) Amount" - 

    (2) Ym mharagraff 2 o Ran I o Atodlen 1, yn y golofn o dan y pennawd "(2) Amount" - 

    (3) Ym mharagraff 3(1) o Ran II o Atodlen 1 (symiau cymwysadwy: premiwm teulu), yn lle "£14.25" rhowch "£14.50".

    (4) Yn lle paragraff 6 o Ran III o Atodlen 1 (symiau cymwysadwy: premiymau) rhowch y paragraff canlynol - 

    (5) Ar ôl paragraff 13 o Ran III o Atodlen 1 mewnosodwch y paragraff canlynol - 

    (6) Ym mharagraff 18 o Ran IV o Atodlen 1 (symiau cymwysadwy: symiau'r premiymau a bennir yn Rhan III), yn y golofn o dan y pennawd "(2) Amount" - 

    (7) ar ôl paragraff 18(7), ychwanegwch yr is- baragraff canlynol - 

Premium Amount
    "(8) Enhanced disability premium.

     8.

    (a) £11.05 in respect or each child or young person in repsect of whom the conditions specified in paragraph 13A are satisfied;

    (b) £11.05 in respect of each person who is neither - 

      (i) a child or young person; nor

      (ii) a member of a couple in respect of whom the conditions specified in paragraph 13A are satisfied;

    (c) £16.00 where the relevant person is a member of a couple and the conditions specified in paragraph 13A are satisfied in respect of a member of that couple.";.


ATODLEN 3
    
18. Yn Atodlen 3 (symiau sydd i'w hanwybyddu wrth benderfynu incwm heblaw enillion) - 

Atodlen 4
    
19. Yn Atodlen 4 (cyfalaf sydd i'w anwybyddu) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
29].


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 ("y prif Reoliadau"). Maent yn gwneud newidiadau i'r prawf moddion ar gyfer penderfynu ar faint o grant adnewyddu a grant cyfleusterau i'r anabl a all gael ei dalu gan yr awdurdodau tai lleol mewn perthynas â cheisiadau gan berchen-feddianwyr a thenantiaid o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae'r mwyafrif o'r diwygiadau hyn yn dilyn newidiadau i Reoliadau Budd-dâl Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971) y seilir y prawf moddion arnynt. Mae yna fân ddiwygiadau a diwygiadau drafftio hefyd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau er mwyn dileu amheuon ynghylch a all personau y mae plant neu bobl ifanc wedi'u lleoli gyda hwy i gael eu maethu gael eu trin fel pe baent yn gyfrifol amdanynt at ddibenion ceisiadau grant.

Mae rheoliad 5 yn cynyddu'r "applicable amount" o incwm y gellir ei gael heb leihau'r grant. Mae rheoliad 6 yn gostwng swm y lleihad yn y grant a geir pan eir y tu hwnt i'r swm cymwysadwy.

Mae rheoliad 6 hefyd yn darparu y gall credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl gael eu cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo faint o daliadau gofal plant a all gael eu caniatáu at ddibenion y prawf moddion. Mae taliadau i ddarparwyr gofal plant sydd wedi'u cymeradwyo gan gyrff a achredwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu caniatáu o dan reoliad 7.

Mae rheoliad 8 yn sicrhau nad yw'r rhai sy'n cymryd rhan mewn gwaith sydd wedi'i gymeradwyo, megis treialon gwaith neu leoliadau gwaith, yn cael eu trin fel pe baent mewn cyflogaeth am dâl at ddibenion y prawf moddion.

Mae rheoliad 9 yn newid sut yr ymdrinnir ag incwm a briodolir i blant a phersonau ifanc er mwyn adlewyrchu'r ffaith bod gwell premiwm anabledd a throthwyon cyfalaf uwch wedi cael eu cyflwyno.

Yn rheoliadau 10, 18 a 19 darperir ar gyfer defnyddio rheolau arbennig ynghylch lwfansau cynhaliaeth a thaliadau dewisol i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni parthau cyflogi a sefydlir yn unol ag adran 60 o Ddeddf Diwygio Lles a Charchardai 1999 (p.30).

Mae rheoliad 11 yn cynyddu'r trothwy lle mae cyfalaf yn cael ei drin fel pe bai'n cynhyrchu incwm tybiannol o £5,000 i £6,000.

Mae sawl newid yn cael ei wneud yn yr ymdriniaeth ag incwm myfyrwyr. Mae rheoliad 13(b) yn mewnosod darpariaeth ar gyfer dyrannu incwm grant at ddibenion y prawf moddion. O dan reoliadau 14 a 15 mae symiau ar gyfer prydau ysgol a benthyciadau caledi i gael eu hanwybyddu. Mae'r symiau sy'n cael eu hanwybyddu mewn perthynas â llyfrau, offer a chostau teithio yn cael eu cynyddu gan reoliad 13(a). Mae taliadau o gronfeydd mynediad i gael eu hanwybyddu, yn ddarostyngedig i reolau a nodir yn rheoliad 16.

Mae rheoliad 17 yn uwchraddio'r symiau cymwysadwy a'r premiymau yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau, ac yn ychwanegu gwell premiwm anabledd.

Mae rheoliad 19 hefyd yn ychwanegu eitemau at y rhestr o symiau sydd i gael eu hanwybyddu fel cyfalaf, sef taliadau sy'n ymwneud â rhaglenni parthau cyflogi, cyfandaliadau a delir i rai sy'n hawlio budd-dâl tai mewn rhai ardaloedd a thaliadau ex gratia mewn perthynas â charchariad neu gaethiwed gan y Japaneaid yn yr Ail Ryfel Byd.


Notes:

[1] 1996 p.53; cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[2] O.S. 1996/2890, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3119, 1997/977, 1998/808, 1999/1523, 1999/3468 (Cy. 54) a 2000/973 (Cy.43)back

[3] 1999 p.30.back

[4] Diwygiwyd rheoliad 75(1)(a) o Reoliadau'r Lwfans Ceisio Gwaith gan O.S. 1997/2863 a 1998/1174.back

[5] 1989 p.41.back

[6] Diwygiwyd rheoliad 10 gan O.S. 1998/808 a 2000/973(Cy.43).back

[7] Diwygiwyd rheoliad 18 gan O.S. 1998/808, a 2000/973(Cy.43).back

[8] Diwygiwyd rheoliad 19 gan O.S. 1999/3468(Cy.54).back

[9] O.S. 1999/3110.back

[10] Diwygiwyd rheoliad 19 gan O.S. 1998/808, 1999/1523 a 2000/973(Cy.43).back

[11] Diwygiwyd rheoliad 35 gan O.S. 1999/1523.back

[12] Diwygiwyd rheoliad 41 gan O.S. 1999/1523 a 2000/973 (Cy.43).back

[13] 1992 p.13.back

[14] 2000 p.21.back

[15] 1980 p.44. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46).back

[16] O.S. 1993/2810 (G.I. 12)back

[17] O.S. 1997/1772 (G.I. 15).back

[18] O.S. 2000/1121.back

[19] O.S.A. 2000/200.back

[20] Rh.S. (G.I) 2000 Rhif 213.back

[21] Amnewidiwyd paragraff 3 o reoliad 43 gan O.S. 2000/973 (Cy.43).back

[22] Diwygiwyd rheoliad 45 gan O.S. 2000/973 (Cy.43)back

[23] 1998 p.30.back

[24] Diwygiwyd rheoliad 46 gan O.S. 2000/973 (Cy.43).back

[25] Diwygiwyd Atodlen 1 gan O.S. 1997/977, 1998/808, 1999/1523 a 2000/973 (Cy.43).back

[26] Ychwanegwyd paragraff 63 o Atodlen 3 gan O.S. 1999/1523.back

[27] Ychwanegwyd paragraffau 8(3) a 54 o Atodlen 4 gan O.S. 1999/1523.back

[28] O.S. 2000/637.back

[29] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090262 9


  Prepared 12 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012073w.html