BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012136w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2136 (Cy.149)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001

  Wedi'u gwneud 5 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym yn unol â rheoliad (1)


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cychwyn a dehongli
2. Penodi aelodau
3. Telerau penodi
4. Penodi dirprwy gadeirydd
5. Anghymhwyso rhag penodi
6. Anghymhwyster yn dod i ben
7. Terfynu deiliadaeth swydd
8. Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau
9. Cyfarfodydd a thrafodion
10. Anabledd aelodau mewn trafodion oherwydd eu buddiannau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 118(4) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1] a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1)

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (3) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn; mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad; ac mae unrhyw gyfeiriad at is-baragraff â rhif mewn paragraff yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff.

Penodi aelodau
     2.  - (1) Bydd y Cyngor yn cynnwys cadeirydd a dim mwy na phedwar ar hugain o aelodau eraill.

    (2) Penodir yr holl aelodau gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Cyn penodi unrhyw aelod rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â'r personau hynny, os oes rhai, a wêl yn dda.

    (4)

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (8) mae person yn berson lleyg os nad yw'n dod o fewn unrhyw un o'r categorïau a ddisgrifir ym mharagraff (6).

    (6) Dyma'r categorïau:

    (7) Os gwneir rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 55(3) o'r Ddeddf a fydd yn darparu at ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf fod unrhyw berson sy'n dod o fewn unrhyw un o'r categorïau a ddisgrifir yn is-baragraffau (b) - (d) o baragraff (6) i gael ei drin fel gweithiwr gofal cymdeithasol yna at ddibenion y Rheoliadau hyn mae'r person hwnnw i'w drin fel un sy'n dod o fewn is-baragraff (a) o baragraff (6) ac nid unrhyw un o'r is-baragraffau sydd newydd eu crybwyll.

    (8)

Telerau penodi
    
3.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 7 (terfynu deiliadaeth swydd), cyfnod swydd aelod fydd unrhyw gyfnod, nad yw'n hwy na phedair blynedd, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei bennu wrth wneud y penodiad.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n dymuno bod yn aelod o'r Cyngor ddarparu unrhyw wybodaeth y gall y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol ofyn amdani er mwyn asesu addasrwydd y person hwnnw i fod yn aelod o'r Cyngor.

Penodi dirprwy gadeirydd
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff yr aelodau benodi un o'u mysg sy'n berson lleyg, ac sy'n fodlon cael ei benodi felly, heblaw'r cadeirydd, i fod yn ddirprwy gadeirydd am unrhyw gyfnod, nad yw'n hwy na gweddill ei gyfnod fel aelod, y gallant ei bennu wrth wneud y penodiad.

    (2)

    (3) Os yw'r cadeirydd wedi peidio â dal swydd, neu os nad yw'n gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel cadeirydd oherwydd salwch neu unrhyw achos arall, rhaid cymryd bod y cyfeiriadau at y cadeirydd yn yr Atodlen i'r rheoliadau hyn, cyhyd ag nad oes cadeirydd ar gael i gyflawni ei ddyletswyddau ac nad yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn cynnwys cyfeiriadau at y dirprwy gadeirydd.

Anghymhwyso rhag penodi
    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 6 (anghymhwyster yn dod i ben) bydd person yn anghymhwys i'w benodi'n aelod - 

    (2) At ddibenion paragraff 1(d) bernir bod cofnod person wedi'i dynnu neu wedi'i atal o gofrestr ar y dyddiad pan fydd y cyfnod cyffredinol a ganiateir ar gyfer apelio at y Tribiwnlys a grybwyllir yn adran 68 o'r Ddeddf (Apelau i'r Tribiwnlys) yn erbyn y tynnu neu'r atal wedi dirwyn i ben neu, os oes apêl o'r fath wedi'i gwneud, y dyddiad pan yw'r apêl neu'r cais wedi'u cwblhau'n derfynol neu eu bod, ym marn resymol y Cynulliad Cenedlaethol, wedi'u gollwng.

    (3) At ddibenion paragraff 1(dd) bernir bod cofnod person wedi'i dynnu neu wedi'i atal o gofrestr ar y dyddiad y mae cyfraith Gogledd Iwerddon neu (yn ôl fel y digwydd) gyfraith yr Alban yn darparu bod y cyfnod cyffredinol a ganiateir ar gyfer apelio yn erbyn y tynnu neu'r atal at dribiwnlys annibynnol neu at lys wedi dirwyn i ben neu, os oes apêl o'r fath wedi'i gwneud, y dyddiad pan yw'r apêl wedi'i chwblhau'n derfynol neu ei bod, ym marn resymol y Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i gollwng.

    (4) Rhaid peidio â chymryd y rheoliad hwn fel pe bai'n rhagfarnu hyd a lled unrhyw ffactor, neu'r math o ffactorau, y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu cymryd i ystyriaeth wrth ystyried a ddylid penodi person nad yw wedi'i anghymhwyso yn rhinwedd y rheoliad hwn yn aelod o'r Cyngor.

Anghymhwyster yn dod i ben
     6.  - (1) Os yw person wedi'i anghymhwyso o dan reoliad 5(1)(d) neu (dd) oherwydd tynnu cofnod o gofrestr a ddisgrifir yno bydd yr anghymhwysiad yn peidio os caiff cofnod ei wneud mewn perthynas â'r person yn y gofrestr y tynnwyd y cofnod ohoni.

    (2) Os yw person wedi'i anghymhwyso o dan reoliad 5(1)(e) oherwydd ei fod wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr - 

    (3) Os yw person wedi'i anghymhwyso o dan reoliad 5(1)(e) oherwydd iddo wneud cyfansoddiad neu drefniant â'i gredydwyr - 

    (4) Ni fydd y rheoliad hwn yn cael unrhyw effaith pan derfynir unrhyw ddeiliadaeth swydd o dan reoliad 7.

Terfynu deiliadaeth swydd
    
7.

    (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(2) caiff aelod ymddiswyddo o'i swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Pan benodir aelod yn gadeirydd yn ystod cyfnod ei swydd, daw deiliadaeth ei swydd fel aelod o'r fath i ben pan fydd ei benodiad yn gadeirydd yn dod yn effeithiol.

    (3) Os bydd aelod yn methu â bod yn bresennol mewn dau gyfarfod o'r Cyngor o'r bron rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol derfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw yn ddiymdroi drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw, onid yw wedi'i fodloni - 

    (4) Os yw person wedi'i benodi'n aelod, ac - 

rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol derfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw yn ddiymdroi drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw.

    (5)

    (6) Os yw'r Cynulliad o'r farn bod aelod:

caiff derfynu deiliadaeth swydd yr aelod hwnnw yn ddiymdroi drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw, ac eithrio na chaiff deiliadaeth swydd unrhyw berson ei therfynu o dan is-baragraff (a) onid oedd canllawiau wedi'u rhoi gan y Cynulliad i'r Cyngor adeg y methiant o dan sylw ynghylch buddiannau perthnasol o dan reoliad 10.

Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau
    
8.  - (1) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi, fe gaiff y Cyngor, ac os cyfarwyddir ef i'r perwyl hwnnw gan y Cynulliad rhaid iddo, benodi pwyllgorau o'r Cyngor.

    (2) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi, gall pwyllgor o'r Cyngor gynnwys aelodau o'r Cyngor yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu gynnwys yn gyfan gwbl bersonau nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor.

    (3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad eu rhoi, fe gaiff pwyllgor o'r Cyngor, ac os cyfarwyddir ef i'r perwyl hwnnw gan y Cynulliad rhaid iddo, benodi is-bwyllgorau.

    (4) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad eu rhoi, gall is-bwyllgor gynnwys aelodau o'r pwyllgor yn gyfan gwbl neu'n rhannol (p'un a ydynt yn aelodau o'r Cyngor neu beidio) neu gynnwys yn gyfan gwbl bersonau nad ydynt yn aelodau o'r Cyngor na'r pwyllgor.

    (5) Mae rheoliad 5 (anghymhwyso rhag penodi), heblaw paragraff 1(f), a rheoliad 6 (anghymhwyster yn dod i ben) yn gymwys i benodi aelodau o bwyllgorau ac is-bwyllgorau ("aelodau pwyllgor") fel y maent yn gymwys i benodi aelodau o'r Cyngor.

    (6)

Cyfarfodydd a thrafodion
    
9.  - (1) Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y Cyngor gael eu cynnal yn unol â'r rheolau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac â'r Rheolau Sefydlog a wneir o dan baragraff (2).

    (2) Yn ddarostyngedig i'r rheolau hynny, i reoliad 10 (anabledd aelodau mewn trafodion oherwydd eu buddiannau) ac i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi, rhaid i'r Cyngor wneud Rheolau Sefydlog, a gall eu hamrywio neu eu diddymu, ar gyfer rheoli ei drafodion a'i fusnes (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer atal unrhyw un neu'r cyfan o'r Rheolau Sefydlog).

    (3) Yn ddarostyngedig i reoliad 8 (penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau) a 10 ac unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad eu rhoi, caiff y Cyngor wneud Rheolau Sefydlog, a chaiff eu hamrywio neu eu diddymu, i reoli cworwm, trafodion a busnes unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor ("pwyllgorau") (gan gynnwys darpariaeth ar gyfer atal y cyfan neu rai o'r Rheolau Sefydlog) ond, yn ddarostyngedig i unrhyw Reolau Sefydlog o'r fath, bydd y cworwm, y trafodion a busnes y pwyllgorau yn gyfryw ag y bydd pob un o'r pwyllgorau yn penderfynu arnynt.

    (4) Ni fydd trafodion y Cyngor na thrafodion unrhyw un o'i bwyllgorau neu ei is-bwyllgorau yn annilys oherwydd unrhyw le gwag yn yr aelodaeth neu oherwydd unrhyw ddiffyg wrth benodi naill ai aelod o'r Cyngor neu aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor.

Anabledd aelodau mewn trafodion oherwydd eu buddiannau
    
10.  - (1)

    (2)

    (3) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgor neu is-bwyllgor o'r Cyngor fel y mae'n gymwys i'r Cyngor ei hun ac mae'n gymwys i aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath (p'un a yw hefyd yn aelod o'r Cyngor neu beidio) fel y mae'n gymwys i aelod o'r Cyngor.

    (4) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu rhoi, gall y Rheolau Sefydlog y caiff y Cyngor eu gwneud o dan reoliad 9(2) a (3) (cyfarfodydd a thrafodion) wneud darpariaeth ar gyfer atal aelod o gyfarfod o'r Cyngor neu bwyllgor neu is-bwyllgor o'r Cyngor tra bydd unrhyw fater y mae ganddo fuddiant perthnasol ynddo o dan ystyriaeth.

    (5) Rhaid peidio â thrin unrhyw dâl, iawndal neu lwfansau sy'n daladwy i aelod, neu i aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor nad yw'n aelod o'r Cyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 1 i'r Ddeddf (tâl a lwfansau) fel buddiant perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
13].


D.Elis Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Mehefin 2001



ATODLEN
Rheoliad 9(1)


RHEOLAU YNGHYLCH CYFARFODYDD A THRAFODION Y CYNGOR


     1. Rhaid cynnal cyfarfod cyntaf y Cyngor ar unrhyw ddiwrnod ac mewn unrhyw leoliad y gall y Cadeirydd eu penodi, a'r cadeirydd fydd yn gyfrifol am gynnull y cyfarfod.

     2.

    (1) Gall y cadeirydd alw cyfarfod o'r Cyngor ar unrhyw adeg.

    (2) Os oes cais i gael cyfarfod, wedi'i lofnodi gan o leiaf bum aelod, yn cael ei gyflwyno i'r cadeirydd, a bod y cadeirydd naill ai - 

    (3)

    (4) Ni fydd trafodion unrhyw gyfarfod yn annilys os bydd unrhyw aelod yn methu â chael yr hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno neu ei anfon o dan y paragraff hwn.

     3.

    (1) Mewn unrhyw gyfarfod o'r Cyngor y cadeirydd, neu yn absenoldeb y cadeirydd y dirprwy gadeirydd (os oes un ac os yw'n bresennol) fydd yn llywyddu.

    (2) Os bydd y cadeirydd a'r dirprwy gadeirydd yn absennol, unrhyw aelod arall sy'n bresennol ac y bydd yr aelodau presennol eraill yn ei ddewis at y diben fydd yn llywyddu.

     4. Penderfynir ar bob cwestiwn mewn cyfarfod gan fwyafrif o bleidleisiau gan yr aelodau sydd yn bresennol ac yn gymwys i bleidleisio ar y cwestiwn, ac yn achos pleidlais gyfartal, bydd gan y cadeirydd neu, yn absenoldeb y cadeirydd, y person sy'n llywyddu yn y cyfarfod, ail bleidlais sy'n bleidlais fwrw.

     5.

    (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff unrhyw fusnes ei drafod mewn unrhyw gyfarfod oni fydd o leiaf bum aelod yn bresennol.

    (2) Os oes gan y Cyngor lai na phum aelod yna rhaid i bob aelod fod yn bresennol.

     6.

    (1) Rhaid i gofnodion trafodion y cyfarfod gael eu llunio a chael eu llofnodi yn y cyfarfod nesaf sy'n dilyn gan y person sy'n llywyddu yn y cyfarfod nesaf hwnnw.

    (2) Rhaid cofnodi enwau'r aelodau sy'n bresennol mewn cyfarfod yn y cofnodion.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ynghylch penodi, aelodaeth a gweithdrefn Cyngor Gofal Cymru ("y Cyngor").

Mae rheoliadau 2 i 4 yn ymwneud â phenodi aelodau'r Cyngor. Maent yn pennu uchafswm aelodau'r Cyngor, y maent i gyd i gael eu penodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn ei gwneud yn ofynnol i fwyafrif o aelodau'r Cyngor, gan gynnwys ei Gadeirydd, fod yn bersonau lleyg.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn ymwneud â'r categorïau o berson nad ydynt yn gallu bod yn aelodau o'r Cyngor.

Mae rheoliad 7 yn nodi'r amgylchiadau pan all y Cynulliad Cenedlaethol derfynu deiliadaeth aelodau'r Cyngor ar eu swyddi.

Mae rheoliadau 8 a 9, a'r Atodlen, yn ymwneud â phenodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau'r Cyngor, a thrafodion y Cyngor a'i bwyllgorau.

Mae rheoliad 10 yn ymwneud â buddiannau aelodau ac yn sgil hynny y gofynion a roddir ar yr aelodau mewn perthynas â'r buddiannau hynny.


Notes:

[1] 2000 p. 14. Mae'r p er sydd gan y Cynulliad i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf: gweler adran 118(4) o'r Ddeddf.back

[2] 1974 p.53.back

[3] Gall Gorchymyn, o dan adran 4(4)(a) o Ddeddf 1974 (y cyfeirir ati fel "y Ddeddf" yng ngweddill y troednodyn hwn), eithrio neu addasu cymhwysiad adran 4(2) o'r Ddeddf, a darparu, o dan adran 4(4)(b), ar gyfer eithriadau rhag darpariaethau adran 4(3) o'r Ddeddf. Mae adran 4(2) o'r Ddeddf yn darparu, ymhlith pethau eraill, nad yw cwestiynau a ofynnir i berson am ei gollfarnau blaenorol i gael eu trin fel rhai sy'n berthnasol i gollfarnau sydd wedi darfod. Mae adran 4(3) o'r Ddeddf yn darparu, ymhlith pethau eraill, na ellir gosod person o dan rwymedigaeth i ddatgelu collfarn sydd wedi darfod na'i ragfarnu mewn perthynas ag unrhyw swydd oherwydd collfarnau sydd wedi darfod. Gweler adran 1(1) o'r Ddeddf (Personau a adsefydlwyd a chollfarnau sydd wedi darfod) i gael ystyr "spent conviction".back

[4] Mae adran 103(2) o'r Ddeddf yn darparu bod unigolyn o ddisgrifiad rhagnodedig yn "unigolyn perthnasol" at ddibenion adran 103(1) (ystyr "rhagnodedig" yw "wedi'i ragnodi gan reoliadau": gweler adran 121(1) o'r Ddeddf; mae rheoliadau o dan adran 103 i'w gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol: gweler adran 80(8) o'r Ddeddf). Mae adran 103(1) yn darparu bod gan berson sy'n ceiso darganfod a yw unigolyn perthnasol wedi'i gynnwys ar y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14) (Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr) hawl i'r wybodaeth honno, cyn cychwyn adran 8 o Ddeddf 1999 (Archwiliadau o'r ddwy restr o dan Ran V o Ddeddf yr Heddlu 1997), wrth wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae adran 8 o Ddeddf 1999 yn darparu bod ceisiadau i gael gweld y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf 1999 i gael eu gwneud ar y cyd â cheisiadau i gael gweld rhestrau gwybodaeth eraill a gedwir am unigolion.back

[5] 1997 p.50. Mewnosododd adran 8(1) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14) is-adrannau 3A a 3B yn adran 113 o Ddeddf 1997. Mewnosododd adran 90(1) o'r Ddeddf is-adrannau 3C a 3D, a mewnosododd adran 104(1) a (2)(b) is-adran 3E, yn adran 113. Yn ychwanegol, mae adrannau 102(1), 104(1) a 2(a), 116 o'r Ddeddf a pharagraff 25(1) o Atodlen 4 iddi yn diwygio is-adran 3A o adran 113. Nid yw'r mewnosodiadau a wneir gan Ddeddf 1999, ar ddyddiad gwneud y rheoliadau hyn, hyd yn hyn wedi cael dyddiad penodedig iddynt ddod i rym: gweler adran 14 o Ddeddf 1999. Yn yr un modd, nid yw'r mewnosodiadau a'r diwygiadau a wneir gan y Ddeddf wedi cael dyddiad penodedig hyd yn hyn iddynt ddod i rym: gweler adran 122 o'r Ddeddf.back

[6] Mae adran 113(3B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn darparu bod swydd yn dod o'i mewn os yw'n swydd o'r disgrifiad hwnnw sydd wedi'i ragnodi o dan baragraff (d) ynddi (yn Neddf 1997 ystyr "wedi'i ragnodi" yw "wedi'i ragnodi gan reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol": gweler adran 125). Mae adran 113 (3A) yn darparu bod rhaid i dystysgrifau a roddir mewn ymateb i geisiadau a wneir yn briodol am dystysgrifau cofnodion troseddol o dan adran 113 sy'n datgan bod angen am y dystysgrif er mwyn ystyried addasrwydd y ceiswyr am swydd o fewn adran 113(3B) ddatgan a yw'r ceisydd, ymhlith pethau eraill, wedi'i gynnwys ar y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14) (Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr).back

[7] Mae adran 91(2) o'r Ddeddf yn darparu y bydd unigolyn o ddisgrifiad rhagnodedig yn "unigolyn perthnasol" at ddibenion adran 91(1) (ystyr "rhagnodedig" yw "wedi'i ragnodi gan reoliadau": gweler adran 121(1) o'r Ddeddf; mae rheoliadau o dan adran 91(2) i'w gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol: gweler adran 80(8) o'r Ddeddf). Mae adran 91(1) o'r Ddeddf yn darparu bod gan berson sy'n ceisio darganfod a yw unigolyn perthnasol wedi'i gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 81 (Dyletswydd yr Ysgrifennydd Gwladol i gadw rhestr o unigolion yr ystyrir nad ydynt yn addas i weithio gydag oedolion hawdd eu niweidio) hawl i'r wybodaeth honno, cyn cychwyn adran 90 o'r Ddeddf (Archwiliadau o'r rhestr o dan Ran V o Ddeddf yr Heddlu 1997), drwy wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae adran 90 yn darparu i geisiadau i gael gweld y rhestr a gedwir o dan adran 81 gael eu gwneud ar y cyd â cheisiadau i gael gweld rhestrau gwybodaeth eraill a gedwir am unigolion.back

[8] Mae adran 113(3D) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (p.50) yn darparu bod swydd yn dod o'i mewn os yw'n swydd o'r disgrifiad hwnnw sydd wedi'i ragnodi o dan baragraff (b) ynddi (yn Neddf 1997 ystyr "wedi'i ragnodi" yw "wedi'i ragnodi gan reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol": gweler adran 125). Mae adran 113(3C) yn darparu bod rhaid i dystysgrifau a roddir mewn ymateb i geisiadau a wneir yn briodol am dystysgrifau cofnodion troseddol o dan adran 113 sy'n datgan bod angen am y dystysgrif er mwyn ystyried addasrwydd y ceiswyr am swydd o fewn adran 113(3D) ddatgan a yw'r ceisydd, ymhlith pethau eraill, wedi'i gynnwys ar y rhestr a gedwir o dan adran 81 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.back

[9] 1983 p.41.back

[10] Diwygiwyd adran 5 gan y darpariaethau canlynol: adran 22 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 1976 (p.52) a pharagraffau 20(4),(5) a 21 o Atodlen 9 iddi; adran 83(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (yr Alban) 1980 (p.62) a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi; adran 28 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 1981 (p.55) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi; adrannau 77 a 78 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48) a pharagraffau 36(a),(b) a 37 o Atodlen 14 ac Atodlen 16 iddi; adran 65(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Diwygio) 1982 (p.51) a pharagraff 49 o Atodlen 3 iddi; adran 148 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20) a pharagraff 39 o Atodlen 4 iddi; adran 123(6) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) a pharagraff 9(a),(b) o Atodlen 8 iddi; adran 108(7) o Ddeddf Plant 1989 (p.41) ac Atodlen 15 iddi; adran 26 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 1991 (p.29) ac Atodlen 3 iddi; adrannau 68 a 101(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53) a pharagraff 5 o Atodlen 8 a pharagraff 22 o Atodlen 12 iddi; adran 168(1),(2),(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33), paragraff 11(1)(a),(b),(c), (2) o Atodlen 9 iddi a pharagraff 30 o Atodlen 10 iddi; adran 105(4) o Ddeddf Plant (yr Alban) 1995 (p.36) a pharagraff 23(3) o Atodlen 4 iddi ; adran 119 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37) a pharagraff 35 o Atodlen 8 iddi; adran 67(1) o Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999 (p.23) a pharagraff 6(1),(2),(3) o Atodlen 4 iddi; adran 165(1) o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p.6) a pharagraff 48 o Atodlen 9 iddi; adran 74 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys (p.43) a pharagraffau 48 a 49(a),(b) o Atodlen 7 iddi.back

[11] 1933 p.12. Diwygiwyd yr Atodlen gan adrannau 48 a 51 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol 1956 (p.69) ac Atodlenni 3 a 4 iddi a chan adran 170 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) a pharagraffau 8 a 9 o Atodlen 15 iddi.back

[12] 1999 p.14.back

[13] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090271 8


  Prepared 19 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012136w.html