BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012196w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2196 (Cy. 156) (C. 72)

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 12 Mehefin 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 12(2) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000.

Y Diwrnod Penodedig
    
2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yw 1 Gorffennaf 2001.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2001



YR ATODLEN
Erthygl 2


DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 Gorffennaf 2001


Adran 1 (Hawl gofalwyr i gael asesiad)

Adran 2 (Gwasanaethau i ofalwyr)

Adran 4 (Asesiadau a gwasanaethau i'r gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal)

Adran 5 (Taliadau uniongyrchol)

Adran 6 (Asesiadau: personau sydd â gofal rhieni dros blant anabl)

Adran 7(1) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 17A yn Neddf Plant 1989, ac adran 7(2) a (3) (Taliadau uniongyrchol i blant anabl ac i bersonau â chyfrifoldeb rhiant drostynt)

Adran 8 (Codi tâl)

Adran 9 ac eithrio i'r graddau y mae'r darpariaethau a fewnosodir ganddi yn cyfeirio at ddarparu talebau (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)

Adran 10 (Darpariaeth ariannol)

Adran 11 ac eithrio is-adran (4) (Dehongli a rheoleiddio).



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 ("y Ddeddf") i rym ar 1 Gorffennaf 2001 mewn perthynas â Chymru.

Mae'n dwyn i rym adran 1 sy'n creu hawl i ofalwyr (fel y'u diffinnir yn yr adran hon) gael asesiad; adran 2 sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau i ofalwyr; adran 4 sy'n diwygio Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995[
3] er mwyn caniatáu asesiad o dan adrannau 1 neu 6 o'r Ddeddf i gael eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud asesiad o dan Ddeddf 1995; adran 5 sy'n diwygio Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996[4] er mwyn caniatáu taliadau uniongyrchol i gael eu gwneud i ofalwyr (fel y'u diffinnir yn adran 1) am wasanaethau gofalwyr (fel y'u diffinnir yn adran 2); adran 6 sy'n creu hawl i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl i gael asesiad; adran 7(1) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 17A yn Neddf Plant 1989[5] sy'n caniatáu i daliadau uniongyrchol gael eu gwneud i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl ac i blant anabl 16 oed a 17 oed, ac adran 7(2) a (3).

Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym adrannau 8 i 11 (yn gynhwysol) (ac eithrio i'r graddau y mae'r darpariaethau a fewnosodir gan adran 9 yn cyfeirio at ddarparu talebau, ac adran 11(4) sy'n cyfeirio at reoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol), sy'n cynnwys darpariaeth o ran codi tâl am wasanaethau gofalwyr, mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, darpariaeth ariannol a dehongli ac o ran defnyddio pwerau gwneud rheoliadau.

Dyma'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i gael ei wneud o dan y Ddeddf mewn perthynas â Chymru. Mae darpariaethau penodol o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2001 Rhif 510 (C.20).


Notes:

[1] 2000 p.16.back

[2] 1998 p.38.back

[3] 1995 p.12.back

[4] 1996 p.30.back

[5] 1989 p.41.back



English version



ISBN 0 11090266 1


  Prepared 16 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012196w.html