BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012280w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2280 (Cy.170)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 21 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 82(2) a 105(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

Y cod ymddygiad ar gyfer cyflogai cymwys i awdurdod perthnasol
     3. Mae'r cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth gyflogai cymwys i awdurdod perthnasol wedi'i nodi yn yr Atodlen sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001



ATODLEN
Erthygl 3


COD YMDDYGIAD AR GYFER CYFLOGEION CYMWYS AWDURDODAU PERTHNASOL YNG NGHYMRU


Egwyddorion Cyffredinol
     1. Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl y safonau ymddygiad uchaf oddi wrth bob cyflogai cymwys[
6] yn yr awdurdodau perthnasol[7]. Rôl cyflogeion o'r fath yw gwasanaethu'r awdurdod sy'n eu cyflogi wrth iddo roi cyngor, rhoi ei bolisïau ar waith a chyflwyno gwasanaethau i'r gymuned leol. Wrth gyflawni eu dyletswyddau, rhaid iddynt weithredu yn union, yn onest, yn ddiduedd ac yn wrthrychol.

Atebolrwydd
     2. Mae cyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol yn gweithio i'r awdurdod sy'n eu cyflogi ac yn gwasanaethu'r cyfan o'r awdurdod hwnnw. Maent yn atebol i'r awdurdod hwnnw ac mae arnynt ddyletswydd tuag ato. Rhaid iddynt weithredu yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y Cod hwn, gan gydnabod dyletswydd holl gyflogeion y sector cyhoeddus i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yn rhesymol ac yn unol â'r gyfraith.

Amhleidioldeb Gwleidyddol
     3. Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol, p'un a ydynt o dan gyfyngiad gwleidyddol[8] neu beidio, ddilyn holl bolisïau'r awdurdod sydd wedi'u mynegi'n gyfreithlon a rhaid iddynt beidio â chaniatáu i'w barn bersonol neu wleidyddol hwy eu hunain ymyrryd â'u gwaith. Os yw'r cyflogeion cymwys o dan gyfyngiad gwleidyddol (oherwydd y swydd sydd ganddynt, natur y gwaith a wnânt, neu'r cyflog a delir iddynt), rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau statudol ar eu gweithgareddau gwleidyddol.

Cysylltiadau ag aelodau, y cyhoedd a chyflogeion eraill
     4. Mae cyd-barch rhwng cyflogeion cymwys ac aelodau yn hanfodol ar gyfer llywodraeth leol dda, a dylai perthnasoedd gwaith gael eu cadw ar sail broffesiynol.

     5. Dylai cyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol ymdrin â'r cyhoedd, aelodau a chyflogeion eraill gyda chydymdeimlad, yn effeithlon ac yn ddiduedd.

Cydraddoldeb
     6. Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol gydymffurfio â pholisïau sy'n ymwneud â materion cydraddoldeb, fel y cytunir arnynt gan yr awdurdod, yn ychwanegol at ofynion y gyfraith.

Stiwardiaeth
     7. Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol sicrhau eu bod yn defnyddio'r cronfeydd cyhoeddus a ymddiriedir iddynt mewn modd cyfrifol a chyfreithlon, a rhaid iddynt beidio â defnyddio eiddo, cerbydau na chyfleusterau eraill yr awdurdod at ddibenion personol oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi i wneud hynny.

Buddiannau Personol
     8. Er mai mater iddynt hwythau yn unig yw bywyd preifat cyflogeion cymwys, rhaid iddynt beidio â chaniatáu i'w buddiannau preifat wrthdaro â'u dyletswydd gyhoeddus. Rhaid iddynt beidio â chamddefnyddio'u safle swyddogol na gwybodaeth a sicrheir yng nghwrs eu cyflogaeth i hybu eu buddiannau preifat, na buddiannau pobl eraill. Yn benodol, rhaid iddynt gydymffurfio â'r canlynol:

    (1) unrhyw reolau sydd gan eu hawdurdod perthnasol bod rhaid i gyflogeion gofrestru a datgan buddiannau ariannol a buddiannau anariannol,

    (2) unrhyw reolau sydd gan eu hawdurdod perthnasol bod rhaid i gyflogeion ddatgan lletygarwch neu roddion a gynigiwyd iddynt neu a gymerwyd ganddynt oddi wrth unrhyw berson neu gorff sy'n gwneud busnes neu'n ceisio gwneud busnes gyda'r awdurdod, neu sy'n manteisio neu'n ceisio manteisio mewn modd arall o gael perthynas â'r awdurdod. Rhaid i gyflogeion cymwys beidio â derbyn buddion oddi wrth drydydd parti oni bai bod eu hawdurdod perthnasol wedi'u hawdurdodi i wneud hynny.

Chwythu'r chwiban
     9. Os digwydd fod cyflogai cymwys yn dod i wybod am weithgareddau y mae'n credu eu bod yn anghyfreithlon, yn amhriodol, yn anfoesol neu fel arall yn anghyson â'r Cod hwn, dylai'r cyflogai roi gwybod am y mater, gan weithredu yn unol â'i hawliau o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998, ac â gweithdrefn yr awdurdod perthnasol ar gyfer rhoi gwybod yn gyfrinachol, neu unrhyw weithdrefn arall sydd wedi'i chynllunio at y diben hwn.

Ymdrin â Gwybodaeth
     10. Bod yn agored wrth ledaenu gwybodaeth ac wrth wneud penderfyniadau a ddylai fod yn arferol yn yr awdurdodau perthnasol. Er hynny, fe all gwybodaeth benodol fod yn gyfrinachol neu'n sensitif ac felly yn amhriodol ar gyfer cynulleidfa ehangach. Os oes angen bod yn gyfrinachol er mwyn diogelu preifatrwydd neu hawliau eraill unigolion neu gyrff, ni ddylai gwybodaeth gael ei rhyddhau i unrhyw un heblaw aelod, cyflogai i'r awdurdod perthnasol neu berson arall y mae ganddynt hawl i'w gael neu y mae angen iddynt gael ei gweld er mwyn cyflawni eu swyddogaethau'n iawn. Ni ellir cymryd bod dim yn y Cod hwn yn drech na'r rhwymedigaethau presennol yn y statudau neu'r gyfraith gyffredin i gadw gwybodaeth benodol yn gyfrinachol, neu i ddatgelu gwybodaeth benodol.

Penodi Staff
     11. Rhaid i gyflogeion cymwys yr awdurdodau perthnasol sy'n ymwneud â recriwtio a phenodi staff sicrhau bod penodiadau'n cael eu gwneud ar sail rhagoriaeth. Er mwyn osgoi unrhyw gyhuddiad posibl o duedd, rhaid i gyflogeion o'r fath beidio ag ymwneud ag unrhyw benodiad, nac unrhyw benderfyniadau eraill sy'n ymwneud â disgyblu, dyrchafu neu dâl ac amodau unrhyw gyflogai arall, neu ddarpar gyflogai, y maent yn perthyn iddynt, neu y mae ganddynt berthynas bersonol agos â hwy y tu allan i'r gwaith.

Ymchwiliadau gan Swyddogion Monitro
     12. Pan fydd swyddog monitro'n cynnal ymchwiliad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 73(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[9], rhaid i gyflogai cymwys gydymffurfio ag unrhyw ofynion a wneir gan y swyddog monitro hwnnw mewn cysylltiad ag ymchwiliad o'r fath.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae adran 82(2) o'r Ddeddf yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy orchymyn, gyhoeddi cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cyflogedig penodol mewn awdurdodau perthnasol yng Nghymru ("y cod ymddygiad").

Awdurdodau perthnasol yw cynghorau cymuned, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac awdurdodau Parc Cenedlaethol ond nid awdurdodau heddlu.

Y gweithwyr cyflogedig i'r awdurdodau perthnasol nad yw'r cod ymddygiad yn gymwys iddynt yw'r rhai sy'n dod o fewn unrhyw ddisgrifiad o weithwyr cyflogedig mewn rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 82(8) o'r Ddeddf.

Yn rhinwedd adran 82(7) o'r Ddeddf, bernir bod telerau penodi neu amodau cyflogi gweithwyr cyflogedig i'r awdurdodau perthnasol y mae'r cod ymddygiad yn gymwys iddynt yn ymgorffori'r cod ymddygiad a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] 1947 p.41.back

[3] 1995 p.25.back

[4] O.S. 2001/2278 (Cy168).back

[5] 1998 p.38.back

[6] Mae cyflogeion yr awdurdodau perthnasol yng Nghymru nad ydynt yn perthyn o fewn unrhyw ddisgrifiad o gyflogai a bennir yn Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/ (Cy. )) yn gyflogeion cymwys.back

[7] Ystyr awdurdod perthnasol, mewn perthynas â Chymru, yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned, awdurdod tân a gyfansoddwyd gan gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 neu awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995.back

[8] Mae cyflogai cymwys sy'n dal swydd sydd o dan gyfyngiad gwleidyddol yn cael ei anghymhwyso rhag dod yn aelod neu rhag parhau yn aelod o awdurdod perthnasol (gweler adrannau 1-3 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 (O.S. 1990/851) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Cymru) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/1665)).back

[9] Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/ 2281 (Cy.171)).back



English version



ISBN 0 11090292 0


  Prepared 1 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012280w.html