BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012286w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2286 (Cy. 174 )

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001

  Wedi'i wneud 21 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 70(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001 a daw i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys yng Nghymru yn unig.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn  - 

Cymhwyso darpariaethau Deddf 2000
     2. At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny - 

Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau
    
3. At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a welir yn yr Atodlen honno.

Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 1974 gydag addasiadau
    
4. At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau Deddf 1974 fel y'u rhestrir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a welir yn yr Atodlen honno.

Y Gyfraith Ddifenwi
    
5.  - (1) At ddibenion y gyfraith ddifenwi, bydd gan unrhyw ddatganiad (boed mewn ysgrifen neu ar lafar) a wneir gan swyddog dynodedig mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan Ran III o Ddeddf 2000 fraint absoliwt.

    (2) Ystyr "swyddog dynodedig" ym mharagraff (1) yw unrhyw berson a ddynodwyd yn ysgrifenedig gan Gomisiynydd Lleol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001



Atodlen 1
Erthygl 2


Cymhwyso Darpariaethau Deddf 2000


Yr adran neu'r paragraff Y pwnc
adran 60(1), (4) a (5 Ymchwilio
adran 61 Y weithdrefn mewn perthynas ag ymchwiliadau
adran 62(1), (2), (3), (5), (6), (8), (9), (10), (11) Darpariaethau pellach mewn perthynas ag ymchwiliadau
adran 63(3) Cyfyngiadau ar datgelu gwybodaeth



Atodlen 2
Erthygl 3


Cymhwyso Darpariaethau yn Neddf 2000 gydag Addasiadau


Adran 60(6)
     1. Bydd adran 60(6) o Ddeddf 2000 (Cynnal Ymchwiliadau) yn gymwys fel pe bai  - 

Adran 62(4)
     2. Bydd Adran 62(4) o Ddeddf 2000 (Ymchwiliadau: darpariaethau pellach) yn gymwys fel pe bai  - 

Adran 63(2)
     3. Bydd adran 63(2) o Ddeddf 2000 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai  - 



Atodlen 3
Erthygl 4


Cymhwyso Darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau


Adran 32(2)
Bydd adran 32(2) o Ddeddf 1974 (Y gyfraith ddifenwi a datgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai'r is-baragraff canlynol wedi'i ychwanegu  - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)


O dan adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Deddf 2000), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas ag ymchwiliadau safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno gan Gomisiynydd Lleol yng Nghymru. Ymwneud y mae'r ymchwiliadau hyn ag ymddygiad aelodau neu aelodau cyfetholedig o awdurdod perthnasol yng Nghymru os oes honiad wedi'i wneud neu os gallai fod yna achos o fethu ag ymdrin â chod ymddygiad awdurdod.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymhwyso adrannau 60 (Cynnal ymchwiliadau), 61 (Y weithdrefn mewn perthynas ag ymchwiliadau), 62 (Ymchwiliadau: darpariaethau pellach) a 63 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) at ymchwiliadau safonau. Mae'n cymhwyso'r adrannau hyn (gydag addasiadau mewn rhai achosion) at waith Comisiynydd Lleol yng Nghymru.

Mae Erthygl 2 (drwy gyfeirio at Atodlen 1 o'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(1), (4) a (5), 61, 62(1), (2), (3), (5), (6), (8), (9), (10) ac (11) a 63(3) o Ddeddf 2000 at ymchwiliadau Comisiynydd o dan adran 69.

Mae Erthygl 3 (drwy gyfeirio at Atodlen 2 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(6), 62(4) a 63(2) at ymchwiliadau Comisiynydd o dan adran 69 yn y ffurf wedi'i haddasu a restrir yn Atodlen 2. Mae'r addasiadau'n ymwneud â sut y caiff y darpariaethau eu cymhwyso at Gymru.

Mae Erthygl 4, drwy addasu darpariaethau adran 32(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, sy'n gysylltiedig â datgeliadau gan Gomisiynydd Lleol, yn datgymhwyso'r adran honno mewn perthynas ag ymchwiliad safonau o dan adran 69 o Ddeddf 2000.

Yn rhinwedd Erthygl 5, mae braint absoliwt, at ddibenion y gyfraith ddifenwi, yn cael ei hestyn i ddatganiadau personau a ddynodir gan Gomisiynydd Lleol mewn perthynas â swyddogaethau o dan Ran III o Ddeddf 2000.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] 1974 p.7.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090280 7


  Prepared 26 July 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012286w.html