BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012291w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2291 (Cy.179)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2001 
  Yn dod i rym 28 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13, 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 28 Gorffennaf 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn - 

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod
     2.  - (1) Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.

    (2) Nid yw swyddogaethau - 

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (3) Nid yw swyddogaeth penderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi - 

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (4) Nid yw swyddogaeth - 

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (5) Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun a awdurdodir neu a fynnir gan reoliadau o dan adran 18 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[
5], neu swyddogaeth diwygio, diddymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (6) Nid yw swyddogaethau penderfynu - 

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (7) Ni fydd adran 101 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).

    (8) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 20 (gweithredu swyddogaethau ar y cyd) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nid yw swyddogaeth - 

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (9) Oni ddarperir fel arall gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol a all, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) gael ei gyflawni gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (10) Ym mharagraffau (1) a (9), mae "deddfiad" yn cynnwys deddfiad a gynhwysir mewn Deddf leol neu mewn is-ddeddfwriaeth .

Swyddogaethau a all fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod
     3.  - (1) Fe all y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod (ond nid oes angen iddynt fod felly).

    (2) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag cyflawni'r swyddogaethau hynny a ddirprwyir i weithrediaeth o'r awdurdod.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig
    
4.  - (1) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth - 

rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (3) ("camau paragraff (3)") beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (2) Ac eithrio camau paragraff (3), rhaid i unrhyw swyddogaeth o fath a grybwyllir ym mharagraff (1) fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath.

    (3) Dyma'r camau a ddynodir gan y pararaff hwn - 

    (4) O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw blan, cynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (boed wedi'u cymeradwyo neu wedi'u mabwysiadu, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) - 

    (5) Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), rhaid i swyddogaeth gwneud cais - 

fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (6) Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.

    (7) Rhaid i swyddogaeth gwneud cais o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (8) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni - 

    (9) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth - 

rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (11) ("camau paragraff (11)") fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

    (10) Ac eithrio camau paragraff (11), rhaid i unrhyw swyddogaeth o fath a grybwyllir ym mharagraff (9) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i'r awdurdod.

    (11) Dyma'r camau a ddynodir gan y paragraff hwn - 

Cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth gan awdurdodau
     5.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, heblaw am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod), beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4 - 

    (3) Ym mharagraff (2) ystyr "pwyllgor trosolygu a chraffu perthnasol" yw pwyllgor trosolygu a chraffu i'r awdurdod o dan sylw y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y per i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.

    (4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r dyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2) gyflwyno adroddiad i'r awdurdod y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion - 

    (5) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2001



ATODLEN 1
Rheoliad 2


SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD


(1) (2)
Y Swyddogaeth Y Ddarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol
A. Swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio wlad a thref a rheoli datblygu     
     1. Y per i benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio.

Adrannau 70(1)(a) a (b) a 72 o Ddeddf Cynllunio . Gwlad a Thref 1990 (p.8)[11]
     2. Y per i benderfynu ar geisiadau am ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd o'r blaen.

Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
     3. Y per i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi'i gyflawni.

Adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[12].
     4. Y per i wrthod penderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio.

Adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[13].
     5. Dyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio.

Adrannau 69, 76 a 92 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Erthyglau 8, 10 i 13, 15 i 22 a 25 a 26 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ddatblygu Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) a chyfarwyddiadau a wneir odanynt.
     6. Y per i benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio a wneir gan awdurdod lleol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall.

Adran 316 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (O.S. 1992/1492)[14]).
     7. Y per i wneud penderfyniadau, i roi cymeradwyaethau ac i gytuno ar faterion penodol eraill sy'n ymwneud ag arfer hawliau datblygu a ganiateir.

Rhannau 6, 7, 11, 17, 19, 20, 21 i 24, 30 a 31 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418).
     8. Y per i wneud cytundeb sy'n rheoleiddio datblygu tir neu ddefnyddio tir.

Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
     9. Y per i roi tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon presennol neu arfaethedig.

Adrannau 191(4) a 192(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[15].
     10. Y per i gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Adran 94(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
     11. Y per i roi cydsyniad i arddangos hysbysebion.

Adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992[16]).
     12. Y per i awdurdodi mynd ar dir.

Adran 196A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[17].
     13. Y per i'w gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i ddefnyddio tir.

Adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
     14. Y per i gyflwyno hysbysiad torri rheolau cynllunio, hysbysiad torri amod neu hysbysiad stop.

Adrannau 171C, 187A a 183(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[18].
     15. Y per i roi hysbysiad gorfodi.

Adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[19].
     16. Y per i wneud cais am waharddeb i atal torri rheoli cynllunio.

Adran 187B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[20].
     17. Y per i benderfynu ar geisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 9(1) a 10 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10).
     18. Y ddyletswydd i benderfynu ar amodau y mae hen ganiatadau mwyngloddio, caniatadau cynllunio perthnasol sy'n ymwneud â safleoedd cwsg neu safleoedd gweithredol Rhan I neu II, neu ganiatadau mwynol sy'n ymwneud â safleoedd mwyngloddio, yn ôl fel y digwydd, i fod yn ddarostyngedig iddynt.

Paragraff 2(6)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, paragraff 9(6) o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraff 6(5) o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno.
     19. Y per i'w gwneud yn ofynnol bod tir yn cael ei gynnal yn iawn.

Adran 215(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
     20. Y per i benderfynu ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, a phwerau cysylltiedig. mewn Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9).

Adrannau 16(1) a (2), 17, 27(2) a 33(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Adeiladau
     21. Y per i benderfynu ar geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth.

Adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno[21]).
     22. Dyletswyddau sy'n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth. Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adeiladau

Adrannau 13(1) a 14(1) a (4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth)1990 a rheoliadau 3 i 6 ac 13 o Rhestredig ac Adeiladau mewn Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraff 127 o Gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96 Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol; Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth.
     23. Y per i gyflwyno hysbysiad cadw adeilad, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 3(1) a 4(1) Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
     24. Y per i roi hysbysiad gorfodi mewn perthynas â dymchwel adeilad sydd heb ei restru mewn ardal gadwraeth.

Adran 38 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
     25. Pwerau i gaffael adeilad rhestredig y mae angen ei drwsio a chyflwyno hysbysiad trwsio.

Adrannau 47 a 48 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
     26. Y per i wneud cais am waharddeb mewn perthynas ag adeilad rhestredig.

Adran 44A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth 1990[22].
     27. Y per i wneud gwaith brys.

Adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.
     28. per yn gysylltiedig â gweithio mwynau.

Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
     29. per yn gysylltiedig â llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
     30. per ynghylch tystysgrifo datblygiadau amgen priodol.

Adran 117 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (p.33).
     31. Y per i gyflwyno gorchmynion prynu.

Adrannau 137 - 144 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
     32. Pwerau yn gysylltiedig â gorchmynion malltod.

Adrannau 149 - 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
     33. Y per i awdurdodi codi camfeydd etc ar lwybrau troed neu lwybrau ceffylau.

Adran 147 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66).
B. Swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i'r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy)     
     1. Y per i roi trwyddedau sy'n awdurdodi defnyddio tir yn safle carafanau ("trwyddedau safle").

Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62).
     2. Y per i drwyddedu defnyddio anheddau symudadwy a safleoedd gwersylla.

Adran 269(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49).
     3. Y per i drwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

(a) o ran cerbydau hacni, Deddf Cymalau Heddluoedd Tref 1847 (10 &11 Vict. p.89), fel y'i hestynnwyd gan adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (38 & 39 Vict. p.55), ac adran 15 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p.67); ac adrannau 47, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57);

(b) o ran hurio preifat, adrannau 48, 57, 68, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

     4. Y per i drwyddedu gyrrwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 51, 53, 54, 59, 61 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
     5. Y per i drwyddedu gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 55 i 58, 62 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
     6. Y per i gofrestru hyrwyddwyr pyllau.

Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963 (p.2)[23].
     7. Y per i roi trwyddedau betio ar gyfer traciau.

Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963[24].
     8. Y per i drwyddedu cynlluniau betio ar gyfer traciau ar y cyd â'i gilydd.

Atodlen 5ZA i Ddeddf Betio, Gamblo a Loteriau 1963 [25].
     9. Y per i roi trwyddedau mewn perthynas â safleoedd sydd â pheiriannau chwarae.

Atodlen 9 i Ddeddf Gamblo 1968 (p. 65)[26]).
     10. Y per i gofrestru cymdeithasau sy'n dymuno hybu loterïau.

Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (p. 32)[27].
     11. Y per i roi trwyddedau mewn perthynas â safleoedd lle darperir difyrion â gwobrau.

Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1976 [28]).
     12. Y per i roi trwyddedau sinema a thrwyddedau clybiau sinema.

Adran 1 o Ddeddf Sinemâu 1985 (p. 13).
     13. Y per i roi trwyddedau theatr.

Adrannau 12 i 14 o Ddeddf Theatrau 1968 (p. 54)[29].
     14. Y per i roi trwyddedau adloniant.

Adran 12 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (p. 12), adran 79 o Ddeddf Trwyddedu 1964 (p. 26), adrannau 1 i 5 a 7 o Ddeddf Lleoedd Adloniant Preifat (Trwyddedu) 1967 (p. 19) a Rhannau I a II o'r Atodlen iddi, a Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p. 30) ac Atodlenni 1 a 2 iddi.
     15. Y per i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 2 ac Atodlen 3.
     16. Y per i drwyddedu perfformiadau hypnotiaeth.

Deddf Hypnotiaeth 1952 (p.46).
     17. Y per i drwyddedu safleoedd ar gyfer acwbigiadau, tatws, tyllu clustiau ac electrolysis.

Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.
     18. Y per i drwyddedu cychod pleser a llongau pleser.

Adran 94 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 (p. 53)[30].
     19. Y per i drwyddedu masnachu mewn marchnadoedd ac ar y stryd.

Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac Atodlen 4 iddi.
     20. Y per i drwyddedu caffis nos a siopau prydau parod.

Adran 2 o Ddeddf Tai Lluniaeth Hwyr y Nos 1969 (p. 53)[31].
     21. Y ddyletswydd i gadw rhestr o bersonau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth.

Adrannau 3(1)(b)(ii), 5, 6 ac 11 o Ddeddf Gwenwynau 1972 (p. 66)[32]).
     22. Y per i drwyddedu delwyr helgig a lladd a gwerthu helgig.

Adrannau 5, 6, 17, 18 a 21 i 23 o Ddeddf Hela 1831 (p. 32); adrannau 2 i 16 o Ddeddf Trwyddedu Helgig 1860 (p. 90), adran 4 o Ddeddf Tollau Cartref a Chyllid y Wlad 1883 (p. 10), adrannau 12(3) a 27 o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1874 (p. 73), ac adran 213 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70).
     23. Y per i gofrestru a thrwyddedu safleoedd ar gyfer paratoi bwyd.

Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16).
     24. Y per i drwyddedu iardiau sgrap.

Adran 1 o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 (p.69).
     25. Y per i roi, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch (cyffredinol neu arbennig) ar gyfer meysydd chwaraeon.

Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 (p.52)[33].
     26. Y per i roi, dileu, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch ar gyfer eisteddleoedd rheoledig mewn meysydd chwaraeon.

Rhan III o Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27).
     27. Y per i roi trwyddedau tân.

Adran 5 o Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 (p.40)
     28. Y per i drwyddedu safleoedd ar gyfer bridio cwn.

Adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60) ac adran 1 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999 (p. 11).
     29. Y per i drwyddedu siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau eraill lle caiff anifeiliaid eu bridio neu eu cadw er mwyn cynnal busnes.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p. 35)[34]; adran 1 o Ddeddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliaid 1963(p. 43)[35]; Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 (1964 p. 70 a 1970 p. 70[36]); adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60)[37]), ac adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999.
     30. Y per i gofrestru hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 (p.38)[38].
     31. Y p au.

Adran 1 o Ddeddf Trwyddedu S au 1981 (p.37)[39]).
     32. Y per i drwyddedu anifeiliaid gwyllt peryglus.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (p.38).
     33. Y per i drwyddedu iardiau naceriaid.

Adran 4 o Ddeddf Lladd-dai 1974. Gweler hefyd Orchymyn Sgîl-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 (O.S. 1999/646).
     34. Y per i drwyddedu cyflogi plant.

Rhan II o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (p.33), is-ddeddfau a wneir o dan y Rhan honno, a Rhan II o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1963 (p.37).
     35. Y per i gymeradwyo safleoedd ar gyfer gweinyddu priodasau.

Rhan 46A o Ddeddf Priodasau 1949 (p. 76) a Rheoliadau Priodasau (Safleoedd a Gymeradwywyd) 1995 (O.S. 1995/510)[40].
     36. Y per yn arferadwy ar gyfer rhoi effaith i'r canlynol yn unig - 

    (a) cyfnewid tiroedd y mae gorchymyn o dan adran 19(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p.67) neu baragraff 6(4) o Atodlen 3 iddi yn effeithio arnynt; neu

    (b) gorchymyn o dan adran 147 o Ddeddf Amgáu Tiroedd 1845 (p. 8 a 9 Vict. p.118).

Rheoliad 6 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tiroedd Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843).
     37. Y per i gofrestru amrywiadau ar hawliau comin.

Rheoliad 29 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471)[41].
     38. Y per i drwyddedu personau i gasglu ar gyfer achosion elusennol ac achosion eraill.

Adran 5 o Ddeddf yr Heddlu, Ffatrïoedd etc. (Darpariaethau Amrywiol) 1916 (p.31) ac adran 2 o Ddeddf Casglu o D 1939 (p. 44)[42]).
     39. Y per i roi cydsyniad ar gyfer gweithredu uchelseinydd.

Atodlen 2 i Ddeddf Sn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).
     40. Y per i roi trwydded ar gyfer gweithfeydd stryd.

Adran 50 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 (p.22).
     41. Y per i drwyddedu asiantaethau ar gyfer cyflenwi nyrsys.

Adran 2 o Ddeddf Asiantaethau Nyrsys 1957 (p.16).
     42. Y per i roi trwyddedau ar gyfer symud moch.

Erthygl 12 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11).
     43. Y per i drwyddedu gwerthu moch.

Erthygl 13 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.
     44. Y per i drwyddedu canolfannau casglu ar gyfer symud moch.

Erthygl 14 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995.
     45. Y per i roi trwydded i symud gwartheg o farchnad.

Erthygl 5(2) o Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871).
     46. Y per i ganiatáu gosod sgip adeiladwr ar briffordd.

Adran 139 o Ddeddf Priffyrdd 1980 .
     47. Y per i drwyddedu plannu, cadw a chynnal coed etc. ar ran o'r briffordd.

Adran 142 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
     48. Y per i drwyddedu gweithfeydd mewn perthynas ag adeiladau etc. sy'n rhwystro'r briffordd.

Adran 169 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
     49. Y per i gydsynio i ollyngiadau neu gloddiadau mewn strydoedd.

Adran 171 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
     50. Y per i hepgor y rhwymedigaeth i godi palis neu ffens.

Adran 172 o o Ddeddf Priffyrdd 1980.
     51. Y per i gyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd.

Adran 178 o o Ddeddf Priffyrdd 1980.
     52. Y per i gydsynio i adeiladu selerydd etc. o dan y stryd.

Adran 179 o Ddeddf Priffyrdd 1980[43].
     53. Y per i gydsynio i wneud agoriadau i selerydd etc. o dan strydoedd, a goleuadau ac awyryddion ar y pafn.

Adran 180 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
     54. Y per i ganiatáu defnyddio rhannau o adeiladau ar gyfer storio selwloid.

Adran 1 o Ddeddf Ffilm Selwloid a Sinematograff 1922 (p.35).
     55. Y per i gymeradwyo safleoedd cynhyrchion cig.

Rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082)[44].
     56. Y per i gymeradwyo safleoedd i gynhyrchu briwgig neu baratoadau cig.

Rheoliad 4 o Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 (O.S. 1995/3205).
     57. Y per i gymeradwyo sefydliadau llaeth.

Rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995(O.S. 1995/1086)[45].
     58. Y per i gymeradwyo sefydliadau cynhyrchion wyau.

Rheoliad 5 o Reoliadau Cynhyrchion Wyau 1993 (O.S. 1993/1520).
     59. Y per i roi trwyddedau i siopau cigyddion manwerthol sy'n cyflawni gweithrediadau masnachol mewn perthynas â chig amrwd sydd heb ei lapio ac sy'n gwerthu neu'n cyflenwi cig amrwd a bwydydd sy'n barod i'w bwyta.

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3341)[46]).
     60. Y per i gymeradwyo safleoedd cynhyrchion pysgod.

Rheoliad 24 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998 (O.S. 1998/994).
     61. Y per i gymeradwyo canolfannau dosbarthu neu ganolfannau puro.

Rheoliad 11 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.
     62. Y per i gofrestru llongau pysgota y mae perdys neu fwlysgiaid yn cael eu coginio arnynt.

Rheoliad 21 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.
     63. Y per i gymeradwyo llongau ffatri a sefydliadau cynhyrchion pysgodfeydd.

Rheoliad 24 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998.
     64. Y per i gofrestru marchnadoedd ocsiwn a marchnadoedd cyfanwerthu.

Rheoliad 26 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw (Hylendid) 1998.
     65. Y ddyletswydd i gadw cofrestr o safleoedd busnesau bwyd.

Rheoliad 5 o Reoliadau Safleoedd Bwyd (Cofrestru) 1991 (O.S. 1991/2828).
     66. Y per i gofrestru safleoedd busnesau bwyd.

Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16) a Rheoliad 9 o Reoliadau Safleoedd Bwyd (Cofrestru) 1991.
C. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith     
Swyddogaethau o dan unrhyw un o'r "darpariaethau statudol perthnasol" o fewn ystyr Rhan I (iechyd, diogelwch a lles mewn cysylltiad â gwaith, a rheoli sylweddau peryglus) o Ddeddf Iechyd a Diogewlch yn y Gwaith etc. 1974, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu cyflawni heblaw yn rhinwedd swyddogaeth yr awdurdod fel cyflogwr. Rhan I o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 (p. 37)[47].
CH. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau     
     1. Y ddyletswydd i benodi swyddog cofrestru etholiadol.

Adran 8(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2)[48].
     2. Y per i ddyrannu swyddogion mewn perthynas ag angenrheidiau'r swyddog cofrestru.

Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
     3. Y per i ddileu cynghorau cymuned.

Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     4. Y per i wneud gorchmynion ar gyfer grwpio cymunedau.

Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     5. Y per i wneud gorchmynion i ddileu grwpiau a gwahanu cynghorau cymuned oddi wrth grwpiau.

Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     6. Y ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

Adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
     7. Y ddyletswydd i roi cymorth yn etholiadau'r Senedd Ewropeaidd.

Paragraff 4(3) a (4) o Atodlen 1 i Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 1978 (p. 10)[49].
     8. Y ddyletswydd i rannu'r etholaeth yn rhanbarthau pleidleisio.

Adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
     9. Y per i rannu adrannau etholiadol yn rhanbarthau pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.

Adran 31 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
     10. Pwerau mewn perthynas â chynnal etholiadau.

Adran 39(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
     11. Y per i dalu costau a dynnir yn briodol gan swyddogion cofrestru etholiadol.

Adran 54 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
     12. Y per i lenwi lleoedd gwag os na cheir digon o enwebiadau.

Adran 21 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985.
     13. Y ddyletswydd i ddatgan bod yna le gwag mewn swydd mewn rhai achosion.

Adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     14. Y ddyletswydd i roi hysbysiad cyhoeddus o le gwag achlysurol.

Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     15. Y per i wneud penodiadau dros dro i gynghorau cymuned.

Adran 91 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     16. Y per i benderfynu ffioedd ac amodau ar gyfer rhoi copïau o ddogfennau etholiadol neu ddarnau allan ohonynt.

Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) a Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (O.S. 1986/2215).
     17. Y per i gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gorchymyn o dan adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2).
     18. Swyddogaethau etholiadol amrywiol o dan Ran II, OS 1999/450.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999, OS 1999/450.
D. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag enw a statws ardaloedd ac unigolion     
     1. Y per i newid enw sir, neu enw bwrdeistref sirol

Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     2. Y per i newid enw cymuned.

Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     3. Y per i roi teitl henadur mygedol neu i dderbyn rhywun yn henadur mygedol.

Adran 249 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     4. Y per i ddeisebu o blaid siarter i roi statws bwrdeistref sirol.

Adran 245A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
DD. Y per i wneud, diwygio, diddymu neu ail-ddeddfu is-ddeddfau Unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys Deddf leol), pryd bynnag y cafodd ei phasio, ac Adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30)[50].
E. Y per i hybu neu i wrthwynebu Mesruau lleol neu bersonol. Adran 239 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
F. Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.     
     1. Swyddogaeth sy'n ymwneud â phensiynau llywodraeth leol, etc.

Rheoliadau o dan adran 7, 12 neu 24 o Ddeddf Blwydd-dâl 1972 (p. 11)[51].
     2. Swyddogaethau o dan Gynllun Pensiwn Dynion Tân sy'n ymwneud â phensiynau, etc, mewn perthynas â phersonau a gyflogir yn aelodau o frigadau tân a gynhelir yn unol ag adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947.

Adran 26 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947 (10 ac 11 Geo.6 p. 41)[52].
FF. Swyddogaethau amrywiol     
     1. Y per i greu llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adrannau 25 a 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66).
     2. Y per i gau llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
     3. Y per i wyro llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
     4. Y ddyletswydd i ddatgan a diogelu hawliau i'r cyhoedd ddefnyddio a mwynhau priffyrdd.

Adran 130 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
     5. Pwerau sy'n ymwneud â symud pethau a ollyngwyd ar briffyrdd mewn modd sy'n eu gwneud yn niwsans.

Adran 149 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
     6. Y ddyletswydd i barhau i adolygu map a datganiad diffiniol.

Adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).
     7. Y ddyletswydd i ailddosbarthu ffyrdd a ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus.

Adran 54 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
     8. Y ddyletswydd i gymeradwyo datganiad awdurdod o'i gyfrifon, ei incwm, a'i wariant a'i fantolen neu ei gofnod o dderbyniadau a thaliadau (yn ôl fel y digwydd).

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 (O.S. 1996/590)[53].
     9. Swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd môr.

Adrannau 1, 2, 10 a 19 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966(p. 38).
     10. Pwerau sy'n ymwneud â chadw coed.

Adrannau 197 i 214D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Coed 1999 (OS. 1999/1892).
     11. Pwerau sy'n ymwneud â diogelu gwrychoedd pwysig.

Rheoliadau Gwrychoedd 1997 (O.S. 1997/1160).
     12. Y per i wneud gorchymyn calchbalmant.

Adran 34(2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69).
     13. Y per i wneud rheolau sefydlog.

Adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[54] a pharagraff 42 i Atodlen 12 iddi.
     14. Y per i benodi staff.

Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     15. Y per i wneud rheolau sefydlog ynghylch . contractau

Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
     16. Y per i ystyried adroddiadau anffafriol gan y Comisiynydd Lleol .

Adran 31A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.



ATODLEN 2
Rheoliad 3


SWYDDOGAETHAU A ALL FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD (OND NAD OES ANGEN IDDYNT FOD FELLY)


     1. Unrhyw swyddogaeth a dan Ddeddf leol heblaw swyddogaeth a bennir neu y cyfeirir ati yn Atodlen 1.

     2. Dyfarnu ar apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod neu ar ei ran.

     3. Penodi byrddau adolygu o dan reoliadau o dan is-adran (4) o adran 34 (dyfarnu ar geisiadau ac adolygiadau) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1998[
55].

     4. Gwneud trefniadau yn unol ag is-adran (1) o adran 67 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau yn erbyn gwahardd disgyblion) ac Atodlen 18 iddi.

     5. Gwneud trefniadau yn unol ag adran 94(1) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau derbyn) ac Atodlen 24 iddi.

     6. Gwneud trefniadau yn unol ag adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (plant y mae adran 87 yn gymwys iddynt: apelau gan gyrff llywodraethu) ac Atodlen 25 iddi.

     7. Gwneud trefniadau o dan adran 20 (cwestiynau ynghylch materion yr heddlu mewn cyfarfodydd cyngor) o Ddeddf yr Heddlu 1996[56] i ganiatáu gofyn cwestiynau ynghylch cyflawni swyddogaethau awdurdod heddlu.

     8. Gwneud penodiadau o dan baragraffau 2 i 4 (penodi aelodau gan gynghorau perthnasol) o Atodlen 2 (awdurdodau heddlu a sefydlir o dan adran 3) i Ddeddf yr Heddlu 1996.

     9. Cynnal adolygiadau'r gwerth gorau yn unol â darpariaethau unrhyw orchymyn sy'n dwyn effaith am y tro o dan adran 5 (adolygiadau'r gwerth gorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 [57].

     10. Unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â thir halogedig[58]).

     11. Cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer[59].

     12. Cyflwyno hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol[60]).

     13. Pasio cynnig y dylai Atodlen 2 i Ddeddf Sn a Niwsans Statudol 1993 fod yn gymwys yn ardal yr awdurdod[61].

     14. Archwilio ardal yr awdurdod i ddod o hyd i unrhyw niwsans statudol[62].

     15. Ymchwilio i unrhyw gyn ynghylch bodolaeth niwsans statudol[63]).

     16. Sicrhau gwybodaeth o dan adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[64] ynghylch buddiannau mewn tir.

     17. Sicrhau manylion personau sydd â buddiant mewn tir o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976[65]).

     18. Gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd[66].

     19. Penodi unrhyw unigolyn - 

a diddymu unrhyw benodiad o'r fath.

     20. Y per i wneud taliadau neu i ddarparu manteision eraill mewn achosion o gamweinyddu etc[67].

     21. Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.



ATODLEN 3
Rheoliad 4(1)


SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD YN UNIG


(1) (2)
Cynlluniau a strategaethau Cyfeiriad
Cynlluniau Cymorth Ymddygiad Adran 527A o Ddeddf Addysg 1996
Cynllun Perfformiad y Gwerth Gorau Adran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27)
Cynllun Gwasanaethau Plant Paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (p.41)
Cynllun Gofal Cymunedol Adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19)
Strategaeth Gymunedol Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)
Strategaeth i Ostwng Troseddau ac Anhrefn Adrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37)
Cynllun Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar Adran 120 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynllun Strategol Addysg Adran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynllun Gwasanaethau Gorfodi'r Gyfraith Bwyd     
Cynllun Trafnidiaeth Lleol Adran 92 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000
Cynllun Trefniadaeth Ysgolion Adran 26 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun Datblygu Adran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
Cynllun Iaith Gymraeg Adran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993
Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Adran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37)



ATODLEN 4
Rheoliad 5


AMGYLCHIADAU NAD YW SWYDDOGAETHAU I FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD ODANYNT


(1) (2)
Y Swyddogaeth Yr Amgylchiadau
     1. Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (boed statudol neu anstatudol), heblaw cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun neu strategaeth y cyfeirir atynt yn Atodlen 3.

Mae'r awdurdod yn dyfarnu y dylai'r penderfyniad a ddylai'r cynllun neu'r strategaeth gael eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo gael ei gymryd ganddynt hwy.
     2. Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth - 

    (a) sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a

    (b) sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu eu benthyciadau neu eu gwariant cyfalaf.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno - 

    (a) o blaid dyfarnu ar y mater yn groes i'r canlynol neu heb fod yn gyfan gwbl unol â hwy - 

      (i) cyllideb yr awdurdod; neu

      (ii) y cynllun neu'r strategaeth sydd am y tro wedi'u cymeradwyo neu wedi'u mabwysiadu gan yr awdurdod mewn perthynas â'u benthyciadau neu eu gwariant cyfalaf; a

    (b) heb ei awdurdodi o dan drefniadau gweithrediaeth yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny.

     3. Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth - 

    unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf

    (a) sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf

    (b) y mae cynllun neu strategaeth (boed statudol neu anstatudol ) wedi'u mabwysiadu neu wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdod mewn perthynas â hi.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a honno o blaid dyfarfnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl fel y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth o'r awdurdod (sy'n gorfod bod yn un o'r maeth a bennir yn adran 11(2) i (5) o'r Ddeddf), oni bai bod y swyddogaethau hynny wedi'u pennu fel swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodol yn unig.

Mae Rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw'r swyddogaethau sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 1 ("swyddogaethau Atodlen 1") i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.

Mae rheoliad 2(2) yn darparu nad yw swyddogaeth gosod amodau, terfynau, cyfyngiadau neu delerau eraill ar unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir neu a roddir wrth arfer swyddogaethau Atodlen 1, na swyddogaethau o dan Ddeddf leol (oni bai bod y gymeradwyaeth, y cydsyniad, y drwydded, y caniatâd neu'r cofrestriad wedi'u caniatáu neu wedi'u rhoi yn yr achos hwnnw gan weithrediaeth awdurdod), i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.

Mae Rheoliad 2(3) yn darparu nad yw swyddogaeth penderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi pan dorrir cymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir neu a roddir wrth arfer swyddogaethau Atodlen 1, na swyddogaethau o dan Ddeddf leol (oni bai bod y gymeradwyaeth, y cydsyniad, y drwydded, y caniatâd neu'r cofrestriad wedi'u caniatáu neu wedi'u rhoi yn yr achos hwnnw gan weithrediaeth awdurdod), nac ym mha fodd y dylid eu gorfodi, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod. Darperir hefyd nad yw swyddogaeth penderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi yn erbyn toriadau eraill, mewn perthynas â materion y dylai cais fod wedi'i wneud mewn perthynas â hwy am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod os gallai'r gymeradwyaeth, y cydsyniad, y drwydded, y caniatâd neu'r cofrestriad fod wedi'u caniatáu wrth arfer swyddogaethau Atodlen 1.

Mae rheoliad 2(4) yn darparu nad yw swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad y mae rheoliad 2(2) yn gymwys iddo i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.

Mae rheoliad 2(5) yn darparu nad yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun a awdurdodir neu a fynnir gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol) na swyddogaeth diwygio, diddymu, neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.

Mae rheoliad 2(6) yn darparu nad yw swyddogaeth penderfynu ar swm amrywiol lwfansau sy'n daladwy i aelodau awdurdodau lleol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ("Deddf 1972"), yn ôl pa gyfraddau y telir taliadau penodol o dan y Ddeddf honno fel lwfansau, y symiau sy'n daladwy o dan gynlluniau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a chyfraddau'r taliadau o dan gynlluniau o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod. Darperir hefyd nad yw swyddogaeth penderfynu a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir neu a roddir wrth arfer swyddogaethau Atodlen 1, na swm unrhyw dâl o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.

Effaith rheoliad 2(7) yw atal awdurdod rhag trefnu i'r swyddogaethau a bennir yn rheoliad 2(5) neu (6) (a) i (c) gael eu cyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog. (Gall swyddogaethau eraill y cyfeirir atynt yn rheoliad 2 nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod gael eu cyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r awdurdod o dan drefniadau o dan adran 101 o Ddeddf 1972.)

Gydag un eithriad, mae rheoliad 2(8) yn darparu nad yw gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 a phenodi Pwyllgorau o dan adran 102 o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod. Mae'r eithriad yn ymwneud â darpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, a all ganiatáu i weithrediaeth awdurdod wneud penodiadau o dan adran 102 o Ddeddf 1972.

Onid yw hynny'n cael ei ganiatáu gan ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau, mae paragraff (9) o reoliad 2 yn darparu mai dim ond awdurdod a gaiff gyflawni unrhyw swyddogaeth arall sydd, yn rhinwedd unrhyw Ddeddf Seneddol neu is-ddeddfwriaeth ac nad yw i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.

Mae rheoliad 3(1) yn darparu y caiff y swyddogaethau a grybwyllir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod (ond nad oes angen iddynt fod felly).

Mae paragraffau (1) i (3) o reoliad 4 yn dyrannu'r cyfrifoldeb dros amrywiol agweddau ar swyddogaethau sy'n ymwneud â llunio a pharatoi cynlluniau a strategaethau, o'r disgrifiadau a bennir yn Atodlen 3, rhwng awdurdod a'u gweithrediaeth. Maent hefyd yn gymwys i gynlluniau a strategaethau eraill y mae eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo yn fater ar gyfer penderfyniad yr awdurdod eu hunain yn unol â rheoliad 5(1). Mae paragraff (4) o Reoliad 4 yn dyrannu'r cyfrifoldeb dros ddiwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu'r cynlluniau a'r strategaethau a bennir yn Atodlen 3. Mae paragraffau (5) i (7) o reoliad 4 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â swyddogaethau sy'n ymwneud â gwaredu tir tai awdurdod.

Os nad yw agwedd ar swyddogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1), (4) neu (5) o reoliad 4 i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod, effaith paragraff (8) o'r rheoliad hwnnw yw na chaiff yr awdurdod drefnu iddi gael ei chyflawni gan unrhyw un o bwyllgorau, is-bwyllgorau neu swyddogion yr awdurdod.

Mae paragraffau (9) i (11) o reoliad 4 yn dyrannu'r cyfrifoldeb dros amrywiol agweddau ar swyddogaethau sy'n ymwneud â'r dreth gyngor, praeseptau a chyfrifiadau eraill o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. I'r graddau y mae'r swyddogaeth yn ymwneud â pharatoi a diwygio amcangyfrifon a symiau eraill i gael eu hystyried gan awdurdod, mae'r swyddogaeth i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod. Mae agweddau eraill ar y swyddogaeth, megis pennu swm treth gyngor am flwyddyn ariannol, i fod yn gyfrifoldeb i'r awdurdod.

Mae rheoliad 5(1) ac atodlen 4 yn pennu'r amgylchiadau lle nad yw swyddogaethau penodol, a fyddai fel arall yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath. Rhestrir yr amgylchiadau yng ngholofn (2) o Atodlen 4, a'r swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy yng ngholofn (1). Darperir eithriad yn rheoliad 5(2) ar gyfer dyfarniadau penodol y mae angen eu gwneud ar frys. Yn yr achosion hyn, dim ond gyda chytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan gadeirydd pwyllgor drosolygu a chraffu perthnasol (a ddiffinnir yn rheoliad 5(3)), neu, o dan amgylchiadau penodedig, cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan gadeirydd neu is-gadeirydd yr awdurdod y gall y dyfarniad gael ei wneud gan weithrediaeth yr awdurdod. Mae rheoliad 5(4) yn ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo gyflwyno adroddiad i'r awdurdod ar y camau a gymerwyd.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] 1972 p.70.back

[3] 1998 p.31.back

[4] O.S. 1990/1553. Diwygiwyd rheoliad 4 gan O.S. 1998/1918.back

[5] 1989 p.42. Diwygiwyd adran 18 gan adran 99(3) i (9) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back

[6] Diwygiwyd adran 173(4) gan Ddeddf Llywodraeth Lleol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 11, paragraff 26. Gwnaed eithriad perthnasol gan erthygl 3(2) o Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cychwyn Rhif 11 ac Eithriadau) 1991 (OS 1991/344).back

[7] 1993 p.28, y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[8] 1985 p.68. Gwnaed diwygiadau perthnasol, yn is-adran (3) o adran 32 ac is-adran (1)(a) o adran 43, gan baragraff 3(a), (d) ac (e) o'r Atodlen i O.S. 1997/74.back

[9] 1992 p.14; mewnosodwyd adrannau 52I, 52J, 52T a 52U gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27) Atodlen 1, paragraff 1.back

[10] 1998 p.38.back

[11] Adran 70(1)(a) a (b) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).back

[12] Mewnosodwyd adran 73A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), Atodlen 7, paragraff 8.back

[13] Mewnosodwyd adran 70A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, adran 17.back

[14] Amnewidiwyd adran 316 gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1982 a 1998/2800.back

[15] Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan adran 10 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back

[16] O.S. 1992/666, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[17] Mewnosodwyd adran 196A gan adran 11 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. I gael yr amgylchiadau y gall yr hawl gael ei harfer odanynt, gweler adrannau 196A i 196C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.back

[18] Mewnosodwyd adrannau 171C a 187A gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Amnewidiwyd is-adrannau (1) i (5A) o adran 183 gan adran 9 o Ddeddf Cynllunio Gwlad ac Iawndal 1991.back

[19] Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back

[20] Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back

[21] Gweler hefyd Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adeiladau Rhestredig ac Adeiladau mewn Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519), y ceir diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[22] Mewnosodwyd adran 44A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) Atodlen 3, paragraff 7.back

[23] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[24] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[25] Mewnosodwyd Atodlen 5ZA gan O.S. 1995/3231, erthygl 5(6).back

[26] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[27] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[28] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[29] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adran 204(6) a Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6 paragraff 11 ac Atodlen 34, Rhan VI.back

[30] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, (p.7), Atodlen 6, paragraff 1, adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol, (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57) ac adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65). Amnewidiwyd adran 94(8) gan Orchymyn Dadreoleiddio (Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd) 1997 (O.S. 1997/1187).back

[31] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adran 204(9).back

[32] Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 13(1).back

[33] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Diogelwch Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). Gweler, yn benodol, Ran II o'r Ddeddf honno ac Atodlen 2 iddi.back

[34] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 42 ac Atodlen 8.back

[35] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, Atodlen 6, paragraff 17 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988 (p.29), adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.back

[36] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 35(1) a (2) ac Atodlen 6, paragraff 18 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.back

[37] Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6, Atodlen 34, paragraff 15 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.back

[38] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adrannau 35(1) a (2) a 42, Atodlen 6, paragraff 2(1) ac Atodlen 8.back

[39] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 6, a chan adran 3 o Ddeddf Ddiogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988.back

[40] Mewnosodwyd adran 46A gan adran 1 o Ddeddf Priodasau 1994 (p.34).back

[41] A ddiwygiwyd gan O.S. 1968/658.back

[42] A ddiwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).back

[43] A ddiwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).back

[44] A ddiwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygiadau) 1999 (O.S. 1999/683).back

[45] A ddiwygiwyd gan O.S. 1996/699.back

[46] Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Diogelwch Bwyd yn Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/1763).back

[47] I gael y diffiniad o "y darpariaethau statudol perthnasol" gweler adran 53(1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974. Gweler hefyd y diffiniadau o "the existing statutory provisions" a "health and safety regulations" yn adran 53(1) ac, o ran "health and safety regulations", adran 15(1) o'r Ddeddf honno a amnewidiwyd gan Ddeddf Diogelu Cyflogaeth 1975 (p.71), Atodlen 15, paragraff 5.back

[48] Amnewidiwyd is-adran (4) o adran 52 gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), Atodlen 4.back

[49] A ddeddfwyd yn wreiddiol fel Deddf Etholiadau Cynulliad Ewrop 1978 a'i hailenwi yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p.58). Amnewidiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 1999 (p.1), Atodlen 2.back

[50] Mae adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 yn cael ei chymhwyso at is-ddeddfau a wneir o dan Adran 235 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan adran 22(1) o Ddeddf Dehongli 1978 a pharagraff 3 o Ran 1 o Atodlen 2 iddi.back

[51] O ran adran 7 gweler hefyd adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Diwygiwyd adran 12 o Ddeddf Blwydd-dâl 1972 gan adran 10 o Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7).back

[52] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[53] A wnaed o dan adran 23 (rheoliadau ynghylch cyfrifon) o Ddeddf Cyllid Llyodraeth Leol 1982 (p.32) fel y'i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 (p.18).back

[54] Gweler hefyd adrannau 8 ac 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.back

[55] 1998 p.14. Mae adran 34(4) yn disodli adran 63(3) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992. Mae effaith Rheoliadau Budd-daliadau'r Dreth Gyngor 1992 (O.S. 1992/1814) a Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971), y ceir diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn, yn parhau yn rhinwedd adran 17(2)(b) o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30), er bod adran 63(3) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 wedi'i diddymu.back

[56] 1996 p.16.back

[57] 1999 p.27.back

[58] Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y Rhan honno.back

[59] Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11).back

[60] Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.back

[61] Adran 8 o Ddeddf Sn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).back

[62] Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.back

[63] Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.back

[64] 1990 p.8.back

[65] 1976 p.57.back

[66] Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 (p.22), adran 23.back

[67] Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back



English version



ISBN 0 11 090296 3


  Prepared 6 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012291w.html