BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012500w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2500 (Cy.203)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 1 Awst 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 3(1) a (2) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2001. Bydd yn gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Awst 2001.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993[3] wrth ei gymhwyso i Gymru yn unol â pharagraffau canlynol yr erthygl hon.

    (2) Disodlir erthygl 8(2) gan y canlynol - 

    (3) Disodlir erthygl 17(2), gan y canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 ("Gorchymyn 1993") o'i gymhwyso at Gymru. Mae'n addasu'r gofynion sy'n gymwys i blanhigion penodol sy'n tarddu oddi fewn i barth gwarchod ac yn symud oddi fewn iddo, o fewn yr ystod a ganiateir gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/51/EEC (O.J. L205, 17.8.93, t.24). Mae'r Gyfarwyddeb hon yn sefydlu rheolau dros symudiadau planhigion penodol, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill drwy barth gwarchod, a thros symudiadau'r cyfryw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill sy'n tarddu oddi fewn i barth gwarchod o'r fath ac yn symud oddi fewn iddo.

Dyma'r prif newidiadau a gyflwynir gan y Gorchymyn hwn, a ddaw i rym ar 1 Awst 2001 - 

Mae'r angen am basport planhigion a osodir gan y Gorchymyn hwn yn gyson â chyfundrefn basport y Gymuned a weithredwyd yn y prif Orchymyn yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 77/93/EEC (ar ôl ei ddiwygio a'i atodi gan yr offerynnau a restrir yn Atodlen 16 i'r prif Orchymyn) (O.J. L26, 31.1.77, t.20).


Notes:

[1] 1967 p.8; diwygiwyd adran 3(1) a (2) gan Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4.back

[2] Mae adran 1(2)(b) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967 yn darparu mai'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yw'r awdurdod cymwys yng Nghymru a Lloegr at ddibenion y Ddeddf honno. Yn rhinwedd Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgoedfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau eu bod yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yna trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1993/1320, diwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245 a 1999/2641 (Cy.8).back

[4] 1998 c.38.back



English version



ISBN 0 11090317 X


  Prepared 9 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012500w.html