BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012501w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2501 (Cy.204)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 1 Awst 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 77(2) a (4), 80(4), 83(9) a 84(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1].

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.

    (2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn mae'r cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.

    (4) Yn y Rheoliadau hyn - 

Ysbeidiau arolygu
     2. Mae arolygiadau i'w cynnal o fewn pum mlynedd i'r dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, ac yna o fewn pob pum mlynedd i'r arolygiad diweddaraf.

Adroddiadau arolygu
    
3. Rhaid gwneud adroddiadau arolygu o fewn y cyfnod o 55 niwrnod gwaith o'r dyddiad y mae'r arolygiad neu'r arolygiad ardal yn cael ei gwblhau, neu pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw.

Cynlluniau gweithredu
    
4.  - (1) Rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu o fewn y cyfnod o 40 niwrnod gwaith neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith o'r dyddiad (yn y naill achos neu'r llall) y cafodd y corff o dan sylw gopi o'r adroddiad arolygu.

    (2) Rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu drwy drefnu ei fod ar gael i'w archwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y corff o dan sylw, ac ar unrhyw wefan sydd gan y corff hwnnw ar y rhyngrwyd.

    (3) Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu at bob un o'r canlynol - 

    (4) Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu hefyd at unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n gofyn am gopi (yn ddi-dâl).

    (5) Yn y rheoliad hwn, ystyr "y corff o dan sylw" ("the body concerned") yw'r corff y mae'n ofynnol, o dan adran 80(3) neu is-adran (2) neu (3) o adran 84 (yn ôl fel y digwydd), iddo baratoi'r cynllun gweithredu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan IV o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 yn estyn cylch gwaith Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru i gynnwys y mathau o addysg a hyfforddiant y cyfeirir atynt yn adran 75 o'r Ddeddf honno. Mae'r fframwaith ar gyfer arolygiadau o'r fath wedi'i nodi yn y Ddeddf, ond mae'r Ddeddf yn darparu i lawer o'r manylion gael eu nodi mewn Rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol. O dan y Ddeddf rhaid i arolygiadau gael eu cynnal mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant penodol y mae'r Ddeddf yn dod â hwy o fewn cylch gwaith Prif Arolygydd Cymru, ond gall y Prif Arolygydd gynnal arolygiadau ardal hefyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â'r ddau fath o arolygu.

Mae Rheoliad 1 yn cynnwys diffiniadau.

Mae Rheoliad 2 yn darparu bod arolygiadau addysg neu hyfforddiant penodol i'w cynnal bob pum mlynedd.

Mae Rheoliad 3 yn nodi o fewn pa gyfnod y mae rhaid i adroddiadau arolygu gael eu gwneud (ar gyfer arolygiadau ac arolygiadau ardal).

Mae Rheoliad 4 yn nodi o fewn pa gyfnod y mae rhaid cyhoeddi cynlluniau gweithredu ac yn darparu ar gyfer dull cyhoeddi cynlluniau o'r fath. Mae'n pennu hefyd y personau neu'r cyrff y mae'n rhaid anfon copi o gynllun gweithredu atynt. Mae'n gymwys i arolygiadau ac arolygiadau ardal.


Notes:

[1] 2000 p.21. I gael ystyr "prescribed" yn adran 77 gweler is-adran (9) o'r adran honno.back

[2] Gweler adran 4 o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 (p.57). Amnewidiwyd y teitl presennol, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant, gan adran 73(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090320 X


  Prepared 14 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012501w.html