BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012536w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2536 (Cy.211)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 10 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 1 Medi 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 50 a 63(3) o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986[1], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Addysg Bellach) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Medi 2001.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Cymhellion i bersonau ddilyn hyfforddiant athrawon addysg bellach
     3.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau o dan y rheoliad hwn yn gymhellion i bersonau cymwys ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach.

    (2) Mae'r p er i dalu grant i berson cymwys os yw'r person hwnnw - 

    (3) Ym mharagraffau (1) a (2), ystyr "cymwys" yw cymwys i gael cymorth i fyfyrwyr o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[6].

Amodau
     4.  - (1) Rhaid peidio â thalu unrhyw daliad o dan reoliad 3 i berson - 

    (2) Rhaid peidio â thalu unrhyw grant o dan reoliad 3 i berson oni bai ei fod wedi gwneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw bryd a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol a chan gynnwys unrhyw fanylion a benderfynir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Rhaid peidio â chymryd bod dim yn y rheoliad hwn yn cyfyngu p er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf cymhwyster i gael grantiau o dan reoliad 3.

Amodau Pellach
    
5.  - (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion y bydd grant a delir yn unol â rheoliad 3 yn ad-daladwy odanynt.

    (2) Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y gellir gosod gofyniad o dan baragraff (1) - 

Swm y grant a thaliadau grant
    
6.  - (1) Rhaid i grantiau o dan reoliad 3 beidio â bod yn fwy nag unrhyw symiau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Gellir penderfynu ar wahanol symiau o dan baragraff (1) ar gyfer gwahanol achosion ac amgylchiadau.

    (3) Yn achos grant sy'n daladwy i berson yn rhinwedd rheoliad 3(2), rhaid i'r cyfanswm sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol beidio â bod yn fwy na'r gwahaniaeth rhwng swm y grant y mae wedi'i gael oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y trefniadau cyfatebol sy'n gymwys yn Lloegr a'r swm y penderfynir arno gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (1) uchod fel yr uchafswm sy'n daladwy i berson sydd - 

    (4) Gall grantiau o dan reoliad 3 gael eu talu mewn cyfandaliad neu mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y penderfynir arnynt gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu yn benodol fod rhandaliadau yn daladwy ar ddyddiadau ar ôl i'r person ymgymryd â swydd addysgu mewn sefydliad neu mewn man arall yng Nghymru sy'n darparu addysg bellach.

    (5) Yn achos unrhyw grant sy'n daladwy tra bydd person yn dilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon addysg bellach, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi arian i sefydliad achrededig i'w dalu i'r person hwnnw ar unrhyw adegau a gyfarwyddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


John Marek
Dirpwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Gorffennaf 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan y Rheoliadau hyn caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu grantiau fel cymhellion i annog mwy o bobl i ddilyn cyrsiau ôl-raddedig o hyfforddiant sy'n seiliedig mewn colegau ac sydd wedi'u dylunio'n unswydd i'w paratoi i addysgu personau sy'n dilyn addysg bellach mewn sefydliadau addysg bellach neu mewn mannau eraill.

O dan y Rheoliadau, caiff y Cynulliad Cenedlalaethol dalu'r grant i gyd tra bod y derbynnydd yn dilyn yr hyfforddiant neu, ar y llaw arall, dalu rhan o'r grant tra bod y derbynnydd yn dilyn yr hyfforddiant a thalu rhan ar ôl iddo neu iddi gwblhau'r hyfforddiant ac ymgymryd â swydd addysgu. Yn yr achos olaf, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn achos person sy'n cael rhandaliadau grant mewn perthynas â chwrs mewn sefydliad yn Lloegr y mae grantiau tebyg yn daladwy ar ei gyfer o dan drefniadau cyfochrog, dalu unrhyw randaliadau sy'n weddill y byddai gan y person hwnnw hawl iddynt o dan y Rheoliadau hyn pe bai wedi cwblhau cwrs yng Nghymru y byddai grant wedi'i dalu ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

Mae Rheoliad 3 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i dalu grantiau fel cymhellion i bersonau sy'n gymwys ar gyfer cymorth i fyfyrwyr i ddilyn cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant athrawon o'r math y cyfeirir atynt uchod.

Mae Rheoliad 4 yn nodi nifer o achosion lle na ellir talu grantiau o dan Reoliad 3, ond yn darparu nad yw hyn yn cyfyngu ar b er y Cynulliad Cenedlaethol i fabwysiadu meini prawf cymhwyster ar gyfer grantiau o'r fath.

Mae Rheoliad 5 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu grant o dan Reoliad 3 ar yr amod ei bod yn ofynnol ei ad-dalu o dan amgylchiadau penodedig.

Mae Rheoliad 6 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu swm y grant, y gellir ei dalu naill ai mewn cyfandaliad neu mewn rhandaliadau (y gellir gohirio rhai ohonynt hyd nes bod y person wedi cwblhau'r cwrs ac wedi ymgymryd â swydd addysgu). Mae hefyd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfeirio taliadau'r grant drwy'r sefydliad sydd o dan sylw.


Notes:

[1] 1986 p.61. Diwygiwyd adran 63(3) gan baragraff 107(a) o Atodlen 19 i Ddeddf Addysg 1993 (p.35).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1996 p.56.back

[4] 1988 p.40. Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)) a Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166) yw'r Rheoliadau cyfredol.back

[5] Gellir cael rhestr o'r sefydliadau achrededig cyfredol oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn Linden Court, The Orchards, Ty Glas Avenue, Llanisien, Caerdydd, CF4 5DZ.back

[6] 1998 p.30; Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001 (O.S. 2001/951) yw'r Rheoliadau cyfredol.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090331 5


  Prepared 3 September 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012536w.html