BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 2627 (Cy. 216 )
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001
|
Wedi'u gwneud |
19 Gorffennaf 2001 | |
|
Yn dod i rym |
20 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Cynhyrchion Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) (Rhif 2) 2001; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 20 Gorffennaf 2001.
Diwygiadau
2.
Rhoddir y dyddiad "23rd September 2001" yn lle'r dyddiad "23rd July 2001" yn y darpariaethau canlynol -
(a) paragraff 3A(3) o Ran VI o Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994[3]);
(b) rheoliad 7(7) a rheoliad 8(8) o Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995[4] ); ac
(c) paragraff 3 o Ran I o Atodlen 13 i Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995[5].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
ar 19 Gorffennaf 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Penderfyniad y Comisiwn 2001/304/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2001/345/EC yn caniatáu marciau deuol ar gig, briwgig, paratoadau cig a chynhyrchion cig am gyfnod trosiannol.
Yn achos cig, mae'r Penderfyniadau hyn wedi'u rhoi ar waith yng Nghymru gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1508) (Cy.105) sy'n diwygio Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/539).
Yn achos cynhyrchion cig, maent wedi'u rhoi ar waith yng Nghymru gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001 sy'n diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082).
Yn achos briwgig a pharatoadau cig, mae'r Penderfyniadau wedi'u rhoi ar waith yng Nghymru gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1740) (Cy.123) sy'n diwygio Rheoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 (O.S. 1995/3205).
Ym mhob achos, mae'r cyfnod trosiannol yn dod i ben ar 23 Gorffennaf 2001. Nid yw'r dyddiad i'w weld ym Mhenderfyniadau'r Comisiwn.
Mae'r Rheoliadau hyn yn estyn y cyfnod trosiannol tan 23 Medi 2001.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 1994/3082. Ychwanegwyd paragraff 3A(3) o Ran VI o Atodlen 2 gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001, O.S. 2001/1508 (Cy.105).back
[4]
O.S. 1995/3205. Ychwanegwyd rheoliadau 7(7) ac 8(8) gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig, Briwgig a Pharatoadau Cig) (Cymru) 2001, O.S 2001/1740 (Cy.123).back
[5]
O.S. 1995/539. Ychwanegwyd paragraff 3 o Ran I o Atodlen 13 gan Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Marcio Cig a Chynhyrchion Cig) (Cymru) 2001, O.S. 2001/1508 (Cy.105).back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090289 0
|
Prepared
30 July 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012627w.html