BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012662w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2662 (Cy.218)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 20 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym 21 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, drwy weithredu ar y cyd i arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 37, 87(2) a (5) ac 88(2) a (4) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso ac ymestyn diffiniadau
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio)(Cymru) 2001 a daw i rym ar 21 Gorffennaf 2001.

    (2) Bydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 o'i chymhwyso at y Gorchymyn hwn - 

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall - 

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu'r Atodlen sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

    (3) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddiddymu mewn ysgrifen unrhyw bryd.

Glanhau a diheintio mewn perthynas â chludo anifeiliaid carnog a dofednod
     3.  - (1) Bydd yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo a ddefnyddir ar gyfer yr anifeiliaid canlynol (heblaw o dan yr amgylchiadau a bennir yn Atodlen 2) - 

    (2) Os oes cyfrwng cludo wedi'i ddefnyddio i gludo unrhyw anifail neu unrhyw beth a allai arwain at drosglwyddo clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid, rhaid i ddefnyddiwr y cyfrwng cludo sicrhau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a dim mwy na 24 awr ar ôl cwblhau'r daith, fod y cyfrwng cludo hwnnw a'i offer yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 1, neu, os yw'n briodol, yn cael eu dinistrio.

    (3) Ni chaiff neb ddefnyddio, na pheri na chaniatáu defnyddio unrhyw gyfrwng cludo i gludo unrhyw anifail oni bai bod y cyfrwng cludo a'i offer wedi'u glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 1 ers iddo gael ei ddefnyddio ddiwethaf i gludo unrhyw anifail neu unrhyw beth a allai arwain at drosglwyddo clefyd sy'n effeithio ar anifeiliaid.

    (4) Os yw cyfrwng cludo wedi'i faeddu fel y gallai beri risg o drosglwyddo clefyd ers ei lanhau a'i ddiheintio ddiwethaf, ni chaiff neb lwytho, na pheri na chaniatáu llwytho unrhyw anifail i mewn i'r cyfrwng cludo oni bai bod y cyfrwng cludo hwnnw wedi'i lanhau a'i ddiheintio eto yn unol â pharagraffau 3 a 4 o Atodlen 1.

    (5) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo unrhyw anifail symud ymaith unrhyw anifeiliaid meirw, gwelltach budr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted â phosibl.

Glanhau a diheintio mewn perthynas â chludo mamaliaid ac adar eraill, ac anifeiliaid carnog a dofednod o dan amgylchiadau penodol
    
4.  - (1) Bydd yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â chludo - 

ond ni fydd yn gymwys yn achos - 

    (2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu'n peri neu'n caniatáu iddynt gael eu cludo pan fydd yr erthygl hon yn gymwys sicrhau - 

Gwaredu deunydd ar ôl glanhau
    
5. Rhaid i bopeth a dynnir o'r cyfrwng cludo yn unol ag Atodlen 1 - 

Pwerau arolygwyr, etc.
    
6.  - (1) Pan fydd arolygydd wedi'i fodloni bod cyfrwng cludo, neu unrhyw offer sy'n cael ei gario gyda'r cyfrwng cludo, naill ai - 

caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r offer.

    (2) Gall hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol - 

    (3) Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid cyflawni'r gwaith glanhau a diheintio yn unol ag Atodlen 1 oni bai bod yr hysbysiad yn pennu dull gwahanol o lanhau a diheintio.

    (4) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gyflawni gwaith glanhau a diheintio yn unol ag erthyglau 3 neu 4 yn mynnu bod y person hwnnw yn ei lanhau a'i ddiheintio fel a bennir yn yr hysbysiad yn lle gwneud hynny yn unol ag Atodlen 1 os yw'r arolygydd wedi'i fodloni bod hynny'n angenrheidiol at ddibenion iechyd anifeiliaid.

    (5) Pan na fydd person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir â darpariaethau'r hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo .

Gorfodi
    
7. Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.

Diddymu a diwygio
    
8.  - (1) Mae'r Gorchmynion a nodir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Rhan I o Atodlen 3 yn cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru ac i'r graddau a nodir yn nhrydedd golofn y tabl hwnnw.

    (2) Mae'r Gorchymyn yn Rhan II o Atodlen 3 yn cael ei ddiwygio yn unol â'r Rhan honno i'r graddau y mae'n gymwys yng Nghymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


J. E. Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad

20 Gorffennaf 2001


Alun Michael
Gweinidog Gwladol

20 Gorffennaf 2001



ATODLEN 1
Erthyglau 3, 4, 5 a 6


Glanhau a diheintio'r cyfrwng cludo


Lefel y glanhau a'r diheintio
     1. Rhaid cyflawni pob gwaith glanhau a diheintio er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo clefyd cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Y rhannau o'r cyfrwng cludo y mae angen eu glanhau
     2.  - (1) Yn achos anifeiliaid nad ydynt yn cael eu cludo mewn cynhwysydd - 

    (2) Yn achos anifeiliaid a gludir mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi'i faeddu neu beidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu.

Y dull glanhau
     3. Rhaid glanhau drwy symud ymaith unrhyw borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, unrhyw welltach, unrhyw garthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, unrhyw laid ac unrhyw halogion eraill drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng priodol, ac yna eu glanhau â dr, stêm neu gyfansoddion cemegol pan fo'n briodol (neu, os bydd angen, unrhyw gyfuniad o'r rhain) nes eu bod yn rhydd o faw.

Diheintio ar ôl glanhau
     4. Rhaid i bopeth y mae'n ofynnol ei lanhau o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiheintio ar ôl gorffen ei lanhau, drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwyir o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[
4] yn ôl y crynodiad sy'n ofynnol o dan y gorchymyn hwnnw ar gyfer "Gorchmynion Cyffredinol".



ATODLEN 2
Erthyglau 3 a 4


Yr amgylchiadau y bydd erthygl 4 yn gymwys odanynt


Taith a wneir o fewn un fenter ffermio
     1. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys os gwneir y daith o fewn un fenter ffermio o dan un berchenogaeth.

Cludo ceffylau penodol
     2. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys mewn perthynas â chludo - 

Teithiau rhwng yr un dau bwynt
     3.  - (1) Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys mewn perthynas â chyfrwng cludo sy'n cael ei ddefnyddio, yn ystod un diwrnod, ar gyfer cludo anifeiliaid rhwng yr un dau bwynt yn unig, heblaw rhwng marchnadoedd, ar yr amod bod y cyfrwng cludo yn cael ei lanhau a'i ddiheintio yn unol ag Atodlen 1 o fewn 24 awr ar ôl y daith olaf ar gyfer cludo anifail yn ystod y diwrnod hwnnw, a beth bynnag cyn i'r cyfrwng cludo gael ei ddefnyddio eto mewn cysylltiad â chludo unrhyw anifail neu beth.

    (2) Yn y paragraff hwn mae "taith olaf" yn cynnwys - 

Dadlwytho dros dro
     4. Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, fydd yn gymwys yn achos cyfrwng cludo y mae anifeiliaid wedi'u dadlwytho ohono yn unswydd i'w porthi neu i'w dyfrio, neu at ryw ddiben dros dro arall, ac sydd wedyn wedi'u hail-lwytho.



ATODLEN 3
Erthygl 7



Rhan 1

Diddymiadau

Yr offeryn a ddiddymir Cyfeirnod Graddau'r diddymu
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid 1927 Gorchmynion a Rheolau Statudol 1927/289 Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn y Gweinidog dyddiedig 9 Mai 1927 yn diwygio Gorchymyn Cludo Anifeiliaid 1927 Gorchmynion a Rheolau Statudol 1927/399 Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Ceffylau (Cludiant Morol) 1952 O.S. 1952/1291 Y Gorchymyn cyfan
Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Ffyrdd a Rheilffyrdd) 1975 O.S. 1975/1024 Erthyglau 15 ac 16 ac Atodlen 3
Gorchymyn Mewnforio Anifeiliaid 1977 O.S. 1977/944 Erthyglau 4(1), 5(6), 5(7), 6 a 15
Gorchymyn Clefydau Dofednod 1994 O.S. 1994/3141 Erthygl 10(2)
Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludiant) 1997 O.S. 1997/1480 Erthygl 15(2) a Pharagraff 26 o Atodlen 1



Rhan II

Diwygiadau

Yng Ngorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11), yn lle

rhoddir ym mhob achos y canlynol - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diddymu ac yn disodli, gyda newidiadau, yr offerynnau sy'n ymwneud â glanhau a diheintio'r cyfryngau cludo ar gyfer anifeiliaid a nodir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn. Mae'n gweithredu paragraff 8 o Bennod 1 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/628/EEC ar ddiogelu anifeiliaid wrth eu cludo (OJ Rhif L340, 11.12.91, t.17) a weithredwyd gynt gan baragraff 26 o Atodlen 1 i Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludiant) 1997 (O.S. 1997/1480). Mae'n gweithredu hefyd Erthygl 12.1(a), ail gilosodiad, Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar y fasnach mewn anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned (cydgyfnerthwyd y Gyfarwyddeb hon yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/12/EC OJ Rhif L109, 25.4.97, t.1).

Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi'r gofynion canlynol: - 

Mae eithriadau wedi'u nodi yn Atodlen 2 mewn perthynas â theithiau o fewn un fenter ffermio, cludo ceffylau penodol a theithiau rhwng yr un dau bwynt. Yn yr achosion hyn, ac ar gyfer pob anifail ac aderyn arall, ceir gofyniad ynglyn â sicrhau eu bod yn cael eu llwytho ar gyfrwng cludo sydd wedi'i lanhau ac, os oes angen, wedi'i ddiheintio, a bod anifeiliaid meirw, sarn a charthion yn cael eu symud ymaith o'r cyfrwng cludo cyn gynted â phosibl. Nid yw hyn yn gymwys i deithiau anfasnachol nac i gludo anifeiliaid anwes neu anifeiliaid unigol (erthygl 4).

Mae erthygl 5 yn pennu sut mae'n rhaid gwaredu'r deunydd o'r cyfrwng cludo.

O dan erthygl 6, mae gan arolygydd b er, o dan yr amgylchiadau a nodir yn yr erthygl honno, i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyfrwng cludo gael ei lanhau a'i ddiheintio.

Mae'r Gorchymyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 7).

Mae'n diddymu'r darpariaethau a nodir yn Atodlen 3.

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac ar ôl collfarn gellir cosbi'r tramgwydd â dirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (sef £5,000 ar hyn o bryd).

Mae arfarniad wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Polisi Amaethyddol, Adran Amaethyddiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1)(c) ar gyfer diffiniad o "Ministers". Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd pwerau Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaeth Ysgrifennydd Gwladol yr Alban i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141).back

[2] 1998. p.38.back

[3] 1998 p.38.back

[4] O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1978/934, O.S. 1997/2347, ac O.S. 2001/641 (Cy.31).back



English version



ISBN 0 11090294 7


  Prepared 2 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012662w.html