[New search]
[Help]
2001 Rhif. 2683 (Cy. 224)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
17 Gorffennaf 2001 | |
|
Yn dod i rym |
19 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1] ac is-adran (2) o adran 2 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], a chan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion yr is-adran honno gan Erthygl 2 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000[3] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, ac amcanion, ansawdd aer, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 19 Gorffennaf 2001.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diffiniadau
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "aer amgylchynol" ("ambient air") yw aer y tu allan yn y troposffer, heb gynnwys gweithleoedd;
ystyr "asesu" ("assessment") yw unrhyw ddull a ddefnyddir i fesur, cyfrifo, darogan neu amcangyfrif lefel llygryn perthnasol yn yr aer amgylchynol;
ystyr "crynhoad" ("agglomeration") yw parth â chrynodiad poblogaeth o fwy na 250,000 o drigolion neu, os yw crynodiad y boblogaeth yn 250,000 o drigolion neu lai, dwysedd poblogaeth am bob km2 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod yna gyfiawnhad dros yr angen i asesu neu reoli'r aer amgylchynol ar ei chyfer;
ystyr "digwyddiadau naturiol" ("natural events") yw echdoriadau llosgfynyddoedd, gweithgarwch seismig, gweithgarwch geothermol, tanau tir gwyllt, gwyntoedd cryfion neu ail?ddal neu gludo gronynnau naturiol o barthau sych yn yr atmosffer;
mae i "gwerth terfyn" ("limit value") yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(1);
ystyr "lefel" ("level") yw crynodiad llygryn perthnasol yn yr aer amgylchynol;
ystyr "llygrynnau perthnasol" ("relevant pollutants") yw sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm;
ystyr "mesuriadau sefydlog" ("fixed measurements") yw mesuriadau a gymerir ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap, a nifer y mesuriadau yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod y lefelau a welir;
ystyr "ocsidau nitrogen" ("oxides of nitrogen") yw swm y nitric oxide a'r nitrogen dioxide wedi'u hadio fel rhannau am bob biliwn ac wedi'i fynegi fel nitrogen dioxide mewn microgramau i bob metr ciwbig;
ystyr "PM2.5" yw mater gronynnol sy'n mynd drwy fewnfa dethol-maint ag ataliad effeithlonrwydd o 50% ar ddiamedr erodynamig o 2.5 mm;
ystyr "PM10" yw mater gronynnol sy'n mynd drwy fewnfa dethol-maint ag ataliad effeithlonrwydd o 50% ar ddiamedr erodynamig o 10 mm;
ystyr "parth" ("zone") yw rhan o Gymru a ddangosir ar fap i'w gyhoeddi gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 1 Awst 2001, a adneuwyd yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran Diogelu'r Amgylchedd, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
mae i "trothwy asesu isaf" ("lower assessment threshold") yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(5);
mae i "trothwy asesu uchaf" ("upper assessment threshold") yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(5); ac
mae i "trothwy rhybuddio" ("alert threshold") yr ystyr a roddir gan reoliad 8(2).
Dyletswydd i sicrhau bod ansawdd aer amgylchynol yn cael ei gwella
3.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol i sicrhau ym mhob parth ledled Cymru nad yw crynodiadau'r llygrynnau perthnasol yn yr aer amgylchynol, o'u hasesu yn unol â rheoliadau 4 i 7, yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a nodir yn Atodlen 1 o'r dyddiadau a bennir yn yr Atodlen honno ymlaen.
(2) Rhaid i'r mesurau a gymerir -
(a) cymryd i ystyriaeth ymagwedd integredig at ddiogelu aer, dwr a phridd;
(b) peidio â thorri deddfwriaeth y Gymuned ar ddiogelu diogelwch ac iechyd gweithwyr wrth eu gwaith; ac
(c) peidio â dwyn unrhyw effeithiau negyddol arwyddocaol ar yr amgylchedd yn yr Aelod?wladwriaethau eraill.
Asesu ansawdd aer amgylchynol
4.
Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn unol â rheoliadau 5 i 7.
Dosbarthu parthau
5.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol yn ôl a yw'n ofynnol asesu ansawdd yr aer amgylchynol yn y parth hwnnw ar gyfer y llygryn hwnnw -
(a) drwy fesuriadau;
(b) drwy gyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu; neu
(c) drwy ddefnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig.
(2) Rhaid i fesuriadau gael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth -
(a) os yw'r parth yn grynhoad;
(b) os yw lefelau'r llygryn yn y parth rhwng y gwerthoedd terfyn perthnasol a'r trothwyon asesu uchaf; neu
(c) os yw lefelau'r llygryn hwnnw yn y parth yn uwch na gwerthoedd terfyn y llygryn hwnnw.
(3) Gellir defnyddio cyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn unrhyw barth mewn perthynas â llygryn perthnasol os yw lefelau'r llygryn dros gyfnod cynrychioliadol yn is na'r trothwyon asesu uchaf perthnasol.
(4) Os yw lefelau llygryn perthnasol mewn unrhyw barth yn is na'r trothwyon asesu isaf perthnasol, caniateir defnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig i asesu lefelau'r llygryn hwnnw oni bai -
(a) mai crynhoad yw'r parth; a
(b) mai sulphur dioxide neu nitrogen dioxide yw'r llygryn sy'n cael ei asesu.
(5) Penderfynir ar y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer y llygrynnau perthnasol yn unol ag Atodlen 2.
(6) Os oes parth wedi'i ddosbarthu mewn perthynas â llygryn o dan baragraff (1)(a), gellir defnyddio technegau modelu i gydategu'r mesuriadau a gymerir er mwyn rhoi lefel ddigonol o wybodaeth am ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth.
(7) Rhaid i'r dosbarthiad parthau y mae paragraff (1) yn gofyn amdano gynnwys unrhyw barthau y gall y Cynulliad Cenedlaethol eu dosbarthu fel rhai sy'n uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer -
(a) sulphur dioxide oherwydd crynodiadau sulphur dioxide yn yr aer amgylchynol oherwydd ffynonellau naturiol;
(b) PM10 oherwydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd -
(i) digwyddiadau naturiol sy'n arwain at grynodiadau sy'n sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol; neu
(ii) ail-ddal gronynnau ar ôl i ffyrdd gael eu trin â thywod yn y gaeaf.
Adolygu dosbarthiadau
6.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad pob parth o dan reoliad 5 o leiaf unwaith bob pum mlynedd yn unol â Rhan II o Atodlen 2.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol adolygu dosbarthiad unrhyw barth o dan reoliad 5 hefyd os ceir newidiadau arwyddocaol mewn gweithgarwch sy'n effeithio ar grynodiadau amgylchynol unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol yn y parth.
Dull asesu ansawdd aer amgylchynol
7.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod ansawdd yr aer amgylchynol yn cael ei hasesu ym mhob parth drwy ddilyn y dull penodedig ar gyfer pob llygryn perthnasol yn unol â'i ddosbarthiad cyfredol.
(2) Os oes parth wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 5(1)(a) neu (b) mewn perthynas â llygryn perthnasol -
(a) rhaid i fesuriadau'r llygryn hwnnw gael eu cymryd ar safleoedd sefydlog naill ai'n ddi-dor neu drwy samplu ar hap, a
(b) rhaid i nifer y mesuriadau fod yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod lefelau'r llygryn hwnnw yn gywir.
(3) Bydd Atodlen 3 yn effeithiol er mwyn penderfynu ar leoliad y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol.
(4) Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 5(1)(a), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod isafswm nifer y pwyntiau samplu sefydlog y penderfynwyd arnynt yn unol ag Atodlen 4 yn cael ei ddefnyddio i samplu crynodiadau'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw.
(5) Ar gyfer pob parth sydd wedi'i ddosbarthu o dan reoliad 5(1)(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau, mewn perthynas â llygryn perthnasol, fod nifer y pwyntiau samplu sefydlog a ddefnyddir i samplu'r llygryn hwnnw yn y parth hwnnw, a dosbarthiad y technegau eraill o ran eu lleoliad, yn ddigon i ddod o hyd i grynodiadau'r llygryn hwnnw yn unol â Rhan I o Atodlen 3 a Rhan I o Atodlen 5.
(6) Nodir dulliau cyfeirio ar gyfer -
(a) dadansoddi sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen;
(b) samplu a dadansoddi plwm; ac
(c) samplu a mesur PM10
yn Atodlen 6, a rhaid i'r dulliau hyn gael eu defnyddio oni bai bod dulliau eraill yn cael eu defnyddio y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod modd dangos eu bod yn rhoi canlyniadau cyfwerth.
(7) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod gorsafoedd mesur i roi data cynrychioliadol ar grynodiadau PM2.5 wedi'u gosod ac yn cael eu gweithredu, gan ddefnyddio unrhyw ddull ar gyfer samplu a mesur PM2.5 y mae'n credu ei fod yn addas, a bod pwyntiau samplu PM2.5 yn cael eu cyd-leoli â phwyntiau samplu PM10 lle bynnag y bo modd.
(8) Ar gyfer parthau sydd wedi'u dosbarthu o dan reoliad 5(1)(b) neu (c), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth a nodir yn Rhan II o Atodlen 5 yn cael ei chrynhoi.
(9) Ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, rhaid i'r cyfaint gael ei safoni ar dymheredd o 293°K a phwysedd o 101.3 kPa.
Cynlluniau gweithredu
8.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi'r mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os ceir unrhyw risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide, er mwyn lleihau'r risg hwnnw ac i gyfyngu ar barhad digwyddiad o'r fath.
(2) Y trothwy sydd wedi'i nodi ym mharagraff 1.2 o Ran I o Atodlen yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide, a'r trothwy a nodir ym mharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1 yw'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen dioxide.
Y camau sydd i'w cymryd os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn
9.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch -
(a) na'r gwerth terfyn, mewn achos lle nad oes goddefiant yn cael ei ddangos yn Atodlen 1 mewn perthynas â gwerth terfyn;
(b) na'r gwerth terfyn plws y goddefiant a ddangosir yn Atodlen 1 mewn unrhyw achos arall.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol rhwng y gwerth terfyn a'r gwerth terfyn plws unrhyw oddefiant.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6), (8) a (9), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio, ar gyfer pob parth a restrir o dan baragraff (1), gynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer y llygrynnau o dan sylw o fewn y terfynau amser a bennir yn Atodlen 1 a rhaid iddo sicrhau y caiff y cynllun neu'r rhaglen eu gweithredu.
(4) Rhaid i'r cynllun neu'r rhaglen gynnwys o leiaf yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 7.
(5) Os yw lefel mwy nag un llygryn yn uwch na'r gwerthoedd terfyn mewn unrhyw barth, rhaid paratoi cynllun integredig sy'n ymdrin â'r holl lygrynnau o dan sylw.
(6) Ar gyfer parthau y mae rheoliad 5(7)(a) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni o dan y rheoliad hwn ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd allyriannau sydd wedi'u creu gan bobl.
(7) Rhaid i gynlluniau neu raglenni ar gyfer PM10 a baratoir yn unol â'r rheoliad hwn anelu hefyd at leihau crynodiadau PM2.5.
(8) Ar gyfer parthau y mae rheoliad 5(7)(b)(i) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd achosion heblaw digwyddiadau naturiol.
(9) Ar gyfer parthau y mae rheoliad 5(7)(b)(ii) yn gymwys iddynt, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddarparu na fydd angen cynlluniau neu raglenni ond os eir yn uwch na'r gwerthoedd terfyn oherwydd lefelau PM10 heblaw'r rhai sy'n cael eu hachosi gan drin ffyrdd â thywod yn y gaeaf.
Parthau lle mae'r lefelau yn is na'r gwerth terfyn
10.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol yn is na'r gwerthoedd terfyn.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod lefelau'r llygrynnau perthnasol yn y parthau hyn yn cael eu cadw yn is na'r gwerthoedd terfyn a rhaid iddo ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gyson â datblygu cynaliadwy.
Gwybodaeth gyhoeddus
11.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r drefn.
(2) Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol sulphur dioxide, nitrogen dioxide gael ei diweddaru -
(a) yn achos gwerthoedd fesul-awr ar gyfer sulphur dioxide a nitrogen dioxide, bob awr os yw hynny'n ymarferol;
(b) ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.
(3) Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol plwm cael ei diweddaru bob tri mis.
(4) Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan baragraff (1) gynnwys -
(a) nodyn i ddweud i ba raddau yr aed yn uwch na'r gwerthoedd terfyn a'r trothwyon rhybuddio ar gyfer llygrynnau penodol dros y cyfnodau cyfartaleddu a bennir yn Atodlen 1; a
(b) asesiad byr o'r enghreifftiau hynny lle'r aed yn uwch na'r gwerthoedd a'r trothwyon a'r effeithiau a gawsant ar iechyd.
(5) Pan eir yn uwch na throthwy rhybuddio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i roi gwybod i'r cyhoedd, a rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael gynnwys o leiaf yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1.
(6) Rhaid i'r wybodaeth y mae'n rhaid trefnu ei bod ar gael i'r cyhoedd o dan y rheoliad hwn gynnwys y map o'r parthau y cyfeirir ato yn rheoliad 2 ac unrhyw ddiwygiad iddo, a chynlluniau gweithredu, cynlluniau a rhaglenni a baratoir o dan reoliadau 8 a 9.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r cyhoedd yn cynnwys cyrff gofal iechyd a chyrff sydd â diddordeb yn ansawdd yr aer amgylchynol a chyrff sy'n cynrychioli buddiannau poblogaethau sensitif, defnyddwyr a'r amgylchedd, ond nid yw'n gyfyngedig i'r rhain.
(8) Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan y rheoliad hwn fod yn glir, cynhwysfawr a hawdd ei chael.
Diddymu Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 a darpariaethau trosiannol
12.
- (1) Mae Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989[4], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, drwy hyn yn cael eu diddymu fel a ganlyn.
(2) Diddymir rheoliad 2(1) (gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide a gronynnau mewn daliant) a rheoliad 4(1)(gwerth terfyn ar gyfer plwm yn yr aer) o 1 Ionawr 2005 ymlaen.
(3) Diddymir rheoliadau 3 (mesur sulphur dioxide a gronynnau mewn daliant), 5 (mesur plwm yn yr aer) a 7 (mesur nitrogen dioxide yn yr atmosffer).
(4) Diddymir rheoliad 6 (gwerth terfyn ar gyfer nitrogen dioxide yn yr atmosffer) o 1 Ionawr 2010 ymlaen.
(5) O 19 Gorffennaf 2001 tan 1 Ionawr 2005, os caiff y dulliau a ragnodir gan y rheoliadau hyn ar gyfer asesu mater gronynnol mewn daliant eu defnyddio er mwyn dangos y cydymffurfiwyd ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 80/779/EEC dyddiedig 15 Gorffennaf 1980 ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a gwerthoedd bras ar gyfer gronynnau mewn daliant[5], rhaid i'r data a gesglir fel hyn gael ei luosi â ffactor o 1.2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad.
Dyddiad
ATODLEN 1Rheoliadau 2, 8(2), 9(1), 11(5)
GWERTHOEDD TERFYN, GODDEFIANNAU, ETC.
RHAN
I
SULPHUR DIOXIDE
1.1
Gwerthoedd terfyn sulphur dioxide
|
Cyfnod Cyfartaleddu
|
Gwerth terfyn
|
Goddefiant[6]
|
Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
|
1.
Terfyn gwerth fesul - awr ar gyfer diogelu iechyd pobl
|
1 awr |
350 µg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 24 gwaith y flwyddyn galendr |
150 µg/m3 (43%) ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 2005 |
1 Ionawr 2005 |
2.
Gwerth terfyn dyddiol ar gyfer diogelu iechyd pobl
|
24 awr |
125 µg/m3, y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith y flwyddyn galendr |
Dim un |
1 Ionawr 2005 |
3.
Gwerth terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau
|
Y flwyddyn galendr a'r gaeaf (1 Hydref i 31 Mawrth) |
20 µg/m3 |
Dim un |
19 Gorffennaf 2001 |
1.2
Trothwy rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide
500 µg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn mannau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.
1.3
Isafswm y manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide
Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf :
- dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys;
- unrhyw ragolygon ar gyfer:
- newidiadau mewn crynodiad (gwella, sefydlogi, neu ddirywio), ynghyd â'r rhesymau dros y newidiadau hynny;
- yr ardal ddaearyddol o dan sylw;
- y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad;
- y rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.
RHAN
II
NITROGEN DIOXIDE (NO2) AC OCSIDAU NITROGEN (NOx)
2.1
Gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen
|
Cyfnod Cyfartaleddu
|
Gwerth terfyn
|
Goddefiant
|
Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
|
1.
Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl
|
1 awr |
200µg/m3 o NO2 y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn blwyddyn galendr |
50% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 phob 12 mis wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 2010 |
1 Ionawr 2010 |
2.
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu pobl
|
Y flwyddyn galendr |
40µg/m3 o NO2 |
50% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canran flynyddol gyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 2010 |
1 Ionawr 2010 |
3.
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant
|
Y flwyddyn galendr |
30 µg/m3 o NOx |
Dim un |
19 Gorffennaf 2001 |
2.2
Trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen dioxide
400 µg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf.
2.3
Isafswm y manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen dioxide
Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf:
- dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys;
- unrhyw ragolygon ar gyfer:
- newidiadau mewn crynodiad (gwella, sefydlogi, neu ddirywio), ynghyd â'r rhesymau dros y newidiadau hynny;
- yr ardal ddaearyddol o dan sylw,
- parhad y digwyddiad;
- y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad;
- y rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.
RHAN
III
MATER GRONYNNOL (PM10)
|
Cyfnod Cyfartaleddu
|
Gwerth terfyn
|
Goddefiant
|
Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
|
1.
Gwerth terfyn 24-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl
|
24 awr |
Rhaid peidio â mynd yn uwch na 50µg/m3 o PM10 fwy na 35 gwaith y flwyddyn galendr |
50% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 % erbyn 1 Ionawr 2005. |
1 Ionawr 2005 |
2.
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl
|
Blwyddyn galendr |
40 µg/m3 o PM10 |
20% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng bob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 % erbyn 1 Ionawr 2005. |
1 Ionawr 2005 |
RHAN
IV
PLWM
|
Cyfnod Cyfartaleddu
|
Gwerth terfyn
|
Goddefiant
|
Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
|
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl |
Blwyddyn galendr |
0.5 µg/m3 |
100% ar 19 Gorffennaf 1999, gan ostwng ar 1 Ionawr 2001 a phob 12 mis wedyn yn ôl canrannau blynyddol cyfartal nes cyrraedd 0 % erbyn 1 Ionawr 2005. |
Ionawr 2005 |
ATODLEN 2Rheoliad 5(5)
TROTHWYON ASESU UCHAF AC ISAF A GORMODEDDAU
RHAN
I
Trothwyon asesu uchaf ac isaf
Bydd y trothwyon asesu uchaf ac isaf canlynol yn gymwys:
(a) SULPHUR DIOXIDE
|
Diogelu iechyd
|
Diogelu ecosystemau
|
Trothwy asesu uchaf |
60 % o'r gwerth terfyn 24-awr (75 µg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) |
60 % o werth terfyn y gaeaf (12 µg/m3 ) |
Trothwy asesu isaf |
40 % o'r gwerth terfyn 24-awr (50 µg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 3 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) |
40 % o werth terfyn y gaeaf (8µg/m3 ) |
(b) NITROGEN DIOXIDE AC OCSIDAU NITROGEN
|
Gwerth terfyn fesul-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl(NO2)
|
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl(NO2)
|
Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu llystyfiant(NOx)
|
Trothwy asesu uchaf |
70 % o'r gwerth terfyn (140 µg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) |
80 % o'r gwerth terfyn(32 µg/m3) |
80 % o'r gerth terfyn(24 µg/m3 ) |
Trothwy asesu isaf |
50 % o'r gwerth terfyn (100 µg/m3 , y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 18 gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) |
65 % o'r gwerth terfyn (26 µg/m3 ) |
65 % o'r gwerth terfyn(19.5 µg/m3 ) |
(c) MATER GRONYNNOL[7]
|
Cyfartaledd 24-awr
|
Cyfartaledd blynyddol
|
Trothwy asesu uchaf |
60 % o'r gwerth terfyn (30 µg/m3, y mae'n rhaid peidio mynd yn uwch nag ef fwy na saith gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) |
70 % o'r gwerth terfyn (14 µg/m3) |
Trothwy asesu isaf |
40 % o'r gwerth terfyn (20 µg/m3 , y mae'n rhaid peidio mynd yn uwch nag ef fwy na saith gwaith mewn unrhyw flwyddyn galendr) |
50 % o'r gwerth terfyn (10 µg/m3 ) |
(d) PLWM
|
Cyfartaledd blynyddol
|
Trothwy asesu uchaf |
70 % o'r gwerth terfyn (0.35 µg/m3 ) |
Trothwy asesu isaf |
50 % o'r gwerth terfyn (0.25 µg/m3 ) |
RHAN
II
Darganfod enghreifftiau o fynd yn uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf
Rhaid crynhoi enghreifftiau o fynd yn uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar sail crynodiadau yn ystod y pum mlynedd blaenorol os oes data digonol ar gael. Bernir yr aed yn uwch na'r trothwy asesu os yw cyfanswm yr enghreifftiau o fynd yn uwch na'r crynodiad rhifyddol yn ystod y pum mlynedd hynny yn fwy na thair gwaith nifer yr enghreifftiau a ganiateir bob blwyddyn.
Os oes llai na phum mlynedd o ddata ar gael, gall ymgyrchoedd mesur byr eu parhad yn ystod y cyfnod hwnnw yn y flwyddyn ac yn y mannau sy'n debyg o fod yn nodweddiadol o'r lefelau llygredd uchaf gael eu cyfuno â chanlyniadau a geir o'r wybodaeth o restrau allyriannau a gwaith modelu er mwyn darganfod enghreifftiau o fynd yn uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf.
ATODLEN 3Rheoliad 7(3)
LLEOLI PWYNTIAU SAMPLU AR GYFER MESUR SULPHUR DIOXIDE, NITROGEN DIOXIDE AC OCSIDAU NITROGEN, MATER GRONYNNOL A PHLWM YN YR AER AMGYLCHYNOL
Caiff yr ystyriaethau canlynol eu cymhwyso at fesuriadau sefydlog.
RHAN
I
Lleoli ar y raddfa macro
(a)
Diogelu iechyd pobl
Dylai pwyntiau samplu a gyferir at ddiogelu iechyd pobl gael eu lleoli:
(i) i ddarparu data am yr ardaloedd mewn parthau a chrynoadau lle ceir y crynodiadau uchaf y mae'r boblogaeth yn debyg o gael ei datguddio iddynt yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol am gyfnod sy'n arwyddocaol mewn perthynas â chyfnod cyfartaleddu y gwerth(oedd) terfyn;
(ii) i ddarparu data am lefelau mewn ardaloedd eraill yn y parthau a'r crynoadau sy'n gynrychioliadol o ddatguddiad y boblogaeth gyffredinol.
Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli i osgoi mesur micro-amgylcheddau bach iawn yn y cyffiniau. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol heb fod yn llai na 200 m2 ar safleoedd sy'n ymwneud â thraffig ac o sawl cilometr sgwâr ar safleoedd â chefndir trefol.
Hefyd, os oes modd, dylai'r pwyntiau samplu fod yn gynrychioliadol o fannau tebyg nad ydynt yn eu cyffiniau.
Dylid cymryd i ystyriaeth yr angen i leoli pwyntiau samplu ar ynysoedd, os oes angen gwneud hynny i ddiogelu iechyd pobl.
(b)
Diogelu ecosystemau a llystyfiant
Dylai pwyntiau samplu sydd wedi'u targedu ar ddiogelu ecosystemau neu lystyfiant gael eu lleoli fwy nag 20 km o grynoadau neu fwy na 5 km o fannau adeiledig eraill, sefydliadau diwydiannol neu draffyrdd. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol o 1000 km2 o leiaf. Gall pwynt samplu gael ei leoli yn llai pell i ffwrdd neu i fod yn gynrychioliadol o ansawdd aer mewn ardal lai estynedig, gan gymryd yr amodau daearyddol i ystyriaeth.
Dylid cymryd i ystyriaeth yr angen i asesu ansawdd yr aer ar ynysoedd.
RHAN
II
Lleoli ar raddfa micro
Dylid bodloni'r canllawiau canlynol cyn belled ag y bo'n ymarferol:
- dylai'r llif o amgylch profiedydd samplu y fewnfa fod yn ddigyfyngiad heb unrhyw rwystrau sy'n effeithio ar lif yr aer yng nghyffiniau'r samplwr (rai metrau i ffwrdd fel rheol o adeiladau, balconïau, coed, a rhwystrau eraill ac o leiaf 0.5m o'r adeilad agosaf yn achos pwyntiau samplu sy'n cynrychioli ansawdd yr aer ar linell yr adeiladau);
- yn gyffredinol, dylai pwynt samplu'r fewnfa fod rhwng 1.5 m (y parth anadlu) a 4 m uwchlaw'r ddaear. Gall fod angen safleoedd uwch (hyd at 8 m) o dan rai amgylchiadau. Gall safle uwch fod yn briodol hefyd os yw'r orsaf yn cynrychioli ardal fawr;
- ni ddylai profiedydd y fewnfa gael ei leoli yng nghyffiniau ffynonellau er mwyn osgoi mewnlifiad uniongyrchol o allyriannau sydd heb eu cymysgu â'r aer amgylchynol;
- dylai allfa wacáu y samplwr gael ei lleoli er mwyn osgoi ailgylchu'r aer o'r allfa i fewnfa'r samplwr;
- lleoli samplwr sy'n anelu at draffig;
- ar gyfer pob llygryn, dylai'r pwyntiau samplu hyn fod o leiaf 25 m o ymyl cyffyrdd pwysig ac o leiaf 4 m o ganol y lôn draffig agosaf;
- ar gyfer nitrogen dioxide, ni ddylai'r mewnfeydd fod yn fwy na 5 m o ymyl y cwrbyn;
- ar gyfer mater gronynnol a phlwm, dylid lleoli'r mewnfeydd i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer yn ymyl llinell yr adeiladau.
Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd:
- ffynonellau sy'n ymyrryd;
- a oes pwer trydan a chysylltiadau ffôn ar gael;
- gwelededd y safle mewn perthynas â'i amgylchoedd;
- diogelwch y cyhoedd a'r gweithredwyr;
- a yw'n ddymunol cyd-leoli pwyntiau samplu gwahanol lygrynnau;
RHAN
III
Dogfennu ac adolygu'r gwaith o ddewis safleoedd
Dylai'r gweithdrefnau ar gyfer dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r ardal amgylchynol a map manwl. Dylid adolygu'r safleoedd yn rheolaidd, gan ailadrodd y gwaith dogfennu, i sicrhau bod y meini prawf dewis yn aros yn ddilys dros amser.
ATODLEN 4Rheoliad 7(4)
MEINI PRAWF AR GYFER DARGANFOD ISAFSYMIAU'R PWYNTIAU SAMPLU AR GYFER MESURIADAU SEFYDLOG CRYNODIADAU'R LLYGRYNNAU PERTHNASOL YN YR AER AMGYLCHYNOL
RHAN
I
Isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu a ydys yn cydymffurfio â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu iechyd pobl a throthwyon rhybuddio mewn parthau a chrynoadau os mesuriadau sefydlog yw'r unig ffynhonnell wybodaeth
(a)
Ffynonellau gwasgarog
Poblogaeth y crynhoad neu'r parth (miloedd)
|
Os yw'r crynodiadau yn uwch na'r trothwy asesu uchaf
|
Os yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isaf
|
Ar gyfer SO2 ac NO2 mewn crynoadau lle mae'r crynodiadau uchaf islaw'r trothwyon asesu isaf
|
0-250 |
1 |
1 |
ddim yn gymwys |
250-499 |
2 |
1 |
1 |
500-749 |
2 |
1 |
1 |
750-999 |
3 |
1 |
1 |
1 000-1 499 |
4 |
2 |
1 |
1 500-1 999 |
5 |
2 |
1 |
2 000-2 749 |
6 |
3 |
2 |
2 750-3 749 |
7 |
3 |
2 |
3 750-4 749 |
8 |
4 |
2 |
4 750- 5 999 |
9 |
4 |
2 |
> 6 000 |
10 |
5 |
3 |
|
Ar gyfer NO2 a mater gronynnol: i gynnwys o leiaf un orsaf â chefndir trefol ac un orsaf sy'n cyfeirio at draffig |
|
|
(b)
Ffynonellau pwynt
I asesu llygredd yng nghyffiniau ffynonellau pwynt, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth ddwyseddau allyriannau, patrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl y boblogaeth.
RHAN
II
Isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu a ydys yn cydymffurfio â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau heblaw crynoadau
Os yw'r crynodiadau uchaf yn uwch na'r trothwy asesu uchaf
|
Os yw'r crynodiadau uchaf rhwng y trothwy asesu uchaf a'r trothwy asesu isaf
|
1 orsaf i bob 20 000 km2 |
1 orsaf i bob 40 000 km2 |
Mewn parthau ar ynysoedd, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth batrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl yr ecosystemau neu'r llystyfiant.
ATODLEN 5Rheoliad 7(5), (8)
AMCANION ANSAWDD DATA A LLUNIO CANLYNIADAU ASESIADAU ANSAWDD AER
RHAN
I
Amcanion ansawdd-data
Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer y cywirdeb y mae ei angen ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.
|
Sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen
|
Mater gronynnol a phlwm
|
Mesur di-dor |
|
|
Cywirdeb |
15 % |
25 % |
Isafswm ar gyfer cofnodi data |
90 % |
90 % |
Mesur dangosol |
|
|
Cywirdeb |
25 % |
50 % |
Isafswm ar gyfer cofnodi data |
90 % |
90 % |
Isafswm amser |
14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.) |
14 % (Un mesuriad yr wythnos ar hap, wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn, neu wyth wythnos wedi'u dosbarthu'n gyfartal drwy'r flwyddyn.) |
Modelu |
|
|
Cywirdeb: Cyfartaleddau fesul-awr Cyfartaleddau dyddiol Cyfartaleddau blynyddol |
50 %-60 % 50 % 30 % |
50 % |
Amcangyfrif gwrthrychol |
|
|
Cywirdeb: |
75 % |
100 % |
Diffinnir cywirdeb y gwaith mesur fel y mae wedi'i nodi yn y "Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements" (ISO 1993)[8] neu ISO 5725-1 "Accuracy (trueness and precision) of measurement methods and results" (ISO 1994)[9]. Mae'r canrannau yn y tabl yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu, dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 98% (bias + dwy waith y gwyriad safonol). Dylai'r cywirdeb ar gyfer mesuriadau di-dor gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol.
Mae'r cywirdeb ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth.
Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn.
Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer mater gronynnol a phlwm drwy ddulliau y dangoswyd bod eu cywirdeb o fewn y cyfwng hyder 95% mewn perthynas â monitro di-dor wedi bod o fewn 10%.
RHAN
II
Canlyniadau asesiadau ansawdd aer
Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau neu grynoadau y defnyddir ffynonellau heblaw mesuriadau ynddynt i gydategu'r wybodaeth o fesuriadau neu fel yr unig ddull o asesu ansawdd yr aer:
- disgrifiad o'r gweithgareddau asesu a wnaed;
- y dulliau penodol a ddefnyddiwyd, gan gyfeirio at ddisgrifiadau o'r dull;
- y ffynonellau data a gwybodaeth;
- disgrifiad o'r canlyniadau, gan gynnwys y cywirdebau ac, yn benodol, hyd a lled unrhyw ardal neu, os yw'n berthnasol, hyd y ffordd yn y parth neu'r crynhoad lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r gwerth(oedd) terfyn neu, yn ôl fel y digwydd, y gwerth(oedd) terfyn plws goddefiant/goddefiannau cymwysadwy a hyd a lled unrhyw ardal lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r trothwy asesu uchaf neu'r trothwy asesu isaf);
- ar gyfer gwerthoedd terfyn sy'n anelu at ddiogelu iechyd pobl, y boblogaeth a allai gael ei datguddio i grynodiadau sydd yn uwch na'r gwerth terfyn.
Os oes modd rhaid llunio mapiau sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth a chrynhoad.
ATODLEN 6Rheoliad 7(6)
DULLIAU CYFEIRIO AR GYFER ASESU CRYNODIADAU SULPHUR DIOXIDE, NITROGEN DIOXIDE AC OCSIDAU NITROGEN, MATER gronynnol (PM10 A PM2.5) A PHLWM
RHAN
I
Dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi sulphur dioxide;
ISO/FDIS 10498 (Safon ar ffurf drafft) Ambient air - determination of sulphur dioxide - ultraviolet fluorescence method[10].
RHAN
II
Dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen:
ISO 7996: 1985 Ambient air - determination of the mass concentrations of nitrogen oxides - chemiluminescence method[11].
RHAN
IIIA
Dull cyfeirio ar gyfer samplu plwm:
Y dull cyfeirio ar gyfer samplu plwm fydd y dull a ddisgrifir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/884/EEC[12] nes yr amser pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, pryd y bydd y dull cyfeirio yr un fath ag ar gyfer PM10 sydd wedi'i nodi yn Rhan IV o'r Atodlen hon.
RHAN
IIIB
Dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi plwm:
ISO 9855: 1993 Ambient air - Determination of the particulate lead content of aerosols collected in filters. Atomic absorption spectroscopy method[13].
RHAN
IV
Dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10
Y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10 fydd y dull a ddisgrifir yn EN 12341 "Air Quality - Field Test Procedure to Demonstrate Reference Equivalence of Samplung Methods for the PM10 fraction of particulate matter"[14]. Mae'r egwyddor fesur wedi'i seilio ar gasglu'r gyfran PM10 o fater gronynnol amgylchynol ar hidlwr a darganfod y màs grafimetrig.
ATODLEN 7Rheoliad 9(1), (3), (4)
GWYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y CYNLLUN NEU'R RHAGLEN AR GYFER GWELLA ANSAWDD AER
1.
Lleoli llygredd gormodol
- gorsaf fesur (map, cyfesurynnau daearyddol);
2.
Gwybodaeth gyffredinol
- y math o barth (dinas, ardal ddiwydiannol neu wledig)
- amcangyfrif o'r ardal lygredig (km2) ac o'r poblogaethau sydd wedi'u datguddio i'r llygredd
- data defnyddiol am yr hinsawdd
- data perthnasol am y dopograffeg
- digon o wybodaeth am y math o dargedau y mae angen eu diogelu yn y parth.
3.
Yr awdurdodau cyfrifol
Enwau a chyfeiriadau'r personau sy'n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau gwella a'u rhoi ar waith.
4.
Natur y llygredd a'i asesu
- y crynodiadau a welwyd dros y blynyddoedd blaenorol (cyn gweithredu'r mesurau gwella)
- y crynodiadau a fesurwyd ers dechrau'r project
- y technegau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesu
5.
Tarddiad y llygredd
- rhestr o'r prif ffynonellau allyrru sy'n gyfrifol am y llygredd (map)
- cyfanswm yr allyriannau o'r ffynonellau hyn (tunelli y flwyddyn)
- gwybodaeth am lygredd sydd wedi'i fewnforio o ranbarthau eraill.
6.
Dadansoddiad o'r sefyllfa
- manylion y ffactorau hynny sy'n gyfrifol am y gormodedd (trafnidiaeth, gan gynnwys trafnidiaeth ar draws ffiniau, ei ffurfiant)
- manylion y mesurau posibl ar gyfer gwella ansawdd yr aer.
7.
Manylion y mesurau neu'r projectau ar gyfer gwelliannau a oedd yn bodoli cyn 21 Tachwedd 1996, h.y.
- mesurau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, rhyngwladol
- yr effeithiau a welwyd yn sgil y mesurau hynny
8.
Manylion y mesurau neu'r projectau hynny a fabwysiadwyd gyda golwg ar leihau llygredd ar ôl 21 Tachwedd 1996
- rhestr a disgrifiad o'r holl fesurau a nodwyd yn y project
- amserlen ar gyfer gweithredu
- amcangyfrif o'r gwelliant y bwriedir ei gael yn ansawdd yr aer ac o'r amser y disgwylir y bydd ei angen i gyrraedd yr amcanion hynny.
9.
Manylion y mesurau neu'r projectau sydd wedi'u cynllunio neu sy'n cael eu hymchwilio at y tymor hir.
10.
Rhestr o'r cyhoeddiadau, y dogfennau, y gwaith, etc. a ddefnyddiwyd i gydategu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn yr Atodlen hon.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ynghylch asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol, a Chyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm, sef "y llygrynnau perthnasol" mewn aer amgylchynol.
Mae rheoliad 3 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd crynodiadau'r llygrynnau perthnasol ym mhob parth yng Nghymru yn uwch na'r gwerthoedd terfyn. Nodir gwerthoedd terfyn pob llygryn, ac erbyn pa bryd y mae'n rhaid eu cyrraedd, yn Atodlen 1.
Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr aer amgylchynol yn cael ei asesu ar gyfer pob parth.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol. Mae rheoliad 5, ynghyd ag Atodlen 2, yn darparu ar gyfer darganfod y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer pob llygryn perthnasol, ac mae rheoliad 5 yn nodi'r gofynion ar gyfer mesur ansawdd aer, neu ei asesu fel arall, yn dibynnu ar lefelau'r llygredd mewn perthynas â'r trothwyon hyn.
Mae rheoliad 6 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu dosbarthiad y parthau bob pum mlynedd neu os ceir newidiadau arwyddocaol sy'n effeithio ar lefelau unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol.
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod dulliau penodedig yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer ar gyfer pob llygryn ym mhob parth. Mae Atodlen 3 yn nodi sut y mae'n rhaid pennu'r pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol. Mae Atodlen 4 yn nodi'r meini prawf ar gyfer isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu'r cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn mewn parthau lle nad oes unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall, ac â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau penodol eraill. Yn Atodlen 5 gwneir darpariaeth ar gyfer amcanion ansawdd data ar gyfer cywirdeb angenrheidiol y dulliau asesu, ac ar gyfer llunio canlyniadau'r asesiadau ansawdd aer. Mae Atodlen 6 yn rhagnodi'r dulliau cyfeirio ar gyfer y dadansoddi'r llygrynnau perthnasol, eu samplu neu eu mesur. Mae rheoliad 7(7) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod gorsafoedd mesur yn cyflenwi data ar grynodiadau mater gronynnol PM2.5.
Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os oes risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide. Nodir trothwyon rhybuddio sulphur dioxide a nitrogen dioxide ym mharagraff 1.2 o Ran I a pharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1, yn y drefn honno.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestrau o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch na'r gwerth terfyn, neu rhwng y gwerth terfyn ac unrhyw oddefiant a ddangosir yn Atodlen 1. Ar gyfer parthau o'r fath, mae rheoliad 9 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i lunio cynllun neu raglen, y mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 7 (gan gynnwys lleoliad a tharddiad y llygredd, yr awdurdodau cyfrifol a'r mesurau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r llygredd).
Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol restru parthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol o dan y gwerthoedd terfyn, a hynny er mwyn sicrhau bod lefelau'r llygrynnau hyn yn cael eu cadw o dan y gwerthoedd terfyn, ac er mwyn ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gydnaws â datblygu cynaliadwy.
Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y trefnir bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd, a hynny fel rhan o'r drefn. Mae'n rhagnodi amlder a chynnwys yr wybodaeth hon. Os eir yn uwch na'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sulphur dioxide neu nitrogen dioxide, rhaid darparu gwybodaeth bellach, a nodir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1. (Mae hyn yn cynnwys manylion lle ac amser y digwyddiad, rhagolygon, a'r rhagofalon sydd i'w cymryd gan boblogaethau sensitif).
Mae rheoliad 12 yn diddymu, ar gyfer Cymru, ac ar wahanol ddyddiadau, rannau o Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 sy'n rhoi effaith i werthoedd terfyn y llygrynnau perthnasol mewn cyfarwyddebau cynharach. Yn eu tro, yr oedd Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 80/779/EEC ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a chanllawiau ar gyfer sulphur dioxide a gronynnau mewn daliant; Cyfarwyddeb y Cyngor 82/884/EEC ynghylch gwerth terfyn ar gyfer plwm yn yr aer; a Chyfarwyddeb y Cyngor 85/203/EEC ynghylch safonau ansawdd aer ar gyfer nitrogen dioxide. Mae'r Cyfarwyddebau hyn wedi'u diddymu, gyda darpariaethau trosiannol hyd at 2005 a 2010, gan Gyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC.
Mae nifer o ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn rhoi pwerau i gyrff cyhoeddus sy'n berthnasol ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer sulphur dioxide, nitrogen dioxide ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm yn yr aer amgylchynol. Dyma'r mwyaf nodedig ohonynt -
1.
Darpariaethau sy'n rhoi pwer i'r awdurdodau lleol -
(a) ynghylch "local air quality management" o dan Ran IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25);
(b) ar gyfer rheoli allyriannau mwg o dan Ddeddf Aer Glân 1993 (p.11);
(c) ar gyfer cymryd materion ansawdd aer i ystyriaeth wrth wneud cynlluniau ar gyfer cynllunio defnyddio tir a thrafnidiaeth;
(ch) ar gyfer rheoli twf traffig ac ar gyfer rheoli traffig, o dan Ddeddf Lleihau Traffig Ffyrdd 1997 (p.54), Deddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) a Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40).
2.
Rheoli allyriannau diwydiannol -
(a) gan yr awdurdodau lleol drwy gyfrwng "local air pollution control" a chan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan "integrated pollution control" o dan Ran I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43);
(b) gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r awdurdodau lleol drwy ddefnyddio "integrated pollution prevention and control" o dan Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24) a Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973).
3.
Rheoli allyriannau trafnidiaeth -
Mae cyfres o reoliadau ar allyriannau cerbydau sy'n trawsosod Cyfarwyddebau'r EC yn gosod terfynau ar allyriannau cerbydau gan gynnwys: O.S. 1992 Rhif 2137 (sy'n ymdrin â 91/441/EEC a 91/542/EEC); O.S. 1993 Rhif 2199 (sy'n ymdrin â chyfarwyddeb 93/59/EEC); O.S. 1995 Rhif 2210 (sy'n ymdrin â chyfarwyddeb 94/12/EC); O.S. 1997 Rhif 1544 (sy'n ymdrin â 96/69/EC) ac O.S. 2000 Rhif 3197 (sy'n ymdrin â chyfarwyddeb 98/69/EC). Pennwyd safonau amgylcheddol ar gyfer tanwydd ym 1994 (O.S 1994 Rhif 2295) a 1999 (O.S 1999 3107).
Nodir disgrifiad llawn o'r holl fesurau y ceisir cyrraedd y gwerthoedd terfyn drwyddynt yn "Air Quality Strategy for England, Scotland, Wales and Northern Ireland" a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a'r Rhanbarthau, Gweithrediaeth yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, Ionawr 2000 (Cm. 4548).
Notes:
[1]
1998 p.38back
[2]
1972 p.68back
[3]
O.S. 2000/2812back
[4]
O.S. 1989/317back
[5]
OJ L229, 30.8.1980, t.30back
[6]
Mae'r ffigurau ar gyfer Goddefiannau ar gyfer pob un o'r llygrynnau perthnasol a roddir yn yr Atodlen hon wedi'u cyfrifo o'r rhai a roddir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 99/30/EC. Rhoes honno ffigur uwchlaw gwerth terfyn pob llygryn perthnasol, gan ostwng yn ôl canrannau blynyddol cyfartal o'r dyddiad y daeth y Gyfarwyddeb honno i rym ym 1999.back
[7]
Mae'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer PM10 wedi'u seilio ar y gwerthoedd terfyn dangosol canlynol ar gyfer 1 Ionawr 2010, a gaiff eu hadolygu yng ngoleuni gwybodaeth bellach am yr effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd, ymarferoldeb technegol a phrofiad wrth gymhwyso gwerthoedd terfyn presennol "Cyfnod 1":
|
Cyfnod Cyfartaleddu
|
Gwerth terfyn
|
Goddefiant
|
Erbyn pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn
|
1. Gwerth terfyn 24-awr ar gyfer diogelu iechyd pobl |
24 awr |
50 µg/m3 o PM10 y mae'n rhaid peidio â mynd yn uwch nag ef fwy na 7 gwaith y flwyddyn galendr |
I'w gyfrifo o'r dyddiad ac i fod yn gyfartal â gwerth terfyn Cyfnod 1 |
1 Ionawr 2010 |
2. Gwerth terfyn blynyddol ar gyfer diogelu iechyd pobl
|
Blwyddyn galendr |
20 µg/m3 o PM10 |
50% ar 1 Ionawr 2005 gan ostwng bob12 mis wedyn yn ôl canrannau cyfartal nes cyrraedd 0% erbyn 1 Ionawr 2010. |
1 Ionawr 2010 |
[8]
Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back
[9]
Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back
[10]
Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back
[11]
Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back
[12]
OJ 1378, 31.12.1982, t.15.back
[13]
Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back
[14]
Cyhoeddiad y "CEN", Sefydliad Safonau Ewrop, cyfeirnod BSEN 12341, sydd ar gael oddi wrth Sefydliad Safonau Prydain "BSI" fel ar gyfer troednodyn (a) uchod.back
English version
ISBN
0 11090348 X
|
Prepared
17 October 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012683w.html