BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012705w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2705 (Cy.225) (C.90)

ADDYSG, CYMRU

CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU

Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 17 Gorffennaf 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2) a (4) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[1]:

Enwi a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru, a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben.

Y darpariaethau sy'n dod i rym
    
2.  - (1) Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.

    (2) Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2002.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorfennaf 2001



YR ATODLEN
Erthygl 2



RHAN I

Darpariaethau sy'n dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2002

Adran 36.

Adran 113.

Adran 140 (1) a (2) a (4), (5) a (6) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.

Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 9 a bennir isod.

Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.

Atodlen 7.

Yn Atodlen 9  - 

Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru  - 



RHAN II

Darpariaethau sy'n dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2002

Adran 97.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002. Mae hefyd yn dod â'r darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym, a hynny ar 1 Medi 2002.

Esbonnir effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen isod.

Mae adran 36 yn rhoi p er i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant ("y Cyngor Cenedlaethol") roi grantiau i awdurdod addysg lleol ar gyfer addysg a ddarperir gan ysgolion ar gyfer y rheiny sydd dros oedran ysgol gorfodol.

Mae adran 113 yn dod ag Atodlen 7 i rym, sy'n cynnwys pwerau a dyletswyddau sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech annigonol. Yn benodol, mae'n rhoi p er i'r Cyngor Cenedlaethol gyhoeddi cynigion i gau darpariaeth chweched dosbarth a gynhelir yn dilyn dau adroddiad arolygu anffafriol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer gweithdrefn i ymdrin â gwrthwynebiadau y mae'n rhaid ei dilyn cyn y gellir gweithredu unrhyw gynigion o'r fath.

Mae adran 140 ((1) - (2) a (4) i(6)) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol mewn amgylchiadau penodol i drefnu ar gyfer asesiad i berson y cedwir datganiad o anghenion arbennig ar ei gyfer. Rhaid i'r asesiad gael ei wneud yn ystod blwyddyn olaf orfodol y person hwnnw yn yr ysgol.

Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu trefn yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Esbonnir effaith y ddarpariaeth a bennir yn Rhan II o'r Atodlen isod.

Mae adran 97 yn gymwys i sefydliad neu gyflogwr, sy'n darparu cyrsiau ar gyfer y rhai 19 oed a throsodd, ac a ariennir gan awdurdod addysg lleol neu'r Cyngor Cenedlaethol. Mae'n gosod sefydliad neu gyflogwr o'r fath o dan ddyletswydd i beidio â gwneud unrhyw daliad mewn perthynas â chymhwyster allanol onid yw'r cymhwyster hwnnw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Daethpwyd neu deuir â'r darpariaethau canlynol yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 i rym, mewn perthynas â Chymru, gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y Ddarpariaeth Y Dyddiad Cychwyn Rhif yr O.S.
Adrannau 104, 105, 107 a 108 3 Awst 2000 2000/2114(C.56)
Adran 94 ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 87 o Atodlen 9.

Yn atodlen 9, paragraff 87.

1 Medi 2000 2000/2114(C.56
Adrannau 30, 47, 49 a 51, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod.

Atodlen 4.

Yn Atodlen 9, paragraffau 3, 4 a 93.

19 Medi 2000 2000/2540 (Cy.163)(C.70)
Adrannau 134 - 136 a 146, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 14 o Atodlen 9.

Yn Atodlen 9, paragraff 14.

1 Hydref 2000 2000/2559(C.73)
Adrannau 42, 43, 44, 46, 48, 73, 87, 93, 95, 139, 141 a 145. Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 11 y cyfeirir atynt isod.

Atodlen 5.

Yn Atodlen 9, paragraffau 21(b), 34, 36, 44(3) a (4), 45, 64, 70, 81, 86 a 92.

Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol  - 

    Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adrannau 18 a 60A, ac Atodlen 5A,

Deddf Addysg 1996, paragraff 113 o Atodlen 37, Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 19 a 22,

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 125 a 126, ac Atodlen 27, Deddf Llywodraeth Cymru 1998, adran 104(4).

1 Ionawr 2001 2000/3230 (Cy.213) (C.103)
Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a bennir isod.

Adran 151 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth yn Atodlen 10 a bennir isod.

Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 11 y cyfeirir atynt isod.

Yn Atodlen 9, paragraffau 11, 35, 37, 38, 39, 41 -  43, 47 - 50, 52(3), 83 ac 88.

Yn Atodlen 10, Rhan IV.

Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol  - 

    Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adran 91(2),

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 142(1).

1 Ebrill 2001 2001/654(C.25)
Adrannau 31 - 35, 37 -  41, 45, 50, 74 - 86, 88, 91, 99. Adran 103(1), (2) a (3) i'r graddau y mae angen hynny at ddibenion adran 103(4)(b).

Adrannau 103(4), 110 - 112, 123 - 129, 137, 138, 140(3). Adran 140(4), (5) a (6) i'r graddau y mae eu hangen at ddibenion adran 140(3). Adrannau 142 - 144.

Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a bennir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.

Yn Atodlen 9, paragraffau 5 - 10, 12, 13, 15 -  17, 20, 21(a), 22 - 30, 32, 33, 40, 44(1) a (2), 46, 51, 52(1) a (2), 53 - 56, 59, 65, 66, 67 (5), 68, 72 - 74. Paragraff 75(a) a (b), ac (c) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 34 o Ddeddf Medrau a Dysgu 2000. Paragraffau 76 - 80 a 94.

Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol  - 

    Deddf Blwydd-dâl 1972, Atodlen 1,

Deddf Anghymhwyso o Dy'r Cyffredin 1975, Rhan III o Atodlen I ,

Deddf Gwahaniaethau ar sail Rhyw 1975, adran 25(6)(d),

Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976, adran 19(6)(d),

Deddf Diwygio Addysg 1988, adran 124(2)(b),

Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adrannau 1 - 9, 28(2)(b), 32(2A), 44(6), 45(6), 52(1), 55(1) - (3) a (7), 56, ac Atodlen 2,

Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, adrannau 19(6)(f) a 30(2) - (4),

Deddf Addysg 1996, adrannau 15, 509(1) a pharagraffau 70 a 112 o Atodlen 37,

Deddf Addysg 1997, adran 30(1) a (3),

Deddf y Comisiwn Archwilio 1998, adran 36(1) a (2),

Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 26(1) a (2), 28(1)(a) a 34,

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraffau 41 a 42 o Atodlen 30.

1 Ebrill 2001 2001/ 1274 (Cy.73) (C. 46)
Adrannau 96, 100(2), 102, 103(5) a 148. 1Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 57 o Atodlen 9.

Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.

Yn Atodlen 9, paragraff 57.

Yn Atodlen 11, y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol  - 

    Deddf Addysg 1996, adran 403(1),

Deddf Addysg 1997, adran 37(1) - (4), a 37(5).

1 Medi 2001 2001/ 1274 (Cy.73) (C.46 )


Notes:

[1] 2000 p.21.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090351 X


  Prepared 17 October 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012705w.html