BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012706w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2706 (Cy.226)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 17 Gorffennaf 2001 
  Yn dod i rym
  Rheoliadau 1 i 4 a 5(a) 1 Awst 2001 
  Rheoliad 5(b) 1 Medi 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001, ac eithrio rheoliad 5(b) a ddaw i rym ar 1 Medi 2001.

    (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992
    
2. Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau")[2] yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau
     3. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli) - 

Diwygio rheoliad 19 o'r prif Reoliadau
    
4. Yn rheoliad 19 o'r prif Reoliadau (Datganiad o Dâl Deintyddol) - 

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
    
5. Yn Atodlen 1 (telerau gwasanaeth ar gyfer deintyddion) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


Dafydd Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Gorffennaf 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (O.S. 1992/661) ("y prif Reoliadau") sy'n rheoleiddio ar ba delerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae'r Rheoliadau'n diwygio rheoliad 19(1) o'r prif Reoliadau fel bod y cofnod ar gyfer pwnc dyfarniad VIII, "Lwfansau datblygiad proffesiynol parhaus" yn cael ei roi yn lle "Lwfansau addysg ôl-raddedig" a bod dyfarniad X newydd yn cael ei ychwanegu, ar y pwnc "Lwfansau archwiliadau clinigol".

Mae'r Rheoliadau'n diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau ymhellach, sef Atodlen sy'n nodi'r telerau gwasanaeth sy'n gymwys i ddeintyddion sydd ar restr ddeintyddol Awdurdod Iechyd. Ychwanegir tri theler gwasanaeth newydd i'r perwyl y bydd rhaid i ddeintydd, dros gyfnodau o dair blynedd yn olynol, wneud 15 awr o weithgareddau sy'n cynnwys archwilio clinigol, sefydlu a gweithredu system sicrwydd ansawdd sydd wedi'i seilio ar y practis a rhoi ffurflen flynyddol i'r Awdurdod Iechyd ar gyfer y system honno.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 5(2) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"); gan Ddeddf 1990, adran 12(1) a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 6(e). Amnewidiwyd adran 35(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24. Rhifwyd adran 36(1) felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan adran 25 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), ac Atodlen 2, paragraff 4 iddi; gan Ddeddf 1990, adran 24(2) a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 25(a). Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back

[2] O.S.1992/661; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1993/2209, 1995/3092, 1996/704, 1998/1648 a 2000/3118.back

[3] Mewnosodwyd paragraff 31D gan O.S.1998/1648, rheoliad 7(4).back

[4] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090306 4


  Prepared 8 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012706w.html