BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholiadau: Papurau Enwebu) (Ffurflen Gymraeg) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012914w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2914 (Cy. 244)

Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL DATGANOLI, CYMRU

CYNRYCHIOLAETH Y BOBL

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholiadau: Papurau Enwebu) (Ffurflen Gymraeg) 2001

  Wedi'i wneud 15 Awst 2001 
  Yn dod i rym 16 Awst 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog priodol gan adran 26(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Etholiadau: Papurau Enwebu) (Ffurflen Gymraeg) 2001 a daw i rym ar 16 Awst 2001.

Ffurf Gymraeg
    
2.  - (1) Rhagnodir drwy hyn mai "Annibynnol" yw'r ffurfeiriad Cymraeg ar gyfer y gair "Independent" a bennir yn adran 22(3)(a)(i) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000[2].

    (2) Gall y ffurfeiriad Cymraeg a ragnodir gan baragraff (1) gael ei ddefnyddio yn ychwanegol at y gair Saesneg cyfatebol neu yn ei le mewn etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


Jenny Randerson
Ysgrifennydd y Cynulliad dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg

15 Awst 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 16 Awst 2001, yn gymwys i etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae adran 22 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p.41) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofrestru pleidiau er mwyn iddynt gynnig ymgeiswyr mewn etholiadau perthnasol ("relevant elections") (sydd yn rhinwedd adran 22(5)(d) yn cynnwys etholiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol). Gwneir hynny drwy ddarparu na chaiff person sefyll yn ymgeisydd mewn etholiad o'r fath oni bai bod yna dystysgrif, i'w awdurdodi fel ymgeisydd, ac wedi'i rhoi gan neu ar ran swyddog enwebu plaid gofrestredig gymwys yn cyd-fynd â'i bapur enwebu, neu os yw ei bapur enwebu naill ai'n rhoi'r disgrifiad "Independent" neu os nad yw'n rhoi dim disgrifiad o gwbl.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi mai "Annibynnol" yw'r ffurfeiriad Cymraeg ar gyfer y gair "Independent" sydd i'w ddefnyddio i ddisgrifio'r ymgeisydd yn y papur enwebu mewn perthynas ag etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.


Notes:

[1] 1993 p.38. I gael ystyr "the appropriate Minister" gweler adran 27(4) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. O dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn), i'r graddau yr oedd y swyddogaeth a enwyd i "the appropriate Minister" yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, fe'i gwnaed yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan unrhyw un o Weinidogion y Goron yr oedd y per hwnnw yn arferadwy ganddo.back

[2] 2000 p.41.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090328 5


  Prepared 28 August 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012914w.html