BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif. 2963 (Cy.245)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
23 Awst 2001 | |
|
Yn dod i rym |
24 Awst 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 83(1) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[3] a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 52(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[4]).
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Diwygio) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 24 Awst 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod yng Nghymru
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
(a) cyngor sir,
(b) cyngor bwrdeistref sirol, ac
(c) cyngor cymuned;
ystyr "y Gorchymyn Cymunedau" yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Datganiad Derbyn Swydd) 1990[5];
ystyr "y Gorchymyn Prif Gynghorau" yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Datganiad Derbyn Swydd) 1990[6];
ystyr "y Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg" yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Datganiad Derbyn Swydd) (Ffurflenni Cymraeg) 1991[7].
Diwygio'r Gorchymyn Cymunedau
3.
- (1) Mae'r Gorchymyn Cymunedau'n cael ei ddiwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn yr Erthygl hon.
(2) Ar ôl Erthygl 1, yn lle "Form of declaration of acceptance of office", rhowch "Forms of declaration of acceptance of office".
(3) Yn lle Erthygl 2, rhowch -
"
2.
- (1) The declaration of acceptance of office by the chairman or a councillor of a community council which has not at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 for the first time shall be in the form in Schedule 1 to this Order, or a form to the like effect.
(2) The declaration of acceptance of office by the chairman or a councillor of a community council which has at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 shall be in the form in Schedule 2 to this Order, or a form to the like effect.".
(4) Ar ôl Erthygl 2,
(a) yn lle "SCHEDULE", rhowch "SCHEDULE 1",
(b) yn lle "Article 2", rhowch "Article 2(1)", ac
(c) yn lle "DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE", rhowch "DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE WHERE COMMUNITY COUNCIL HAS NOT AT THE TIME OF DECLARATION ADOPTED A CODE OF CONDUCT UNDER SECTION 51 OF THE LOCAL GOVERNMENT ACT 2000 FOR THE FIRST TIME".
(5) Ar ôl Atodlen 1, rhowch -
"
SCHEDULE 2Article 2(2)
DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE WHERE COMMUNITY COUNCIL HAS AT THE TIME OF DECLARATION ADOPTED A CODE OF CONDUCT UNDER SECTION 51 OF THE LOCAL GOVERNMENT ACT 2000
I,
, having been elected to the office of (insert description of office) declare that I take that office upon myself, and will duly and faithfully fulfil the duties of it according to the best of my judgement and ability.
I undertake to observe this council's code of conduct for the time being adopted under section 51 of the Local Government Act 2000 in the performance of my functions in that office.
Date
(Signed)
This declaration was made and signed before me,
(Signed)
Member/proper officer of the council of the community/town of
".
Diwygio'r Gorchymyn Prif Gynghorau
4.
- (1) Mae'r Gorchymyn Prif Gynghorau'n cael ei ddiwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn yr Erthygl hon.
(2) Ar ôl Erthygl 1, yn lle "Form of declaration of acceptance of office", rhowch "Forms of declaration of acceptance of office".
(3) Yn lle Erthygl 2, rhowch -
"
2.
- (1) The declaration of acceptance of office by the chairman, vice-chairman, councillor or elected mayor of the council of a county or county borough which has not at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 for the first time shall be in the form in Schedule 1 to this Order, or a form to the like effect.
(2) The declaration of acceptance of office by the chairman, vice-chairman, councillor or elected mayor of the council of a county or county borough which has at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 shall be in the form in Schedule 2 to this Order, or a form to the like effect.".
(4) Ar ôl Erthygl 2,
(a) yn lle "SCHEDULE", rhowch "SCHEDULE 1",
(b) yn lle "Article 2", rhowch "Article 2(1)", ac
(c) yn lle "DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE", rhowch "DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE WHERE COUNTY OR COUNTY BOROUGH COUNCIL HAS NOT AT THE TIME OF DECLARATION ADOPTED A CODE OF CONDUCT UNDER SECTION 51 OF THE LOCAL GOVERNMENT ACT 2000 FOR THE FIRST TIME".
(5) Ar ôl Atodlen 1, rhowch -
"
SCHEDULE 2 Article 2(2)
DECLARATION OF ACCEPTANCE OF OFFICE WHERE COUNTY OR COUNTY BOROUGH COUNCIL HAS AT THE TIME OF DECLARATION ADOPTED A CODE OF CONDUCT UNDER SECTION 51 OF THE LOCAL GOVERNMENT ACT 2000
I,
, having been elected to the office of (insert description of office) declare that I take that office upon myself, and will duly and faithfully fulfil the duties of it according to the best of my judgement and ability.
I undertake to observe this council's code of conduct for the time being adopted under section 51 of the Local Government Act 2000 in the performance of my functions in that office.
Date
(Signed)
This declaration was made and signed before me,
(Signed)
*Proper officer of the council of the county or county borough of
*If the declaration is made before any other person authorised by section 83(3) of the Local Government Act 1972, adapt accordingly.".
Diwygio'r Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg
5.
- (1) Mae'r Gorchymyn Ffurflenni Cymraeg yn cael ei ddiwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn yr Erthygl hon.
(2) Yn lle Erthygl 2, rhowch -
"
2.
- (1) The declaration of acceptance of office by the chairman, vice-chairman, councillor or elected mayor of the council of a county or county borough which has not at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 for the first time may be in the form in Schedule I to this Order, or a form to the like effect, in place of the declaration of acceptance of office set out in Schedule 1 to the Local Elections (Principal Areas) (Declaration of Acceptance of Office) Order 1990.
(2) The declaration of acceptance of office by the chairman, vice-chairman, councillor or elected mayor of the council of a county or county borough which has at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 may be in the form in Schedule IA to this Order, or a form to the like effect, in place of the declaration of acceptance of office set out in Schedule 2 to the Local Elections (Principal Areas) (Declaration of Acceptance of Office) Order 1990.".
(3) Yn lle Erthygl 3, rhowch -
"
3.
- (1) The declaration of acceptance of office by the chairman or a councillor of a community council which has not at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 for the first time may be in the form in Schedule II to this Order, or a form to the like effect, in place of the declaration of acceptance of office set out in Schedule 1 to the Local Elections (Parishes and Communities) (Declaration of Acceptance of Office) Order 1990.
(2) The declaration of acceptance of office by the chairman or a councillor of a community council which has at the time of declaration adopted a code as regards the conduct which is expected of its members and co-opted members under section 51 of the Local Government Act 2000 may be in the form in Schedule IIA to this Order, or a form to the like effect, in place of the declaration of acceptance of office set out in Schedule 2 to the Local Elections (Parishes and Communities) (Declaration of Acceptance of Office) Order 1990.".
(4) Yn Atodlen I -
(a) yn lle "Article 2", rhowch "Article 2(1)", a
(b) yn lle "DATGANIAD DERBYN SWYDD", rhowch "DATGANIAD DERBYN SWYDD OS NAD YW'R CYNGOR SIR NEU'R CYNGOR BWRDEISTREF SIROL AR ADEG Y DATGANIAD WEDI MABWYSIADU COD YMDDYGIAD O DAN ADRAN 51 O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 AM Y TRO CYNTAF".
(5) Ar ôl Atodlen I, rhowch -
"
SCHEDULE IAArticle 2(2)
DATGANIAD DERBYN SWYDD OS YW'R CYNGOR SIR NEU'R CYNGOR BWRDEISTREF SIROL AR ADEG Y DATGANIAD WEDI MABWYSIADU COD YMDDYGIAD O DAN ADRAN 51 O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000
Yr wyf fi,
, gan i mi gael fy ethol i swydd (nodwch ddisgrifiad o'r swydd) yn datgan fy mod yn cymryd arnaf fy hun y swydd honno, ac y cyflawnaf ddyletswyddau'r swydd honno yn briodol ac yn ffyddlon hyd eithaf fy marn a'm gallu.
Yr wyf yn ymgymryd i barchu cod ymddygiad y cyngor hwn sydd am y tro wedi'i fabwysiadu o dan adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 wrth gyflawni fy swyddogaethau yn y swydd honno.
Dyddiad
(Llofnod)
.
Gwnaethpwyd y datganiad hwn a'i lofnodi ger fy mron i
(Llofnod)
* Swyddog priodol cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol
*Addaser yn briodol os gwneir y datganiad gerbron unrhyw berson arall a awdurdodwyd gan adran 83(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.".
(6) Yn Atodlen II -
(a) yn lle "Article 3", rhowch "Article 3(1)", a
(b) yn lle "DATGANIAD DERBYN SWYDD", rhowch "DATGANIAD DERBYN SWYDD LLE NAD YW'R CYNGOR CYMUNED AR ADEG Y DATGANIAD WEDI MABWYSIADU AM Y TRO CYNTAF GOD YMDDYGIAD O DAN ADRAN 51 O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000".
(7) Ar ôl Atodlen II, rhowch -
"
SCHEDULE IIAArticle 3(2)
DATGANIAD DERBYN SWYDD OS NAD YW'R CYNGOR CYMUNED AR ADEG Y DATGANIAD WEDI MABWYSIADU AM Y TRO CYNTAF GOD YMDDYGIAD O DAN ADRAN 51 O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000
Yr wyf fi,
, gan i mi gael fy ethol i swydd (rhowch ddisgrifiad o'r swydd) yn datgan fy mod yn cymryd arnaf fy hun y swydd honno, ac y cyflawnaf ddyletswyddau'r swydd honno yn briodol ac yn ffyddlon hyd eithaf fy marn a'm gallu.
Yr wyf yn ymgymryd i barchu cod ymddygiad y cyngor hwn sydd am y tro wedi'i fabwysiadu o dan adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 wrth gyflawni fy swyddogaethau yn y swydd honno.
Dyddiad
(Llofnod)
Gwnaethpwyd y datganiad hwn a'i gofnodi ger fy mron i,
(Llofnod)
Aelod/swyddog priodol o gyngor cymuned/tref
".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
Jane. E. Hutt
Ysgrifennydd Cynulliad
23 Awst 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Adran 83(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ("Deddf 1972") yn gwahardd person sydd wedi'i ethol i swydd cadeirydd, is-gadeirydd, cynghorydd neu faer etholedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag gweithredu mewn swydd o'r fath oni bai fod y person hwnnw wedi gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd yn y ffurf a ragnodir gan orchymyn a bod y datganiad hwnnw yn cael ei draddodi i'r swyddog priodol yn y cyngor o fewn dau fis o ddyddiad yr etholiad. Os na chaiff datganiad o'r fath ei wneud a'i draddodi i'r swyddog priodol o fewn yr amser a bennwyd, bydd swydd y person hwnnw yn dod yn wag.
O dan adran 83(4) o Ddeddf 1972, bydd swydd person a etholir i swydd cadeirydd cyngor cymuned neu gynghorydd cymuned yn dod yn wag oni bai fod y person hwnnw yn gwneud datganiad ei fod yn derbyn y swydd yn y ffurf a ragnodir gan orchymyn ar yr adeg briodol yng ng ydd personau priodol ac yn ei drosglwyddo i'r cyngor.
Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2000 ("Deddf 2000") yn sefydlu fframwaith moesegol newydd ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Mae Adran 51 o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned (ymysg eraill) fabwysiadu cod ynghylch yr ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth aelodau ac aelodau cyfetholedig y cynghorau hynny.
Mae adran 52 o Ddeddf 2000 yn ymwneud â'r ddyletswydd sydd ar aelodau ac aelodau cyfetholedig cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned i gydymffurfio â'r cod ymddygiad a fabwysiadwyd gan eu cynghorau o dan adran 51 o Ddeddf 2000.
Mae Adran 52(2) o Ddeddf 2000 yn darparu y gall ffurf datganiad derbyn swydd y gellir ei rhagnodi gan orchymyn o dan adran 83 o Ddeddf 1972 gynnwys ymrwymiad gan y sawl sy'n gwneud datganiad y byddant, wrth gyflwani eu swyddogaethau, yn parchu cod ymddygiad y cyngor sir, y cyngor bwrdeistref sirol neu'r cyngor cymuned perthnasol am y tro o dan adran 51 o Ddeddf 2000.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio tri gorchymyn sydd mewn grym o dan adran 83 o Ddeddf 1972 fel y bydd y sawl sy'n gwneud datganiad, pan fo cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned wedi mabwysiadu cod ymddygiad o dan adran 51 o Ddeddf 2000, yn ymrwymo y byddant wrth gyflawni eu swyddogaethau yn parchu cod ymddygiad y cyngor sydd am y tro yn bodoli o dan yr adran honno.
Notes:
[1]
1972 p.70.back
[2]
1993 p.38.back
[3]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S 1999/672).back
[4]
2000 p.22.back
[5]
O.S. 1990/2477.back
[6]
O.S. 1990/932.back
[7]
O.S. 1991/1169.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090341 2
|
Prepared
19 September 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012963w.html