BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012982w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 2982 (Cy.249)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 29 Awst 2001 
  Yn dod i rym 31 Awst 2001 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 [1], ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - 

Teitl, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 31 Awst 2001.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at "yr Atodlen" yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

    (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.

    (4) Yn y Gorchymyn hwn:

Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
     2.  - (1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw yr uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.

    (2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna  - 

    (3) Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna  - 

    (4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.

Diddymu
    
3. Drwy hyn diddymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) 1998[8] mewn perthynas â thir a leolir yng Nghymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Awst 2001



ATODLEN
Erthyglau 1(2) a 2


RHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Defnydd ffermio Uned gynhyrchu Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu
          £
     1. Da byw
    

Buchod llaeth:          
Bridiau Ynysoedd y Sianel buwch 283
Bridiau eraill buwch 335
Buchod bridio cig eidion:          
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996(a) buwch 50(1)
Ar dir arall buwch 41(1)
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) pen 48(2)
Buchod llaeth i lenwi bylchau pen 41(3)
Mamogiaid:          
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996 mamog 20(4)
Ar dir arall mamog 21(5)
Wn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) pen 0.87
Moch:          
Hychod a banwesi torrog hwch neu fanwes 90
Moch porc pen 2.06
Moch torri pen 3.66
Moch bacwn pen 5.13
Dofednod:          
Ieir dodwy aderyn 1.08
Brwyliaid aderyn 0.12
Cywennod ar ddodwy aderyn 0.27
Tyrcwn aderyn 1.23
     2. Cnydau âr fferm
    

Haidd hectar 158(6)
Ffa hectar 75(7)
Had glaswellt hectar 189
Had llin hectar 137(8)
Ceirch hectar 142(9)
Rêp had olew hectar 164(10)
Pys:          
Sych hectar 61(11)
Dringo hectar 257
Tatws:          
Cynnar cyntaf hectar 675
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) hectar 790
Betys siwgr hectar 357
Gwenith hectar 201(12)
     3. Cnydau garddwriaethol awyr agored
    

Ffa cyffredin hectar 409
Ysgewyll Brwsel hectar 1460
Bresych, safwy a brocoli blaguro hectar 1684
Moron hectar 2307
Blodfresych a brocoli'r gaeaf hectar 1017
Seleri hectar 6175
Cennin hectar 3255
Letys hectar 3914
Wynwns:          
Bylbiau sych hectar 1087
Salad hectar 4477
Bylbiau awyr agored hectar 1416
Pannas hectar 2539
Riwbob (naturiol) hectar 3096
Maip a swêds hectar 1289
     4. Cnydau gwarchodedig
    

Narsisi gorfod 1000 metr sgwâr 8294
Tiwlipau gorfod 1000 metr sgwâr 6226
Madarch 1000 metr sgwâr 11272
     5. Ffrwythau'r berllan
    

Afalau:          
Seidr hectar 603
Coginio hectar 1412
Melys hectar 1378
Ceirios hectar 1297
Gellyg hectar 1100
Eirin hectar 1030
     6. Ffrwythau meddal
    

Cyrens Duon hectar 1093
Eirin Mair hectar 1579
Mafon hectar 2974
Mefus hectar 3093
     7. Amrywiol
Hopys
hectar 1700
     8. Neilltir(1)
    

hectar 62



NODIADAU I'R ATODLEN
Erthygl 2(4)



{ d1}{h1} Nodyn i golofn 1



    (1) Ar gyfer y flwyddyn farchnata 1999/2000 mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(5) o Reoliad 1765/92 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 7(4) o Reoliad 1765/92 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at gweithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid.

Nodiadau i golofn 3


    (1) Didynner £103 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4d o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)[
10].

    (2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a gedwir am 12 mis.

    (3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.

    (4) Didynner £22 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5 o Reoliad 2467/98 y Cyngor.

    (5) Didynner £17 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol ar eu cyfer yn cynnwys swm yngln â'r premiwm defaid blynyddol.

    (6) Didynner £241 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1765/92 y Cyngor (Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor)[14].

    (7) Didynner £349 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.

    (8) Didynner £467 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.

    (9) Didynner £240 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.

    (10) Didynner £303 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.

    (11) Didynner £349 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.

    (12) Didynner £241 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngln â thaliad arwynebedd.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 1999 hyd 11 Medi 2000 yn gynhwysol. Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) 1998 mewn perthynas â Chymru.

Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) a 50(2) yn arbennig. Mae "uned fasnachol o dir amaethyddol" yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn ugain oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwn, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw.

Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.


Notes:

[1] 1986 p.5.back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672), trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[3] OJ Rhif L148, 28.6.68, t.24 (OJ / SE 1968(I) t.187) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1633/98 (OJ Rhif L210 28.7.98, t.17) (a oedd yn gymwys hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 1999).back

[4] OJ Rhif L181, 1.7.92, t.12, yn ôl y diwygiad diweddaraf gan Reoliad(EC) Rhif 1624/98 y Cyngor (OJ Rhif L210, 28.7.98, t.3) (a oedd yn gymwys tan 30 Mehefin 2000).back

[5] OJ Rhif L312, 20.11.98, t.1.back

[6] OJ Rhif. L160, 26.6.99, t.1 (a fu'n gymwys o 1 Gorffennaf 2000 ymlaen).back

[7] OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21 (ac eithrio. Erthygl 18, sy'n gymwys ers 1 Ionawr 2000).back

[8] O.S. 1998/2025.back

[9] 1998 p.38.back

[10] Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Ionawr 2000 ymlaen.back

[11] Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Ionawr 2000 ymlaen.back

[12] Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Ionawr 2000 ymlaen.back

[13] Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Ionawr 2000 ymlaen.back

[14] Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Gorffennaf 2000 ymlaen.back



English version



ISBN 0 11090359 5


  Prepared 13 November 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012982w.html