BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2001 Rhif 3323 (Cy.276)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001
|
Wedi'u gwneud |
28 Medi 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Hydref 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Hydref 2001.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "Rheoliadau 1997" ("the 1997 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[2];
ystyr "Rheoliadau 1986" ("the 1986 Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 1986[3].
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
2.
Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster - cyflenwi cyfarpar optegol), ar ôl paragraff (3)(j) ychwanegwch -
"
(k) he is a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act".[4]
Diwygio rheoliad 16 o Reoliadau 1997
3.
Ym mharagraff (5) o reoliad 16 o Reoliadau 1997 (llenwi talebau), yn lle "or (f)" rhowch "(f) or (k)".
Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
4.
Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion golwg - cymhwyster), ar ôl paragraff (2)(j) ychwanegwch -
"
(k) he is a relevant child for the purposes of section 23A of the Children Act 1989 to whose maintenance a responsible local authority is contributing under section 23B(8) of that Act".
Diwygio rheoliad 13B o Reoliadau 1986
5.
Yn rheoliad 13B o Reoliadau 1986 (prawf golwg a drinnir fel prawf golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol) -
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle "or (f)" rhowch "(f) or (k)"; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle "or (f)" rhowch "(f) or (k)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
J.E.Randerson
Ysgrifennydd Cynulliad
28 Medi 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986") .
Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun o daliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol.
Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae Rheoliadau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys diwygiadau sy'n rhoi hawl i bersonau sy'n ymadael â gofal awdurdod lleol ac sy'n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan yr awdurdod hwnnw gael cyfarpar optegol (ac mewn achosion priodol), a chael amnewid a thrwsio cyfarpar optegol yn unol â Rheoliadau 1997.
Mae Rheoliadau 4 a 5 yn cynnwys diwygiadau i reoliadau 1986 fel bod gan bersonau o'r fath hawl i gael prawf ar eu golwg o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol.
Notes:
[1]
1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".
Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27.
Estynnwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf 1980, adran 1 ac Atodlen 1, Rhan I, paragraff 52; gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.
Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).
Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1);
Mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3).
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
[2]
O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 a 3119, 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy. 98).back
[3]
O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1988/486, 1989/395, 1989/1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705, 1996/2320, 1999/693 a 1999/2481 a 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy. 98).back
[4]
1989 p.41; mewnosodwyd adrannau 23A a 23B gan adran 2 o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35).back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090352 8
|
Prepared
19 October 2001
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013323w.html