BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013540w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3540 (Cy.287)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymru) 2001

  Wedi'i wneud 29 Hydref 2001 
  Yn dod i rym 15 Tachwedd 2001 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 87 a 106(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1]:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Etholiadau Lleol (Cymru) 2001 a daw i rym ar 15 Tachwedd 2001.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned yng Nghymru.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn  - 

Gohirio etholiadau cyffredin
     2.  - (1) Yn adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr prif gynghorau), yn lle "1995" ym mhob lle rhowch "2004".

    (2) Yn adran 35 o Ddeddf 1972 (cynghorwyr cymuned), yn lle "1995" rhowch "2004".

    (3) Mae tymor swydd y cynghorwyr presennol o dan adran 26(2) neu adran 35(2) yn cael ei estyn felly â blwyddyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


Jane E. Hutt
Ysgrifennydd Cynulliad

29 Hydref 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)


O dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth sy'n newid ym mha flwyddyn y mae etholiadau cyffredin cynghorwyr unrhyw awdurdod lleol penodedig i gael eu cynnal (heb newid y cynllun sydd eisoes yn bodoli ar gyfer ethol y cynghorwyr hynny).

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer addasu adran 26(1) (Etholiadau Cynghorwyr) ac adran 35(2) (Cynghorwyr Cymuned) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 er mwyn gohirio etholiadau cynghorwyr i bob cyngor sir, pob cyngor bwrdeistref sirol a phob cyngor cymuned yng Nghymru am flwyddyn. Caiff yr etholiadau eu cynnal yn 2004 a phob pedair blynedd wedyn. Mae tymor swydd y cynghorwyr presennol yn cael ei estyn felly â blwyddyn.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] 1972 p.70.back

[3] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090362 5


  Prepared 13 November 2001


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013540w.html