BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013710w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3710 (Cy.306)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 15 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y deddfiadau a bennir yn yr Atodlen:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Diwygiadau Canlyniadol) (Ysgolion) (Cymru) 2001, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2002.

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994
    
3.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994[1] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 9(1) o Atodlen 2 (Darparu gwybodaeth) yn lle'r geiriau "the appropriate further education funding council (as defined in section 1(6) of the Further and Higher Education Act 1992)" rhowch y geiriau "the appropriate council (within the meaning of section 61A of the Further and Higher Education Act 1992[2])".

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998
     4.  - (1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2 hepgorwch - 

    (3) Yn lle rheoliad 3(2)(m), rhowch - 

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu Awdurdodau Addysg Lleol) 1998
     5.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu Awdurdodau Addysg Lleol) 1998[4] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2 hepgorwch - 

    (3) Yn lle rheoliad 4(d) rhowch - 

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998
     6.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998[5] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 5 (Hysbysu Arolygiad) - 

    (3) Yn rheoliad 6 (Cyfarfod â'r Rhieni) - 

    (4) Yn rheoliad 8 (Cynlluniau Gweithredu) - 

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999
     7.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[6] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (Cynnwys a pharhad Cynllun Trefniadaeth yr Ysgol) - 

    (3) Yn rheoliad 4 (Cyhoeddi'r Cynllun Drafft) yn lle paragraff (1)(a)(viii) rhowch - 

Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999
     8.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999[8] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 7 (Cyrff eraill y dylid anfon cynigion atynt) yn lle paragraff (2)(a) rhowch - 

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999
     9.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[9] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 6(9) yn lle'r geiriau "a further education funding council" rhowch y geiriau "the National Council for Education and Training for Wales".

    (3) Hepgorwch baragraff 20 o Atodlen 1 (Gwybodaeth gyffredinol sydd i'w chyhoeddi gan yr awdurdodau, Rhan II - y ddarpariaeth addysgol arbennig) ac yn ei le rhowch y canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Tachwedd 2001



YR ATODLEN [11]
     1. Adrannau 347(2), 509(6), 527A(4) a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996[12].

     2. Adran 21(3)(c) o Ddeddf Arolygu Ysgolion 1996[13] a pharagraff 6 o Atodlen 3 iddi.

     3. Adran 39(3) o Ddeddf Addysg 1997[14]).

     4. Adrannau 26, 31(7) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[15].



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i reoliadau o ganlyniad i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000. Maent yn disodli cyfeiriadau at Gyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru a Chynghorau Hyfforddi a Menter â chyfeiriadau at Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant. Mae rheoliad 8 hefyd yn adlewyrchu newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf honno mewn perthynas â chynnwys cynllun trefniadaeth ysgol.

Dyma'r Rheoliadau sy'n cael eu diwygio.


Notes:

[1] O.S. 1994/651.back

[2] 1992 p.13. Mewnosodwyd adran 61A gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 37.back

[3] O.S. 1998/644.back

[4] O.S. 1998/880.back

[5] O.S. 1998/1866.back

[6] O.S. 1999/499.back

[7] Mewnosodwyd adran 26(2)(ab) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 80.back

[8] O.S. 1999/1780.back

[9] O.S. 1999/1812.back

[10] 1998 p.38.back

[11] Cafodd yr holl bwerau a restrir yn yr Atodlen eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol, a chafodd pob un o'r pwerau hyn mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[12] 1996 p.56. Amnewidiwyd adran 509(6) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraffau 57 a 133. Mewnosodwyd adran 527(A) gan Ddeddf Addysg 1997, adran 9.back

[13] 1996 p.57.back

[14] 1997 p.44.back

[15] 1998 p.31. Diwygiwyd adran 26 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 80.back



English version



ISBN 0 11090395 1


  Prepared 9 January 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013710w.html