BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £5, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013760w.html

[New search] [Help]



2001 Rhif 3760 (Cy.309)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001

  Wedi'u gwneud 20 Tachwedd 2001 
  Yn dod i rym 18 Ionawr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 27 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru [2] ac ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Archwilio, unrhyw gymdeithasau awdurdodau lleol y mae'n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol ac unrhyw gyrff cyfrifwyr y mae'n ymddangos iddo eu bod yn briodol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 18 Ionawr 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 1996" ("the 1996 Regulations") yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996[3].

Datganiad o Gyfrifon
     3. Mae Rheoliad 6 o Reoliadau 1996 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

Ym mharagraff (3)(k) dilëwch y geiriau "a probation committee,".

Datganiadau Cyfrifydda Eraill
    
4. Mae Rheoliad 7 o Reoliadau 1996 yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn:

Ym mharagraffau (3) a (4), yn lle "£5,000" rhowch "£50,000".

Cyhoeddi'r Llythyr Archwilio Blynyddol
    
5. Ar ôl Rheoliad 16 o Reoliadau 1996 mewnosodir - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Tachwedd 2001



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau'n gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 sydd, er eu bod wedi gwneud o dan ddeddfwriaeth flaenorol, wedi parhau mewn grym yn rhinwedd paragraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 (mesur cydgrynhoi).

Mae Rheoliad 3 yn diwygio Rheoliad 6 o Reoliadau 1996 er mwyn hepgor y cyfeiriad at "a probation committee". Yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 gwelwyd disodli pwyllgorau prawf â byrddau prawf, nad ydynt yn dod o dan Reoliadau 1996.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio Rheoliad 7 o Reoliadau 1996 i godi'r trothwy ariannol lle y mae'n ofynnol i'r cynghorau cymuned yng Nghymru baratoi cyfrifon incwm a gwariant o £5,000 i £50,000.

Mae Rheoliad 5 yn mewnosod gofyniad newydd yn Rheoliadau 1996, sef bod y cyrff perthnasol yn cyhoeddi'r llythyr archwilio blynyddol a gânt oddi wrth eu harchwilydd.


Notes:

[1] 1998 p.18.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1996/672).back

[3] O.S. 1996/590.back

[4] Gweler paragraffau 29 i 34 o'r Code of Audit Practice a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Archwilio ym mis Mawrth 2000.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090402 8


  Prepared 17 January 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013760w.html